Arweinwyr busnesau Cymru'n cefnogi prosiect Eden Las sy'n werth £1.7 biliwn
Mae arweinwyr busnes yng Nghymru'n cefnogi prosiect Eden Las gwerth £1.7bn a gyhoeddwyd ar gyfer Abertawe.
Dywedodd Katherine Bennett, Cadeirydd Porth y Gorllewin, ac Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru, y bydd y prosiect yn creu cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy, wrth helpu i gyflymu adferiad gwyrdd yn dilyn pandemig COVID yng Nghymru.
Mae prosiect Eden Las, sy'n cynnwys morlyn llanw, yn cael ei arwain gan DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr a'u partneriaid busnes, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe ac Associated British Ports.
Bydd prosiect arloesol Eden Las yn cael ei ariannu gan y sector preifat a'i gyflwyno mewn 3 cham dros 12 mlynedd.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys ffatri weithgynhyrchu i greu batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni adnewyddadwy, ynghyd â chyfleuster storio batris i storio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn Eden Las a phweru'r safle.
Bydd y casgliad o baneli solar arnofiol hefyd yn cynnwys, canolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd ynghyd â chanolfan ddata, cartrefi preswyl ar y glannau a thua 150 o eco-gartrefi hynod ynni effeithlon arnofiol, wedi'u hangori yn y dŵr.
Bydd Eden Las yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.
Bydd elfen morlyn y prosiect yn cynnwys tyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf sy'n cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy o'r adeiledd 9.5km.
Meddai Katherine Bennett, CBE, Cadeirydd Porth y Gorllewin, "Rwy'n falch o gefnogi prosiect Eden Las yn Abertawe. Mae'n brosiect uchelgeisiol ac arloesol a fydd o fudd i ardal Porth y Gorllewin ac yn creu cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy.
"Mae ein partneriaeth yn ymrwymedig i ddefnyddio'n cryfderau a'n sgiliau cyfunol ar ddwy ochr yr Hafren i ddatgloi cyfleoedd gwaith newydd i bobl leol gan hefyd ddod o hyd i atebion i ddatgarboneiddio'n heconomi.Mae'r lleoliad eisoes yn gartref i ecosystem hydrogen sy'n datblygu sy'n ymestyn o Abertawe i Swindon, ac rydym yn arwain y cais i ddod â ffatri ymasiad prototeip cyntaf y DU i safle Severn Edge.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Abertawe a thîm Eden Las i weld sut gall ein partneriaeth gorsaf drydan gefnogi'r prosiect hwn ymhellach."
Meddai Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru, "Mae croeso mawr i brosiect Eden Las a bydd yn rhoi hwb economaidd enfawr i Abertawe ac economi ehangach Cymru.
"Mae'r CBI wedi galw ers tro am adferiad gwyrdd o'r pandemig ac mae'r camau sy'n cael eu cymryd yma i gryfhau'r sector adnewyddadwy a chreu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn enghraifft wych o sut i droi'r weledigaeth honno'n realiti."
Caiff Eden Las ei lleoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.
Caiff holl adeiladau a chyfleusterau'r prosiect, gan gynnwys yr eco-gartrefi, eu lleoli ar hyd y morlyn, a byddant yn defnyddio ac yn gwella'r tir presennol yn yr ardal.
Bydd yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn a'r fferm solar yn cael ei ddefnyddio ar y safle, ond mae lle hefyd i allforio 32% o'r ynni hwnnw i'r grid er budd preswylwyr a busnesau lleol. Bydd swm yr ynni gwyrdd a ddefnyddir gan ddatblygiad Eden Las hefyd yn arbed cryn dipyn o ynni rhag cael ei ddefnyddio o'r grid yn y dyfodol.
Gallai gwaith Eden Las ddechrau ar safle'n gynnar yn 2023, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.