Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymhorthfa cyngor i fusnesau am ddim yn Nhre-gŵyr

Mae cymhorthfa gyngor am ddim yn cael ei chynnal i fusnesau Abertawe yn ddiweddarach y mis hwn.

Businesswoman on laptop

Businesswoman on laptop

Yn ystod y digwyddiad, sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Abertawe, byddwch yn gallu cael gwybodaeth am grantiau a benthyciadau, cymorth i fusnesau a chymorth gyda cheisiadau am gyllid.

Cynhelir y gymhorthfa gyngor ddydd Gwener 23 Chwefror o 10am tan 1pm yn Neuadd y Rechabiaid yn Church Street, yn Nhre-gŵyr. Does dim angen cadw lle, a gwahoddir busnesau o bob rhan o Abertawe i alw heibio.

Bydd y digwyddiad hefyd yn darparu cyfleoedd i rwydweithio, cyfeirio at asiantaethau perthnasol a gwybodaeth am hyfforddiant a recriwtio.

Bydd cynrychiolwyr o'r cyngor, Busnes Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe a Banc Datblygu Cymru wrth law i ateb cwestiynau a rhoi arweiniad.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae cynifer o fusnesau gwych yn Abertawe - yng nghanol y ddinas ac yn llawer o gymunedau eraill ar draws Abertawe hefyd.

"Felly er mwyn cynnal y digwyddiadau hyn yn nes at garreg drws y busnesau hyn, mae ein cymorthfeydd cyngor i fusnesau wedi bod yn teithio ar hyd y lle i geisio helpu cynifer o fusnesau yn Abertawe â phosib.

"Fel pob digwyddiad o'r math hwn, mae cymhorthfa nesaf Tre-gŵyr yn ddigwyddiad galw heibio am ddim a does dim angen cadw lle er mwyn cymryd rhan.

"Yn ogystal â rhoi gwybodaeth am gyfleoedd ariannu a chyngor ar feysydd busnes eraill fel hyfforddiant a recriwtio, mae'r digwyddiadau hefyd yn rhoi cyfle i bobl rwydweithio wrth eu cyfeirio at sefydliadau arbenigol eraill a all fod yn helpu gydag unrhyw gwestiynau ac ymholiadau pellach

Ariennir y cymorthfeydd busnes misol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cânt eu cynnal hefyd mewn rhannau eraill o Abertawe yn y misoedd sy'n dod hefyd, gyda manylion digwyddiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi unwaith y bydd trefniadau ar eu cyfer wedi'u cwblhau.

Close Dewis iaith