CMET - Coll, Camfanteisio a Masnachu Cyd-destunol
Fforwm gweithredol sy'n dod â sefydliadau proffesiynol o bob rhan o Abertawe ynghyd i drafod pryderon sy'n gysylltiedig â niwed y tu allan i'r teulu yw CMET.
Nid yw hyn yn disodli diogelu pobl ifanc unigol, ond mae'n cydnabod y rôl bwysig y mae cymunedau ac asiantaethau partner yn ei chwarae mewn creu mannau diogel y gall plant a phobl ifanc Abertawe dreulio amser ynddynt drwy ddilyn ymagwedd gyd-destunol at ddiogelu.
Sefydlwyd CMET fel rhan o gynllun peilot Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe sy'n ceisio gwreiddio ymagwedd gyd-destunol at ddiogelu yn Abertawe.
Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Dr Carleen Firmin a'i thîm ym Mhrifysgol Durham i ddeall ein systemau presennol ac addasu ein ffordd o weithio er mwyn ystyried cyd-destun gweithgarwch niwed y tu allan i'r teulu. Diben CMET yw sicrhau bod gan bobl ifance fynediad at y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir, gan pobl maent yn ymddiried ynddynt ac mewn lle sy'n ddiogel iddynt. Mae CMET wedi bod ar waith ers mis Tachwedd 2020.