Buddsoddiad yn dod â manteision enfawr nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt i'r ddinas
Mae'r buddsoddiad enfawr mewn ysgolion gwell, tai gwell a phrosiectau adfywio hanfodol ar draws Abertawe o fudd uniongyrchol i geiswyr swyddi, busnesau lleol, disgyblion ysgol, elusennau a chymunedau mewn ffyrdd nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt yn aml diolch i gynllun arobryn a gynhelir gan y cyngor.
Abertawe oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cymalau budd cymunedol i'w holl gontractau o dan ei fenter Y Tu Hwnt i Frics a Morter ac mae'r effaith wedi bod yn bellgyrhaeddol.
Mae'n golygu bod contractwyr yn ymrwymo i ddarparu profiad gwaith, hyfforddiant, prentisiaethau neu gymysgedd o'r tri er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i waith.
Mae'n cynnwys dros 22,000 o wythnosau o recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedi gan gefnogi dros 550 o unigolion o fewn y pum mlynedd diwethaf.
Lle bo'n bosib, mae contractwyr hefyd yn ymrwymo i ddefnyddio cwmnïau a busnesau lleol i ddarparu deunyddiau a gwasanaethau gan gadw gymaint o arian â phosib o fewn yr economi leol.
Gyda'r ddau brosiect a ariennir gan y Fargen Ddinesig yn unig - Bae Copr a 71/72 Ffordd y Brenin - gwariwyd bron i £25m gyda busnesau yng nghôd post SA hyd yma a £27m ychwanegol yng ngweddill Cymru.
Gan ddibynnu ar y prosiect - efallai bydd contractwyr hefyd yn rhoi eu hamser, eu gwasanaethau a'u deunyddiau i gefnogi'r gymuned gyfagos.
Roedd hyn yn cynnwys gosod ceginau a thoiledau newydd mewn nifer o ganolfannau cymunedol a chartrefi gofal ar draws Abertawe, tirlunio mewn ysgolion, gwella toiledau cyhoeddus, paentio ac addurno adeiladau cymunedol fel Canolfan Gymunedol San Phillip yn Abertawe a chymorth ar gyfer elusennau fel Matthew's House sydd wedi elwa o waith adnewyddu.