Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe (CCLLA)

Sefydlwyd Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe (y Gymdeithas) flynyddoedd maith yn ol.

Mae'r Gymdeithas yn cwrdd unwaith y tymor ac mae rhai aelodau'n gadeiryddion eu cyrff llywodraethu ond mae eraill yn gynrychiolwyr y llywodraethwyr. Ffocws y Gymdeithas yw gwybod y diweddaraf am anghenion llywodraethu ysgolion. Mae swyddogion yr awdurdod lleol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfarfodydd y Gymdeithas ac weithiau gwahoddir siaradwyr gwadd i gyflwyno gwybodaeth i gynrychiolwyr y llywodraethwyr yn y cyfarfodydd.

Penodir swyddogion y Gymdeithas yn flynyddol ac mae pob un yn llywodraethwr ysgol profiadol. Gallwch gysylltu a'r swyddogion yn ddi-oed i drafod gwaith Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe os hoffai unrhyw lywodraethwr gael mwy o wybodaeth neu fynd i gyfarfod y Gymdeithas.

Os hoffai unrhyw un wybod mwy am ddod yn llywodraethwr ysgol mewn ysgol yn Abertawe, gellir cysylltu a'r Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

Manylion Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe
EnwSwyddLlywodraethwr yn:
Mr Jeff BowenCadeirydd

Ysgol Gyfun Penyrheol

Ysgol Gynradd Casllwchwr

Mr John LeeIs-GadeiryddYsgol Gynradd Waun Wen
Mr John WinchesterTrysorydd

Ysgol Gynradd Pentrechwyth

Ysgol Gynradd Trallwn

 

Clerc y Gymdeithas

TBC

ERW

Mr Jeff Bowen yw cynrychiolydd llywodraethwyr Abertawe ar grwp llywodraethwyr Addysg drwy Weithio Rhanbarthol (ERW) .

CCLIA - Cyfansoddiad y Gymdeithas

Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe - Cyfansoddiad y Gymdeithas.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Ionawr 2023