Toglo gwelededd dewislen symudol

Help wrth law i hybu cysylltedd band eang

Mae help ar gael yn awr i gymunedau a busnesau Abertawe sydd am gael mynediad at well band eang.

Using a computer

Using a computer

Mae Swyddog Ymgysylltu Band Eang yn gweithio bellach i Gyngor Abertawe sydd wedi'i ariannu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, i roi gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael gan gynnwys cynlluniau talebau band eang.

Mae'r gwaith yn rhan o raglen isadeiledd digidol £175m y Fargen Ddinesig sy'n bwriadu helpu i sicrhau gwell band eang i bawb ledled De-orllewin Cymru.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu'r ardal i ddod yn Rhanbarth Clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technolegau sy'n dod i'r amlwg, wrth sicrhau tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cysylltedd digidol mor bwysig i fywyd beunyddiol heddiw, gyda chynifer o gymunedau a busnesau'n dibynnu ar eu cyfrifiaduron, eu tabledi a'u ffonau i gael mynediad at wybodaeth.

"Ond, fel llawer o leoedd eraill ledled y DU, mae gan Abertawe ardaloedd lle gellir gwella cysylltiadau band eang.

"Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn helpu i fynd i'r afael â hynny, wrth sicrhau bod gan Abertawe a De-orllewin Cymru'r isadeiledd digidol y bydd ei angen i hybu cymunedau, helpu busnesau i dyfu, denu mwy o fuddsoddiad a chreu mwy o swyddi i bobl leol."

Amcangyfrifir y bydd rhaglen isadeiledd digidol y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o £318m i'r economi ranbarthol yn y blynyddoedd sy'n dod.

Gellir cysylltu â Swyddog Ymgysylltu Band Eang Abertawe, Claire Hughes yn claire.hughes@abertawe.gov.uk 

 

Close Dewis iaith