Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025 - Canllawiau Cais am Grant Cyfalaf

Meini prawf a chanllawiau cymhwysedd grant.

 

Canllawiau Cais am Grant Cyfalaf
Cyflwyno cais
Dyfarniad Grant Cyfalaf Bach

Proses cymeradwyo grant
Nodiadau ychwanegol
Bydd pedwar cyfarfod panel
Amodau a thelerau
Dolenni ychwanegol

 

Canllawiau Cais am Grant Cyfalaf

  • Rhaid i ymgeiswyr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos, mewn perthynas â darpariaethau newydd, eu bod yn gweithio tuag at gael eu cofrestru gydag AGC. Bydd angen i Gyngor Abertawe fod yn fodlon bod bwriad gwirioneddol i fod yn weithredol ar adeg gwneud y cais.
  • Defnyddir yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (AGP) i arwain y broses o wneud penderfyniadau ynghylch cynyddu lleoedd.
  • Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn Abertawe.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos y gallant wario'r holl arian a dderbynnir a chwblhau pob cais o dan y rhaglen gyfalaf yn llawn erbyn 31 Mawrth 2025.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos tystiolaeth o'r angen am y buddsoddiad.
  • Mae'n rhaid i ymgeiswyr ymgynghori â'u Swyddog Datblygu, lle bo hynny'n berthnasol.
  • Rhaid i ymgeiswyr gydnabod y buddsoddiad y maent wedi'i dderbyn mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo a roddir i rieni a / neu'r cyhoedd ehangach.

I gael cymorth ychwanegol wrth gwblhau cais am grant, gweler Canllawiau cwblhau grant.

Cyflwyno cais

  • Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy'r ffurflen gais ar-lein.
  • Gellir cyflwyno ceisiadau lluosog hyd nes y bydd y dyraniad uchaf wedi'i ddyfarnu ar gyfer y darparwr unigol.
  • Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu gan Swyddog y Cyngor. Os bydd unrhyw ran o'r ffurflen yn anghyflawn, bydd y cais yn cael ei ddychwelyd i'r ymgeisydd er mwyn iddo ddarparu manylion pellach.
  • Rhennir ceisiadau gyda'r sefydliad partner perthnasol y mae'r ymgeisydd wedi nodi ei fod yn aelod ohono.
  • Bydd pob cais yn destun craffu gan y panel a bydd y panel yn gwneud penderfyniad cyfunol. Bydd y penderfyniad hwn yn derfynol.

 


Dyfarniad Grant Cyfalaf Bach

Blaenoriaethau

Bydd grantiau bach yn cael eu blaenoriaethu i:

  • Gefnogi'r rheini sy'n cefnogi Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yr awdurdod lleol a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.
  • Lleoliadau sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a / neu â phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg.
  • Lleoliadau sy'n cefnogi agenda cydleoli gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, er enghraifft ar safleoedd ysgolion, mewn canolfannau cymunedol a hybiau iechyd.
  • Lleoliadau sy'n darparu'r cynnig gofal plant a / neu leoedd Dechrau'n Deg mewn lleoliadau.
  • Gofal plant y gellir ei ddarparu yn ystod y diwrnod llawn, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posib i deuluoedd ar draws y flwyddyn.
Symiau
DarparwrUchafswm dyfarniad
Gwarchodwyr plant£5,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru ar gyfer 15 o leoedd neu lai£10,000
Darparwyr gofal plant sydd wediu cofresru ar gyfer 16 i 29 o leoedd£15,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru ar gyfer 30 o leoedd neu fwy£20,000

Bydd swm y grant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a chyfiawnhad o'i angen. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dyfernir symiau dros y symiau uchod a ddangosir.

Beth gellir ei ariannu?

Gellir cynnig cyllid ar gyfer gwaith cyfalaf amrywiol y gall fod ei angen, fel:

  • Gwaith adnewyddu cyffredinol, gan gynnwys paentio, gosod carpedi newydd, etc.
  • Gwella cyfleusterau chwarae yn yr awyr agored, fel ailosod yr arwyneb chwarae awyr agored, llochesi neu ddarparu canopi i alluogi chwarae a dysgu ym mhob tywydd.
  • Newid / atgyweirio gosodiadau a darnau gosod fel toiledau, cyfleusterau cegin, ffenestri, drysau etc.
  • Newid cyfarpar / dodrefn / offer chwarae sydd wedi treulio a allai beri risk i iechyd a diogelwch.

Offer TG, ar yr amod y gellir dangos yn glir ei fod yno i gefnogi'r lleoliad i ddarparu cynnig mwy digidol i rieni (h.y. caniatâu 

Offer TG
Cyfraniad ar gyfer bwrdd gwaithUchafswm o £450.00
Cyfraniad ar gyfer gliniadurUchafswm o £300.00
iPad a / neu gais am lechen i blant

iPad / llechen £300.00

1 fesul 8 plentyn sy'n bresennol / uchafswm o 3 fesul lleoliad mwy

Cyfraniad ar gyfer argraffyddUchafswm o £100.00
Ni fydd ceisiadau am fyrddau gwyn rhyngweithiol a / neu gonsolau gemau yn cael eu hystyried yn gymwys o dan y grant hwn.

 

  • Darparu offer, celfi a / neu addasiadau pwrpasol a fydd yn galluogi darparwr i wella arferion cynhwysol.
  • Prynu offer i wella'r defnydd o'r Gymraeg.
  • Cyfraniad tuag at brynu cerbyd.
    • Uchafswm cyfraniad o £10,000.
      Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhoddir cyfraniad ar gyfer cerbyd. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth y bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gludo plant rhwng y lleoliadau gofal plant ac addysg. Ni ellir gwneud cais am gyllid ar gyfer costau prydlesu na chostau cynnal fel yswiriant, petrol, gwaith atgyweirio, etc.

Beth na ellir ei ariannu?

 Mae'r arian grant ar gyfer pryniannau cyfalaf yn unig, ni ellir ei ddefnyddio i ariannu:

  • Prynu nwyddau traul, fel papur, deunyddiau glanhau, cewynnau etc.
  • Costau staff fel cyflogau, hyfforddiant, teithio a chynhaliaeth;
  • Prynu dillad, e.e. Gwisgoedd, esgidiau glaw etc.
  • Biliau cyfleustodau fel nwy, trydan, ardrethi;
  • Darparu costau cynnal ar gyfer cysylltiad wifi;
  • Costau yswiriant e.e. yswiriant adeiladau, yswiriant atebolrwydd cyflogwyr etc.
  • Teganau.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Os oes unrhyw amheuaeth a yw eitem yn gymwys, e-bostwich fis@abertawe.gov.uk

 

Nodiadau pellach am geisiadau grant gan warchodwyr plant

Gan fod gwarchodwyr plant yn gweithio ar safleoedd domestig, dylent ddangos yn glir natur yr hyn gofynnir amdano a pham, a sut mae hyn o fudd i'r lleoliad gwarchod plant a'r plant yn eu gofal. Oni bai fod amgylchiadau eithriadol, ni ddylid darparu cyfraniad grant bach ar gyfer cerbydau, gwiath adnewyddu cyffredinol, ailosod neu atgyweirio ffitiadau o fewn yr eiddo domestig. Fodd bynnag, dylid asesu pob achos yn ôl yr angen, yr amylchiadau a'r amyglchedd y mae'r ddarpariaeth gwarchod plant yn cael ei darparu.

Nodiadau pellach i ymgeiswyr sydd wedi'u lleoli yn adeiladau'r awdurdod lleol

  • Rhaid i'r holl waith arfaethedig ar a / neu o fewn adeiladau'r awdurdod lleol gael ei drafod â swyddogion perthnasol cyn cyflwyno unrhyw geisiadau.
  • Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir gan ymgeiswyr nad ydynt wedi trafod eu prosiect, ac nad ydynt wedi cael y caniatâd angenrheidiol h.y. caniatâd landlord, yn cael eu gwrthod yn awtomatig.
  • Rhaid i'r holl waith arfaethedig ar a / neu o fewn adeiladau'r awdurdod lleol gael ei gwblhau drwy'r Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol.
  • Ni ddylid cysylltu â'r Gwasanaetha Adeiladu Corfforaethol am ddyfynbrisiau hyd nes y cytunir ar y cynnig mewn egwyddor.
  • Y lleoliad a / neu'r ysgol fydd yn gyfrifol am unrhyw ffioedd a godir pan na chytunir ar waith cyfalaf ac ni fyddant yn cael eu derbyn fel tâl i'r rhaglen gyfalaf.
  • Ni ddylai gwaith arfaethedig symud unrhyw fan chwarae swyddogaethol sylweddol o safle'r ysgol.

 

Proses cymeradwyo grant

  • Bydd pob cais llwyddiannus yn derbyn llythyr dyfarnu. Bydd y llythyr yn cynnwys yr amodau a thelerau llawn. Dim ond ar ôl i'r dyfarniad gael ei dderbyn yn ffurfiol, gan gynnwys copi wedi'i lofnodi o'r amodau a thelerau, y bydd unrhyw ddyfarniad yn cael ei ryddhua.
  • Lle teimlir ei fod yn briodol, gellir rhannu dyfarniadau yn daliadau ar wahân. Mewn achosion o'r fath, ar ôl cwblhau'r gwaith yn llwyddiannus a / neu sicrhau contractwyr addas.
  • Rhaid i unrhyw welliannau / addasiadau i adeilad gydymffurfio â rheoliadau adeiladu cyfredol a / neu gadw at safonau rheoleiddio h.y. rhaid i fenestr gael ei gosod yn ôl cymeradwyaeth FENSA etc.
  • Bydd unrhyw bryniant a / neu waith a gwblhawyd oherwydd dyfarniad cyfalaf yn cael ei fonitro'n agos. Bydd angen i geisiadau llwyddiannus lenwi dogfennaeth sicrhau ansawdd, darparu tystiolaeth o wariant a derbyn ceisiadau gan swyddogion y Cyngor i ymweld â'r lleoliad.
  • Rhaid i unrhyw newidiadau i'r cais gwreiddiol gael eu trafod a'u cytuno arnynt gan swyddog y Cyngor cyn clustnodi unrhyw grant i'r cynnig newydd. Gall hyn olygu y bydd angen i chi ail-ymgeisio.

 

Nodiadau ychwanegol

  • Mae'r holl gyllid a rhoddir drwy'r rhaglen gyfalaf am flwyddyn yn unig ac mae'n rhaid ei wario a chwblhau unrhyw waith erbyn 31 Mawrth 2025.
  • Bydd Tîm Partneriaeth a Chomisiynu Cyngor Abertawe yn archwilio'r cyllid yn ystod ac ar ôl cwblhau'r prosiect.
  • Rhaid datgan unrhyw arian dros ben a'i ddychwelyd i Gyngor Abertawe, fel y bo'n berthnasol.
  • Rhaid i unrhyw gyfrifon gynnwys tystiolaeth lawn o wariant, gyda derbynebau.
  • Bydd pedwar cyfarfod panel: Gweler isod. Dim ond ar ôl eu cwblhau'n llawn y bydd ceisiadau'n cael eu cyflwyno i'r panel. Caniatewch o leiaf 7 niwrnod gwaith cyn dyddiadau'r paneli er mwyn sicrhau y gellir derbyn eich cais.

 

Bydd pedwar cyfarfod panel
Dyddiad panel dros droDyddiad cau ar gyfer derbyn cais
Dydd Mawrth 28 Mai 2024Dydd Mawrth 21 Mai 2024
Dydd Mawrth 30 Gorffennaf 2024Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024
Dydd Mawrth 24 Medi 2024Dydd Mawrth 17 Medi 2024
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024

Amodau a thelerau

Disgwylir i bob darparw sy'n derbyn arian cyfalaf dderbyn y cynnig yn ffurfiol yn ysgrifenedig (mae e-bost yn dderbyniol), a llofnodi'r ddogfen amodau a thelerau'r grant sydd ynghlwm wrth y llythyr dyfarnu.

 

Dolenni ychwanegol:

 


Os ydych am dynnu eich cais yn ôl ar unrhyw adeg, rhowch wybod i'r tîm ar unwaith.

I drafod eich cais a / neu dderbyn rhagor o wybodaeth am y grantiau, siaradwch â: fis@abertawe.gov.uk neu 01792 517222

Close Dewis iaith