Toglo gwelededd dewislen symudol

Blasus! Cynnig bwyd newydd ar gyfer siopwyr Abertawe

Mae Marchnad Abertawe yn dathlu math newydd o fwyd blaengar.

Bowla at Swansea Market

Bowla at Swansea Market

Mae stondin fwyd ddiweddaraf y lleoliad yn cynnig danteithion dyfeisgar nad ydynt ar gael yn unman arall yn y byd - prydau wedi'u gweini mewn bara siâp hetiau bowler!

Dyfeisiwyd a mireiniwyd y dull a'r peirianwaith i greu'r torthau unigryw gan y peiriannydd Clayton Worth.

Mae'r pryd yn cynnwys powlen a rhôl fara, a gellir tynnu'r dorth fach o'r gwaelod i greu powlen fwytadwy a rhôl er mwyn dipio.

Mae Clayton a'i ferch Hannah wedi agor uned fwyd o'r enw Bowla, sy'n sefyll ochr yn ochr â stondinau bwyd eraill Marchnad Abertawe sy'n gweini miloedd o brydau'r wythnos sy'n amrywio o fwydydd Thai a Mecsicanaidd i fwyd Groegaidd a Japaneaidd.

Mae Hannah yn gweini Bowlas sy'n cynnwys amrywiaeth di-rif o lenwadau o gynhyrchion lleol.

Meddai, "Mae'n wych bod yn y farchnad - mae cymaint yn digwydd yma bob amser ac mae nifer cynyddol o stondinau bwyd gwych."

Cyngor Abertawe sy'n rheoli Marchnad Abertawe. Meddai Aelod y Cabinet a'r Cyd-ddirprwy Arweinydd David Hopkins, "Mae Bowla yn fusnes arloesol newydd cyffrous ac mae'n un o'r nifer a fydd yn helpu Abertawe i ddod yn lle y mae pobl eisiau byw, gweithio, astudio a threulio amser rhydd o ansawdd."

Mae Clayton yn pobi'r rholiau'n ffres bob dydd yn y stondin farchnad a fydd yn gweithredu fel pencadlys Bowla, ac mae'r busnes teuluol yn gobeithio rhedeg siopau dros dro ac allgymorth rheolaidd yn Abertawe a'r cyffiniau.

Llun: Hannah a Clayton Worth yn Bowla.

Close Dewis iaith