Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun grant newydd ar gyfer busnesau Abertawe â chynlluniau twf

Mae arian grant bellach ar gael ar gyfer busnesau yn Abertawe sy'n bwriadu tyfu trwy gyflwyno cynnyrch neu wasanaeth newydd.

Business meeting

Business meeting

Mae'r grant twf yn cynnig 50% o gostau prosiect hyd at uchafswm o £50,000 a £5,000 am bob swydd sy'n cael ei chreu neu ei diogelu.

Mae'r grant, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yn rhan o brosiect angori cymorth i fusnesau sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gall gwariant a allai fod yn gymwys ar gyfer y grant twf gynnwys peiriannau, peirianwaith a chyfarpar arall.

Gallai gwariant ar galedwedd telathrebu ac ar systemau TG fod yn gymwys, ynghyd â chostau celfi ac offer swyddfa cyffredinol, hyfforddiant neu feddalwedd arbenigol, gwasanaethau ymgynghori arbenigol, gosod peirianwaith a thystysgrifau sicrhau ansawdd.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein busnesau wrth wraidd economi Abertawe, felly mae'n allweddol ein bod yn parhau i wneud popeth y gallwn i'w cefnogi.

"Maent yn bwysig oherwydd y swyddi maent yn eu creu ar gyfer pobl leol ond hefyd gan eu bod yn hybu bywiogrwydd ac unigoliaeth cymunedau trwy'r holl ddinas.

"Yn ogystal â'r grant twf hwn ar gyfer busnesau sefydledig, mae nifer o gynlluniau grant eraill hefyd wedi'u lansio.

"Mae'r grantiau hyn yn hanfodol gan ein bod yn gwybod bod angen cyngor ariannol yn aml ar entrepreneuriaid a busnesau o bob maint, naill ai i sefydlu yn y lle cyntaf neu i barhau i dyfu a ffynnu yn y dyfodol.

E-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk am fanylion pellach ac i ofyn am ffurflen gais grant twf.

Mae manylion pob grant busnes sydd ar gael ar hyn o bryd ar gael yn www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau

Mae'r rhain yn cynnwys y grantiau cyn dechrau busnes ac i ddatblygu gwefannau a ariennir hefyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Ebrill 2023