Toglo gwelededd dewislen symudol

Bae Copr yn rhoi hwb gwerth £34.6 miliwn i fusnesau rhanbarthol

O beirianneg ac addurno i loriau a thirlunio, dengys ffigurau newydd fod Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi elwa o waith gwerth dros £34.6 miliwn diolch i adeiladu cam un Bae Copr.

Copr Bay December 2021

Copr Bay December 2021

Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae datblygiad cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, cartrefi newydd, y bont newydd dros Oystermouth Road, fflatiau newydd a lleoedd newydd i fusnesau hamdden a lletygarwch.

Dengys y ffigurau hefyd fod busnesau yn Abertawe wedi elwa o £17.9m o'r £34.6m a wariwyd. Roedd busnesau mewn mannau eraill yng Nghymru y tu allan i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe wedi elwa hefyd o wariant pellach gwerth £18.7m.

Datblygir cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe ac fe'i cynghorir gan y Rheolwyr datblygu RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae datblygiad cam un Bae Copr mor bwysig i Abertawe, De-orllewin Cymru a Chymru gyfan nid yn unig oherwydd yr ymwelwyr, y gwariant a'r swyddi ychwanegol y bydd yn eu cynhyrchu yng nghanol ein dinas ond hefyd oherwydd y busnesau cadwyn gyflenwi lleol a rhanbarthol a thrwy Gymru gyfan sydd wedi elwa o'r prosiect wedi drwy gydol y gwaith adeiladu.

"Dengys y ffigurau hyn y swm enfawr o arian sydd wedi cael ei ailfuddsoddi yn economi Abertawe, yr economi ranbarthol ac economi Cymru drwy waith adeiladu'r ardal newydd, sydd wedi gwneud cynnydd eithriadol yn ystod y pandemig.

"Bydd y miloedd o weithwyr adeiladu sydd wedi bod ar y safle ers i'r gwaith adeiladu gychwyn hefyd wedi bod yn gwario arian yn siopau, bwytai, gwestai, thafarndai a busnesau eraill Abertawe, sydd wedi bod yn hwb i'w groesawu i'n cymuned fusnes yn y cyfnod heriol hwn.

"Ond yn ogystal â Bae Copr, byddwn yn ceisio sicrhau bod busnesau lleol yn elwa yn y ffordd hon fel rhan o'n cynlluniau ailddatblygu sylweddol yn Abertawe. Mae hyn yn cynnwys adeiladu datblygiad swyddfa newydd ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin, gyda digwyddiad eisoes wedi'i gynnal i fusnesau lleol ddysgu am y cyfleoedd sy'n rhan o'r prosiect hwnnw."

Caiff elfen yr Arena o Fae Copr a'r datblygiad swyddfa newydd a gynllunnir ar gyfer Ffordd y Brenin eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe - buddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi'u cymeradwyo.

Mae'r bont newydd dros Oystermouth Road yn Abertawe, sydd hefyd yn rhan o gam un Bae Copr, hefyd wedi'i ariannu'n rhannol gan gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith