Toglo gwelededd dewislen symudol

Yn eisiau - arbenigwyr y sector preifat i helpu i annog ffyniant de-orllewin Cymru

Mae angen arbenigwyr deinamig yn y sector preifat er mwyn helpu de-orllewin Cymru i ddod yn rhanbarth mwy ffyniannus, gwyrddach a mwy cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.

Businesspeople

Businesspeople

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn chwilio am geisiadau gan arbenigwyr yn y sectorau trafnidiaeth, cynllunio, defnydd tir, ynni, busnes a'r economi i ymuno â bwrdd cynghori newydd ar gyfer y sector preifat.

Unwaith y bydd ar waith, bydd y bwrdd cynghori yn darparu arweiniad arbenigol ar gyfer aelodau'r pwyllgor, sy'n cynnwys uwch-gynrychiolwyr o bedwar awdurdod lleol Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, yn ogystal ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.

Ceisir profiad helaeth yn y sectorau a nodwyd, yn ogystal â sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu cryf a'r parodrwydd i weithio mewn partneriaeth ag eraill.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae gan dde-orllewin Cymru lawer o botensial, ac mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i greu rhanbarth gwell dros y blynyddoedd i ddod, er budd ein preswylwyr a'n busnesau.

"Mae'r pedwar cyngor rhanbarthol a'r ddau awdurdod parciau cenedlaethol eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â'i gilydd yn llwyddiannus, ond rydym nawr am roi hwb pellach i'n gwaith drwy sefydlu bwrdd cynghori'r sector preifat a fydd yn cynnwys arbenigwyr o'r sectorau rydym wedi'u nodi.

"Bydd yr arbenigwyr hyn yn cynnig mewnwelediad a dadansoddiad o safon o'r sector preifat er mwyn helpu i arwain ein cynlluniau a'n penderfyniadau, a fydd yn ein helpu i greu rhagor o gyfleoedd ac yn galluogi pobl leol i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod wrth adael etifeddiaeth tymor hir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae rhagor o wybodaeth am Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gael yn  http://www.cjcsouthwest.wales/?lang=cy-gb www.cjcsouthwest.wales

Gofynnir i arbenigwyr y sector preifat sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am fod yn aelod o'r bwrdd cynghori, neu wneud cais i fod yn aelod, e-bostio Kristy Tillman yn y CBC yn Kristy.Tillman@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Gorffenaf 2024