Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwystr ieithyddol yn cael ei chwalu wrth i awduron gyflwyno gwobrau

Mae awdur a darlunydd o Abertawe wedi rhoi gwên mawr ar wyneb plant diolch i gystadleuaeth a gynhaliwyd gan wasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe.

Book Competition Winners

Book Competition Winners

Mae Helen a Thomas Docherty sy'n bâr priod wedi cynnig nifer o'u llyfrau lluniau fel gwobrau - ac mae 12 o enillwyr bellach wedi derbyn llyfr yr un.

Roedd y llyfrau a lofnodwyd, a oedd ar gael yn Nhyrceg, Iseldireg, Sbaeneg, Rwseg a Phwyleg, yn gyfieithiadau o lyfrau a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg.

Roedd y gystadleuaeth yn benodol ar gyfer plant sy'n siarad ieithoedd tramor gartref yn rheolaidd.

Er mwyn cael cyfle i ennill, roedd yn rhaid i'r plant fenthyca o leiaf 5 llyfr o Lyfrgell Ganolog Abertawe.

Meddai'r awdur, Helen, "Llyfrgelloedd yw'r lleoedd gorau i ddarganfod llyfrau newydd, felly mae'n bleser i ni allu rhoi'r copïau ieithoedd tramor hyn o'n llyfrau fel gwobrau drwy Lyfrgell Abertawe."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Diolchwn i Helen a Thomas am gynnig eu llyfrau fel gwobrau.

"Mae'r amrywiaeth o ieithoedd yn helpu i ddangos pa mor amrywiol yw'r ddinas rydyn ni'n byw ynddi."

Mae'r enillwyr, y maent i gyd dan 12 oed, yn dod o bob rhan o Abertawe.

Meddai'r darlunydd, Thomas, "Mae gennym ragor o'n llyfrau lluniau mewn ieithoedd gwahanol i'w rhoi fel gwobrau hefyd: Bwlgareg, Catalaneg, Tsieceg, Ffinneg, Almaeneg, Groeg, Hebraeg, Eidaleg, Corëeg, Serbeg a Slofeneg.

"Dylai unrhyw un arall yn Abertawe sy'n siarad yr ieithoedd hyn gartref ymweld â llyfrgell gymunedol er mwyn cael cyfle i ennill un o'r llyfrau hyn!"  

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023