Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe deithiol cyngor busnes am ddim yn dod i Glydach

Bydd cymhorthfa cyngor am ddim i fusnesau yn Abertawe'n dod i Glydach yr wythnos nes.

Meeting of businesspeople

Meeting of businesspeople

Bydd y digwyddiad galw heibio, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn digwydd ddydd Mawrth 23 Ionawr rhwng 10am a 1pm yng Nghanolfan Gymunedol Clydach ar Vardre Road.

Does dim angen cadw lle ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn cynnwys arbenigwyr cymorth i fusnesau o'r cyngor,

Coleg Gŵyr Abertawe, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Bydd mynediad at gymorth i fusnesau a gwybodaeth am grantiau a benthyciadau Cyngor Abertawe ymhlith y gwasanaethau yn y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cymorth gyda cheisiadau ariannu, gwybodaeth am hyfforddiant a recriwtio a chyfeirio at asiantaethau perthnasol.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein busnesau'n gwneud cymaint dros Abertawe - o'r swyddi maent yn eu creu i'r cyfraniad maent yn ei wneud i economi'r ddinas.

"Er hynny, mae angen mwy o gefnogaeth ar lawer o fusnesau, a dyna'r rheswm pam mae ein Tîm Cymorth Busnes ar gael i helpu - ni waeth os yw hyn er mwyn helpu wrth sefydlu busnesau neu i'w cyfeirio at grantiau a fydd yn mynd â nhw i'r lefel nesaf.

"Y gymhorthfa cyngor am ddim hon yng Nghlydach fydd y digwyddiad diweddaraf mewn sioe deithiol o'r digwyddiadau hyn i sicrhau ein bod yn cynyddu ymwybyddiaeth mewn holl gymunedau Abertawe o'r gefnogaeth cymorth i fusnesau sydd ar gael."

Cynhelir digwyddiadau cyngor busnes am ddim eraill yn y misoedd nesaf, a chyhoeddir lleoliadau pan fyddant wedi'u cadarnhau.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes am ragor o wybodaeth am gymorth i fusnesau yn Abertawe.

Mae'r we-dudalen yn cynnwys dolenni gyda gwybodaeth am gyfleoedd ariannu, cymorth digidol a chyngor am recriwtio a hyfforddiant.

Close Dewis iaith