Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gymorth i deuluoedd y ddinas yng nghyllideb y cyngor

Mae rhagor o ardaloedd chwarae cymunedol, gwasanaethau bysus am ddim yn ystod y gwyliau ysgol a phrydau ysgol am ddim i fwy o blant yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe dros y misoedd i ddod.

View of Swansea

View of Swansea

Yn y flwyddyn sy'n dod, bydd y cyngor yn buddsoddi tua £1.9m y dydd i helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi yn yr argyfwng costau byw.

Mae cannoedd ar filoedd o bunnoedd yn cael eu buddsoddi hefyd mewn ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ffyrdd, tai cyngor a gwasanaethau allweddol eraill sy'n cyffwrdd â bywydau preswylwyr bob dydd dan gynigion a gytunwyd gan Gyngor Abertawe ddoe.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Pan fo amserau'n anodd i ni i gyd, rydym yn trawsnewid yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi preswylwyr.

"Roeddem yno i bobl Abertawe drwy'r pandemig ac rydym yma nawr i'w helpu nhw drwy'r argyfwng costau byw."

Ymysg uchafbwyntiau'r gyllideb a ddatgelwyd ddoe mae:

  • £12m ychwanegol i ysgolion ac £11.6m ar gyfer gofal cymdeithasol i fynd â'r gwariant i gyfanswm o £371.5m.
  • Pecyn o wariant cyfalaf gwerth £156m yn gyffredinol
  • O leiaf £5m ar gyfer priffyrdd, gyda £450,000 ar ben hynny i'r gwasanaeth atgyweirio ffyrdd poblogaidd, PATCH
  • Gwaith uwchraddio gwerth £25m i'r morglawdd a'r prom yn y Mwmbwls
  • Dechrau rhaglen £270m bum mlynedd o adeiladu a gwella tai cyngor gyda mwy o gartrefi fforddiadwy i'w rhenti
  • Cronfa ynni £15m i helpu ysgolion ac adeiladau dinesig i reoli'u biliau tanwydd sy'n codi i'r entrychion.
  • Bron £8m er mwyn atgyweirio adeiladau mewn ysgolion ac adeiladau eraill y cyngor.

Cytunwyd ar gynnydd o 5.95% i Dreth y Cyngor neu £1.30 yr wythnos ar gyfer eiddo Band B.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae Treth y Cyngor Abertawe wedi'i osod ymhell o dan y gyfradd chwyddiant sef 10% oherwydd rydym yn deall y pwysau sydd ar aelwydydd. Mae mwy na thraen y cynnydd oherwydd cynnydd o 18% yn ardoll y gwasanaeth tân sy'n gost y tu hwnt i reolaeth y cyngor."

Ychwanegodd, "Bydd y rhan fwyaf o fuddsoddiad y cyngor y flwyddyn nesaf ar gyfer addysgu'n plant a chefnogi'r plant a'r bobl hŷn fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau - fel y dylai fod.

"Ond gwyddom fod buddsoddiadau fel bysus am ddim ac ardaloedd chwarae cymunedol o safon hefyd yn gwneud gwahaniaeth i lawer o deuluoedd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw bob dydd.

"Mae'r adborth rydym wedi'i gael yn dangos mai ein gwasanaethau bysus am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol sy'n aml yn gwneud teithiau'n bosib, a'n parciau, ein traethau, ein cefn gwlad a'n hardaloedd chwarae gwych sy'n gwneud y teithiau hynny'n werth chweil.

"Dyna pam rydym yn buddsoddi £600,000 mewn gwasanaethau bysus am ddim dros y 12 mis nesaf. Ni oedd y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny ac mae eraill bellach yn dilyn ein hesiampl.

"Rydym hefyd yn gwario £2m arall ar ben y £5m a fuddsoddwyd eisoes i uwchraddio ardaloedd chwarae ac £1m pellach ar gyfleusterau sglefrfyrddio. 

"Rydym wedi gwneud mwy na 40 o ardaloedd chwarae hyd yn hyn ac ni fyddwn yn stopio'r gwaith." 

Dywedodd y Cyng. Stewart, er gwaethaf y pwysau ariannol y mae'r cyngor yn ei wynebu - biliau ynni sy'n codi i'r entrychion yn anad dim - y bydd pob cymuned yn Abertawe yn elwa o gyllideb y flwyddyn i ddod.

Mae Abertawe wedi llwyddo i ddenu degau ar filoedd o bunnoedd mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n golygu y gellir dechrau ar brosiectau arwyddocaol, gan gynnwys gwella amgueddfa boblogaidd Abertawe, rhagor o welliannau yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa ac ehangu'r rhwydwaith teithio llesol cymunedol 120km ymhellach.

Mae gwaith newydd ddechrau yn y Mwmbwls ar y gwelliannau i amddiffyn yr ardal rhag llifogydd a fydd yn arwain at fwy o goed, man gwyrdd, prom lledaenach a goleuadau a fydd yn cydweddu â'r amgylchedd newydd.

Yn ogystal â hynny bydd gwerth £270m o fuddsoddiad mewn tai - y bydd rhenti a grantiau'n talu amdano - yn golygu y bydd rhagor o dai cyngor fforddiadwy i'w rhenti'n cael eu hadeiladu ochr yn ochr â'r gwaith cyfredol i wella'r stoc bresennol o 13,500 o dai.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Bydd y buddsoddiad mewn cartrefi'n cynnwys creu tîm llwydni a lleithder dynodedig, i gyflymu camau gweithredu i helpu tenantiaid i ddelio â'r broblem ble bynnag maent yn dod o hyd iddi yn eu cartrefi.

"Ar adeg pan fo angen cefnogaeth, sefydlogrwydd a gobaith ar ein preswylwyr ar gyfer y dyfodol, mae Cyngor Abertawe yn gwneud popeth y mae'n gallu i gyflawni blaenoriaethau pobl."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023