Grŵp newydd sy'n cefnogi iechyd emosiynol dynion
Mae clwb i ddynion sy'n cefnogi pobl a allant fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd emosiynol yn mynd o nerth i nerth ac mae wedi cynnal ei sesiwn ddrymio gyntaf yn Arena Abertawe'n ddiweddar.
![Men's Shed - Brewtime - drumming at Swansea Arena](/image/15968/Mens-Shed---Brewtime---drumming-at-Swansea-Arena/standard.jpg?m=1707145342190)
![Men's Shed - Brewtime - drumming at Swansea Arena](/image/15968/Mens-Shed---Brewtime---drumming-at-Swansea-Arena/gi-responsive__100.jpg?m=1707145342190)
Sefydlwyd clwb dynion Brewtime yn 2022 gan grŵp bach o ddynion yn Abertawe a oedd wedi dod at ei gilydd i edrych ar gefnogaeth cymheiriaid i ddynion a allai fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd emosiynol.
Mae niferoedd wedi cynyddu'n raddol ac mae'r grŵp wedi bod yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i ddynion, gan gynnwys sesiynau T'ai Chi wythnosol am ddim a sesiynau paned a sgwrs wythnosol ac maent wedi bod yn rhoi cynnig ar ddrymio Affricanaidd.
Cefnogir clwb dynion Brewtime gan gronfa Men's Sheds Cyngor Abertawe ac mae Arena Abertawe wedi ymuno i gynnal y sesiynau drymio ar y brif lwyfan.
Mae Cydlynydd Ardal Leol y cyngor ar gyfer Mount Pleasant, Dyfaty a Waun Wen, Jo Bevis, wedi bod yn cefnogi'r grŵp ers iddo gael ei sefydlu.