Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwneir cynnydd da ar y podiau preswyl rydyn ni'n eu gosod i helpu pobl sy'n ddigartref. Tynnwyd ein lluniau yn ystod y gwaith gosod.

Gwneir cynnydd da ar y podiau preswyl rydyn ni'n eu gosod i helpu pobl sy'n ddigartref. Tynnwyd ein lluniau yn ystod y gwaith gosod.

Bryn House Accomodation

Bryn House Accomodation

Mae'r pedair fflat un ystafell wely, sy'n cael eu hadeiladu oddi ar y safle a'u hanfon i'r tir, yn datblygu'n dda ar safle hen ganolfan addysg gymunedol Tŷ Bryn yn Uplands.

Bydd y podiau ynni effeithlon yn gweithredu i safonau ecogyfeillgar PassivHaus ac fe'u defnyddir fel llety dros dro i hyd at chwe pherson.

Rydym yn eu hadeiladu gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir iddynt fod ar gael i'w defnyddio yn y dyfodol agos.

Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis: "Bydd y podiau'n bwysig i'r rheini sy'n eu defnyddio. Byddant yn gymorth mawr i'r rheini sy'n gweithio'n galed i gynnig cefnogaeth dosturiol ac amserol trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys swyddogion y cyngor a sefydliadau partner."

Ers dechrau'r pandemig, mae mwy na 650 o aelwydydd wedi gofyn am gymorth oddi wrthym ac fe'u symudwyd i lety mwy addas.

Trwy weithio gyda phartneriaid yn y sector tai ac elusennau cefnogi, rydym yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau na fydd unrhyw un a gefnogwyd yn ystod y pandemig yn dod yn ddigartref unwaith eto.

Newidiwyd Tŷ Bryn ei hun yn bedair fflat un ystafell wely ar gyfer tenantiaid y cyngor hefyd.