Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau'n canmol gwaith adfywio Abertawe

Mae dau berson busnes arweiniol wedi canmol y gwaith parhaus i adfywio Abertawe.

Rowland Jones & Carwyn Davies

Rowland Jones & Carwyn Davies

Mae Rowland Jones, Cyfarwyddwr RJ Chartered Surveyors a Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, yn meddwl bod graddfa'r gwaith datblygu yn y ddinas yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol disglair.

Mae cynlluniau a arweinir gan Gyngor Abertawe'n cynnwys cyrchfan Bae Copr, gydag Arena Abertawe, y bont newydd dros Oystermouth Road a'r parc arfordirol sydd bellach wedi bod ar agor ers dros flwyddyn.

Mae prosiectau lle mae gwaith adeiladu'n parhau yn cynnwys datblygiad swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin ar hen safle clwb nos Oceana, a fydd yn darparu lle i 600 o weithwyr mewn sectorau fel technoleg a digidol.

Bouygues UK yw'r prif gontractwyr ar gyfer y cynllun hwnnw, a gobeithir cwblhau'r gwaith adeiladu yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae gwaith hefyd yn parhau er mwyn defnyddio adeiladau hanesyddol gwag eto fel Theatr y Palace a Neuadd Albert, ac mae Penderyn ar fin agor distyllfa gweithredol a chanolfan i ymwelwyr ar safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yn y misoedd nesaf, yn dilyn prosiect cadwraeth helaeth ar y safle.

Meddai Mr Jones, "Rwy'n meddwl bod popeth sy'n digwydd yn Abertawe yn galonogol iawn.

"Mae'r bont ac Arena Abertawe wedi gweithio'n dda iawn ers iddyn nhw agor, ac mae Cyngor Abertawe wedi gwneud y peth iawn drwy fod yn ddewr.

"Ynghyd â'r gwyrddni newydd yn y parc arfordirol, mae'r arena a'r bont yn cyfuno â'r lliwiau gwahanol yn uned breswyl Bae Copr i ychwanegu rhywbeth gwahanol a diddorol at y nenlinell.

"Mae hefyd yn galonogol iawn gweld yr holl waith datblygu arall sy'n cael ei wneud yn Abertawe, a chynifer o adeiladau'n cael eu hadfywio a'u defnyddio unwaith eto.

"Lle mae eiddo'n cael eu datblygu, mae cyfleoedd i'n diwylliant wneud argraff. Pan rydych chi'n gweld craeniau ac adeiladu, mae hynny bob amser yn newyddion da."

Ac ymysg y craeniau mae un sydd dros 50 metr o uchder ar Iard Picton rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen, lle mae Hacer Developments yn arwain y gwaith o adeiladu adeilad bioffilig.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn haf 2024, a bydd y datblygiad newydd, sy'n cynnwys hen uned Woolworths ac adeiledd 13 llawr newydd cyfnesaf, yn cynnwys tŷ gwydr trefol arddull fferm wedi'i osod dros bedwar llawr, fflatiau preswyl, siopau a swyddfeydd.

Bydd waliau byw a thoeon byw hefyd, yn ogystal â phaneli solar, storfeydd batri a gerddi ar y to.

Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Bu disgwyl mawr i adfywio Abertawe ac mae'n gyfnod cyffrous iawn.

"Er mwyn i adfywio lwyddo, mae angen mwy na chynlluniau untro. Mae angen grwpiau o gynlluniau - a dyna'r union beth sy'n digwydd yn Abertawe, gydag un enghraifft yn cynnwys ein datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin.

"Gydag arferion siopa pobl yn newid, mae angen cynlluniau fel hyn i helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol dinasoedd, ac i adfywio canol dinasoedd.

"Mae Abertawe ar daith gadarnhaol ac mae llawer mwy i ddod, ond mae cynlluniau sydd eisoes wedi'u cwblhau, fel yr arena, eisoes wedi ychwanegu cymaint at y ddinas. Mae'n adeilad syfrdanol yn bensaernïol, ond mae'r perfformwyr o safon sy'n perfformio yno hefyd yn denu llawer o bobl na fyddent fel arall yn ymweld â'r ddinas.

"Mae hyn yn helpu i godi proffil Abertawe fel lle i fuddsoddi ynddo."