Hwb ailddatblygu i leoliad celfyddydau
Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu gwella lleoliad perfformiad awyr agored
Mae wedi sicrhau £180,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru a gwella amffitheatr Abertawe sy'n sefyll rhwng y marina a'r LC.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd yr amffitheatr yn helpu i gysylltu ardal Bae Copr â gweithgareddau ac atyniadau hamdden a diwylliannol sy'n denu cannoedd ar filoedd o bobl.
"Gyda chymorth Cronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, mae gennym y cyfle i ailwampio a gwella'r cyfleuster. Bydd hyn yn ei wneud yn fwy deniadol ac ymarferol fel man perfformio.
"Ynghyd â'n buddsoddiad ein hunain, bydd yn ein galluogi i ddefnyddio'r cyfleuster hwn yn llawn unwaith eto. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn dechrau maes o law."
Ers y pandemig, mae'r galw am leoedd diogel yn yr awyr agored ar gyfer gweithgareddau a pherfformiadau diwylliannol wedi cynyddu.
Bydd y gwelliannau i'r amffitheatr yn cynnwys to arddull hwyl wedi'i ddylunio gan artist i amddiffyn y cynulleidfaoedd rhag yr elfennau.
Ymgynghorir â rhanddeiliaid cyn cyflawni'r gwelliannau.