Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Medi 2022 - Awst 2032

CSCA - Ein gweledigaeth deng mlynedd

Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella cynllunio'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal.

Y flwyddyn 2050: Mae'r iaith Cymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cynyddu i filiwn a chaiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rheini nad ydynt yn ei siarad mae yna ewyllys da tuag ati ac ymdeimlad o berchnogaeth ohoni. Mae yna werthfawrogiad heyfd o'r chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru... Ein gweledigaeth ym mhob rhan o'r wlad yw creu amodau ffafriol sy'n cefnogi'r broses o gaffael yr iaith a'r arfer o ddefnyddio sgiliau Cymraeg. Rydym am weld cynnydd yn yr arfer o drosglwyddo'r iaith o fewn y teulu, yr arfer o gyflwyno'r Gymraeg yn gynnar i bob plentyn, system addysg sy'n rhoi sgiliau Cymraeg i bawb...

Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr (Llywodraeth Cymru, 2017)

 

Ers troad y ganrif mae Abertawe wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y disgyblion sy'n cyrchu addysg cyfrwng Cymraeg. Cefnogwyd y cynnydd hwn yn y galw drwy agor tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall ac un ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg arall. Yn ogystal, mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r Cyngor i wneud buddsoddiad enfawr ar draws stoc ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn 2022 byddwn yn gweld mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg yn cael ei creu gydag agoriad yr adeiladau a'r cyfleusterau newydd a gwell ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw. Dilynir hyn gan ofod ystafell ddosbarth ychwangeol yn YGG Bryn y Môr ac YGG Y Login Fach. I ategu'r ddarpariaeth hon rydym hefyd yn darparu darpariaeth wedi'i chyfoethogi yn ein hysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe sy'n cynnwys gwella'r amgylcheddau dysgu yn fewnol ac yn allanol. Mae hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer ein taith tuag at 2050.

Gyda chreu'r lleoedd ychwanegol hyn, ein nod yw gweithio gyda'n holl bartneriaid i hyrwyddo buddion dwyieithrwydd i sicrhau y gall pob rhiant a theulu wneud penderfyniad hyddysg cyn gynted â phosibl ym mywyd eu plentyn. Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anoddach mewn rhai rhannau o'r ddinas a'r sir i gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o oedran ifanc. Byddwn yn ceisio cynyddu cyfleoedd i gael mynediad at ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar fel bod gan fwy o rieni ddewis gwirioneddol wrth ddewis addysg sydd orau ganddyn nhw i'w plant. Wrth i'r lleoedd ychwanegol yn ein stoc ysgolion cyfredol gael eu llenwi byddwn yn adolygu lle mae angen lleoedd pellach yn Abertawe i wireddu hyd eithaf targed Abertawe. Bydd hyn yn cynnwys nodi meysydd lle mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llai hygyrch.

Mae datblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn weledigaeth inni ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd creu cyfleoedd i holl ddisgyblion Abertawe ddod yn ddwyieithog/amlieithog fel eu bod yn dod allan o'n system addysg, yn falch o'u hunaniaeth ac yn hyderus i ddefnyddio'r holl ieithoedd y maent wedi'u caffael.

Wrth i Abertawe ddatblygu ei Strategaeth Hybu'r Gymraeg nesaf 2022-2027 byddwn yn gweithio ar draws y Cyngor a thu hwnt i sicrhau bod y CSCA yn cael ei gefnogi a'i gryfhau gan benderfyniadau a chyfleoedd trwy gydol oes y Strategaeth.

Wrth hyrwyddo dwyieithrwydd, rydym yn rhoi cyfle i'n holl blant ffynnu yn yr iaith o'u dewis, cynyddu eu cyfleoedd bywyd a thrwy ddysgu mwy nag yn iaith, hwyluso dysgu ieithoedd eraill.

Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Byddwn, trwy Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor a thrwy weithio gyda'n holl bartneriaid yn parhau i wneud y mwyaf o gyfleoedd i holl ddysgwyr Abertawe ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.

Gan ystyried hyn i gyd, mae ein gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf fel a ganlyn:

  1. Rhoi cyfle cyfartal i bob dysgwr ddysgu Cymraeg a siarad yr iaith yn hyderus a hyrwyddo buddion dwyieithrwydd.
  2. Cynyddu canran y disgyblion sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau ei fod ar gael ac yn hygyrch i bob dysgwr, o fewn pellter teithio rhesymol i'r cartrefi. Cynyddu canran y disgyblion sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg, i rhwng 23% a 27% o ddisgyblion Blwyddyn 1 erbyn diwedd y Cyllun, a chymhwyso egwyddorion a cymdogaethau 15 munud i sicrhau fod gan bob dysgwr fynediad i addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter rhesymol o'u cartrefi.
  3. Bydd dysgwyr sydd wedi mynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd yn cael eu hannog i barhau â hyn wrth drosglwyddo i gyfnodau allweddol dilynol yn y cyfnod uwchradd a disgwylir iddyn nhw wneud hynny.
  4. Sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg, cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill ac sy'n gallu defnyddio eu hieithoedd yn hyderus gyda'u teuluoedd, ffrindiau, cymdogion ac yn y gweithle.
  5. Rhoi cyfle ieithyddol cyfartal i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
  6. Rhoi cyfle ieithyddol cyfartal i ddysgwyr sydd â'r Gymraeg neu'r Saesneg fel ieithoedd ychwangeol.
  7. Dyheu, trwy'r cynllun hwn, bod Abertawe'n cyfrannu'n sylweddol at y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r ddogfen hon yn ei hanfod yn nodi cynllun strategol a fydd yn cael ei ategu gan gynlluniau gweithredu priodol i droi'r weledigaeth yn realiti. Mae angen i'r cynllun strategol a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig fod yn ddogfennau 'byw' a fydd yn cael eu hadolygu fel y bo'n briodol trwy gydol y blynyddoedd i ddod. Yn ôl eu natur, dim ond ar ôl cwblhau a chymeradwyo'r cynllun strategol hwn yn ffurfiol y gellir datblygu'r cynlluniau gweithreredu yn llawn.

CSCA - Ein targed deng mlynedd

Ein targed deng mlynedd yn amlinellu'r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i ni osod targed deng mlynedd yn amlinellu'r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal Abertawe yn ystod oes y Cynllun. Dyma'r targed deng mlynedd cyffredinol ar gyfer CSCA 2022 - 2032.

Bydd nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio ym mhob grŵp blwyddyn, felly mae'r targed yn seiliedig ar nifer y dysgwyr Blwyddyn 1 ( plant 5 a 6 oed), sy'n cynrychioli dechrau addysg statudol. Mae data PLASC ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 1 yn cynrychioli'r set ddata fwyaf cynhwysfawr sydd as gael i ddysgwyr ar gamau cynharaf addysg ysgol gynradd.

Yn ogystal, mae awdurdodau lleol wedi'u grwpio i wahanol gategorïau sy'n adlewyrchu'r gwahaniaethau (ac yn cydnabod elfennau tebyg) rhwng y 22 awdurdod lleol. Roedd y ffactorau a ystyriwyd wrth grwpio yn cynnwys canran y dysgwyr a addysgwyd yn Gymraeg yn ein hardal; modelau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a fabwysiadwyd gennym ni a natur ieithyddol ein hardal. At y diben hwn mae Abertawe wedi'i gosod yng Ngrŵp 3.

Grŵp 3: Roedd rhwng 14% a 19% o blant Blwyddyn 1 yn yr awdurdodau lleol hyn yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2019/2020. Efallai mai addysg gymunedol cyfrwng Cymraeg yw'r norm mewn un/nifer fach iawn o feysydd, ond dyma'r eithriad nid y rheol. Fel arfer mae dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Saesneg.

Targed Abertawe
2019/2020Targed 2030/2031
  Ystod IsafYstod Uchaf
NiferCanranNiferCanranNiferCanran
39015.4%59023%69527%

Mae'r ystod isaf wedi'i gosod fel bod y targed cenedlaethol o 30% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2030/2031. Ni ddylid ystyried bod yr ystod uchaf yn derfyn uchaf - fe'n hanogir i ragori ar y targedau lle bo hynny'n bosibl.

Wrth i ni baratoi'r cynllun10 mlynedd hwn, nifer y plant Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng Gymraeg (Ionawr 2021) yw 388, sy'n cynrychioli 15.1% o garfan y flwyddyn honno yn Abertawe ac erbyn Ebrill 2021 yr oedd yn 383 - 14.9%.

Y rhif derbyn ar gyfer ein hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2021 yw 495. Mae hyn yn golygu bod lle ar hyn o bryd i 107 o blant ychwanegol gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng ngharfan Blwyddyn 1. Byddai hyn yn cynrychioli 19.2% o'r garfan gyfredol.

Mae'r Cyngor yn anelu at gynyddu nifer y disgyblion a'r teuluoedd sy'n dewis darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn sylweddol. Ar sail y cynnydd % targed a ragnodir gan Llywodraeth Cymru, a'n rhagolwg o'r boblogaeth disgyblion dros y 10 mlynedd nesaf, bydd angen i ni:

  • Bynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 200 a 400 o ddisgyblion (yn seiliedig ar ffigurau cyfredol y garfan). O ystyried lleoliad a chyfansoddiad ieithyddol ein hysgolion ar hyn o bryd, mae gennym y strategaethau cyflenwol canlynol i gyflawni'r cynnydd targed mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg:

→ Cynyddu'r cynnig cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg fel rhan o strategaeth farchnata ehangach i hyrwyddo buddion bod yn ddwyieithog. Bydd hyn yn cynnwys o leiaf yn Cylch Meithrin sy'n gysylltiedig â phob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu ardaloedd yn eu dalgylch ac edrych ar gyfleoedd i gynyddu'r cynnig Cymraeg Dechrau'n Deg yn ein lleoliadau presennol.
→ Llenwi'r tua 107 lle cyfrwng Cymraeg Blwyddyn 1 ychwanegol sydd eisoes ar gael yn ein hysgolion trwy hyrwyddo'n effeithiol fuddion darpariaeth ddwyieithog.
→ Sefydlu ysgol(ion) cyfrwng Cymraeg newydd/cynyddu capasiti mewn ardaloedd lle mae galw mawr a/neu nodi ardaloedd lle mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llai hygyrch ar hyn o bryd. Mewn achosion o'r fath, efallai y bydd angen cynnwys prosiectau mewn rhaglen gyfalaf yn y dyfodol.

 

CSCA - Deilliannau allweddol

Er mwyn cefnogi'r broses gynllunio, mae'n ofynnol i ni drefnu ein Cynllun o amgylch y deilliannau isod. Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu taith addysg dysgwr ac yn gyson â meysydd polisi Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol.

 

  • Deilliant 1: Mwy o blant meithrin / plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall.
  • Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.
  • Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
  • Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

CSCA - Amcan 1: Mwy o blant meithrin / plant 3 oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Mwy o blant meithrin/plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg Dangosir nifer y plant meithrin (M2)/plant tair oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf yn y tabl isod.

 

MeithrinIonawr 2017Ionawr 2018Ionawr 2019Ionawr 2020Ebrill 2021
Abertawe404 388 400 383 34215.2%

At ddibenion cymharu mae'r niferoedd dros yr un cyfnod yn ein darpariaeth Meithrin (M2) cyfrwng Saesneg fel a ganlyn:

MeithrinIonawr 2017Ionawr 2018Ionawr 2019Ionawr 2020Ebrill 2021
Abertawe2119 2083 2112 2008 190684.8%

Ar hyn o bryd mae un lleoliad Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, saith Cylchoedd Mudiad Meithrin a naw cylch Ti a Fi.

Mae pob un o'r 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn darparu cynnig meithrin rhan-amser. Fel y mae ar hyn o bryd mae mwy o gyfleoedd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Saesneg cyn-ysgol ac felly gall hyn effeithio ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan rieni yn gynnar yn natblygiad eu plentyn oherwydd pellter neu agosrwydd eu hysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg.

Mae'n bwysig nodi hefyd, fel y nodwyd yn gynharach yn y ddogfen hon,y gyfradd genedigaethau sy'n dirywio yn Abertawe yn ystod yr un cyfnod ac y dylai'r ffocws fod ar ganran y disgyblion yn hytrach na'r niferoedd gwirioneddol. Mae angen i ni hefyd ddeall yn llawn effaith COVID-19 a chydnabodbod angen bod yn ofalus wrth drin amcanestyniadau ar hyn o bryd.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Mae Amcan 1 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn defnyddio data sy'n deilio o'n hadolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ein hardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016) i lywio'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

Rhaid i ni hefyd esbonio'n glir sut y byddwn yn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr ynghylch argaeledd a'r math o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir, sut y byddwn yn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr sy'n nodi bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau waeth beth fo'u cefndir ieithyddol a sut y byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y buddion y gall dwyieithrwydd ac amlieithrwydd eu cynnig.

Yn olaf, mae angen datganiad arnom yn nodi sut y byddwn ni, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol eraill yn ôl yr angen, yn hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddaint drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant dysgwyr yn unol â'r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008). 

Mae ein targedau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fel y nodir yn y tabl isod:

Niferoedd a % y plant 3 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
2022-20232023-20242024-20252025-20262026-2027
35516.3%363-36717.1-17.3373-38117.1-17.5385-39717.8-18.4399-41718.5-19.4
2027-20282028-20292029-20302030-20312031-2032
415-43919.9-20.3433-46519.9-21.4455-49520.9-22.7481-52521.9-23.9507-59523%-27%

Mae'r targedau hyn yn adlewyrchu amcanestyniadau presennol disgyblion yn Abertawe ac fe'u hadolygir yn flynyddol.

Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a chynyddu nifer y lleoedd addysg feithrin cyfrwng Cymraeg o 15.4% i rhwng 23-27% o'r garfan gymwys erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd, yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Sefydlu is-grŵp blynyddoedd cynnar i fonitro gwaith yn y maes hwn o lansio'r Cynllun.
  2. Gweithio gyda Mudiad Meithrin i agor 3 lleoliad Cylch Meithrin newydd (7 lleoliad yn Abertawe ar hyn o bryd) yn nalgylchoedd ysgolion YGG Lon Las, YGG Y Login Fach ac YGG Tan-y-lan ac archwilio cyfleoedd i ddatblygu opsiynau gofal plant cofleidiol cyfrwng Cymraeg i gefnogi rhieni. Bydd hyn yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol, i gynnwys pob plentyn 2 oed, fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithrediad.
  3. Gweithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin a phartneriaid eraill i gychwyn 5 Cylch Ti a Fi newydd (9 yn Abertawe ar hyn o bryd) i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio Cymraeg cynnar i rieni a'u plant.
  4. Datblygu strategaeth Cymraeg ar draws ein holl leoliadau Dechrau'n Deg i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o leoliadau Cymraeg (1 at hyn o bryd).
  5. Cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar Cymraeg fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn ardal ein hawdurdod lleol.
  6. Fel rhan o strategaeth farchnata glir ar fuddion bod yn ddwyieithog / amlieithog, creu llwyfan digidol priodol i ddarparu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel i rieni a gofalwyr. Bydd hyn ar y cyd â sefydliadau partner ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg a darpariaeth leol i hyrwyddio ymwybyddiaeth, ysgogi diddordeb a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus.
  7. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun byddwn yn cynnal adolygiad llawn o broses derbyniadau'r cyngor i sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn gwbl ymwybodol o'r cynnig Cymraeg ar bob cam o'r broses a bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
  8. Archwilio cyfleoedd gyda chydweithwyr Iechyd i gasglu gwybodaeth gan rieni wrth gofrestru genedigaeth eu plentyn er mwyn sefydlu ffordd fwy uniongyrchol o gyfathrebu â theuluoedd am ein cynnig Cymraeg a manteision bod yn ddwyieithog / amlieithog.
  9. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun byddwn yn comisiynu ymchwil mewn meysydd lle mae'r defnydd o Gymraeg yn isel a / neu o fewn grwpiau / cymunedau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol (gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) i ddeall y rhesymau dros hyn a datblygu cynllun gweithredu clir i wella'r wybodaeth sydd ar gael a'i hyrwyddo i'r grwpiau a'r ardaloedd hyn.
  10. Comisiynu ymchwil gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol ar amrywiol ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o fanteision bod yn ddwyieithog ac o addysg cyfrwng Cymraeg.
  11. Cefnogi ysgolion, Mudiad Meithrin a Choleg Gŵyr Abertawe gyda datblygu, hyrwyddo a darparu cymwysterau gofal plant i gynyddu nifer y staff sydd ar gael i weithio yn y nifer cynyddol o leoliadau.
  12. Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a hywryddo cynnig hyfforddiant pwrpasol i staff ar draws pob lleoliad gofal plant yn Abertawe i ganiatáu i bob lleoliad gynyddu eu cynnig Cymraeg.
  13. Datblygu meincnod Abertawe i nodi a hyrwyddo'r cynnig Cymraeg ar draws pob lleoliad gofal plant ac annog a hyrwyddo Cynnig Gweithredol ar draws yr holl ddarparwyr cyn-ysgol a gofal plant.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Cynyddu nifer y lleoedd addysg feithrin cyfrwng Cymraeg sy'n cyd-fynd â'r ddarpariaeth gynradd er mwyn sicrhau bod gennym allu a dosbarthiad priodol o leoedd ledled y ddinas a'r sir. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd i agor o leiaf 3 math o fynediad (yn amodol ar gyllid cyfalaf a phrosesau ymgynghori statudol). Byddai unrhyw adeiladau newydd yn ystyried lleoliad Mudiad Meithrin cefnogol.
  2. Gweithio gydag ysgolion a Mudiad Meithrin i nodi dalgylchoedd ysgolion a fyddai'n elwa a gael lleoliad ychwanegol a cheisio cyflawni hyn.
  3. Datblygu opsiynau gofal plant cofleidiol cyfrwng Cymraeg i gefnogi rhieni i gael mynediad at y cynnig 30 awr ar y cyd â'n partneriaid gan gynnwys Mudiad Meithrin trwy:
    • Archwilio dichonoldeb i gynnwys gofod a chyfleusterau ar gyfer darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg (fel darpariaeth Cylch Meithrin) i'w cynnwys ym mhob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd fel sydd wedi digwydd yn YGG Tirdeunaw ac YGG Tan-y-lan.
    • Archwilio cyfleoedd i gynnwys gofod a chyfleusterau ar gyfer darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg (fel darpariaeth Cylch Meithrin) i'w cynnwys mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol gan ddefnyddio grantiau cyfalaf Cymru.
  4. Sicrhau fod cydweithwyr iechyd a gwasanaethau cyffredinol eraill yn ymwybodol o'r CSCA ac wrthi'n hyrwyddo negeseuon cyson ynghylch buddion bod yn ddwyieithog / amlieithog ac yn gallu chwalu chwedlau a phryderon i gefnogi penderfyniadau rhieni ynghlych addysg eu plentyn.
  5. Adolygu'r sefyllfa drafnidiaeth gyfredol ar gyfer disgyblion meithrin ac, yn amodol ar unrhyw newidiadau ym Mesur Trafnidiaeth Cymru, adolygu'r hyn y gellir ei wneud i hyrwyddo ymhellach fynediad at y cynnig cyfrwng Cymraeg. Ystyrir hyn ochr yn ochr ag agenda Newid Hinsawdd Abertawe.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyrfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Mudiad Meithrin a'r Cylchoedd Meithrin
  • Ysgolion Abertawe
  • Menter Iaith Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Profysgol Bae Abertawe
  • Tîm Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Darparwyr gofal plant preifat
  • Pob Lleoliad Dechrau'n Deg
  • Partneriaeth
  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

CSCA - Amcan 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Mwy o blant dosbarth derbyn/plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Dangosir nifer y plant dosbarth derbyn/plant pump oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf yn y tabl isod.

 

Dosbath DerbynIonawr 2017Ionawr 2018Ionawr 2019Ionawr 2020Ebrill 2021
Abertawe43815.6%41215.8%39715.7%40015.5%37915.4%

At ddibenion cymharu mae'r niferoedd dros yr un cyfnod yn ein dosbarthiadau Derbyn cyfrwng Saesneg fel a ganlyn:

Dosbath DerbynIonawr 2017Ionawr 2018Ionawr 2019Ionawr 2020Ebrill 2021
Abertawe235884.4%218884.2%212684.3%216584.5%209284.6%

Ar y dudalen nesaf rydym yn edrych ar y sefyllfa bresennol ar draws ein holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd pellach sy'n gysylltiedig â'n hysgolion presennol.

Ar hyn o bryd mae gennym 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar draws Abertawe gyda lefelau amrywiol o gapasiti dros ben. Yn ogystal â gwelliannau sy'n gysylltiedig â'n hysgolion presennol (a amlygir isod) byddwn yn archwilio cyfleoedd i agor o leiaf 3 math newydd o fynediad yn ystod oes y Cynllun (yn amodol at gyllid cyfalaf a phrosesau ymgynghori statudol).

 Capasiti Cyfredol 
YsgolIonawr 2021 Nifer Plant Llawn AmserCapasiti CyfredolGwahaniaeth Cyfredol% gwarged CyfredolCamau pellach arfaethedig (Yn amodol ar gymeradwyo'r buddsoddiad angenrheidiol)
Bryniago1842223817.1%Ystyried sgôp ar gyfer darpariaeth feithrin / cofleidiol i hybu niferoedd derbyn. Adolygu'r galw am leoedd a safleoedd amgen yng ngoleuni datblygiadau Safle Strategol y CDLl a newidiadau mewn darpariaeth trawsffiniol.
Bryn-y-mor2242603613.8%Ystyried sgôp ar gyfer gwella cyfleusterau ymhellach a chynyddu capasiti ar y safle ar gyfer disgyblion / cael gwared ar lety is-safonol yn ogystal  â safleoedd amgen posibl.
Gellionen2183058728.5%Dylai fod lle i gynyddu niferoedd yn yr ysgol.
Llwynderw303320175.3%Adeilad newydd sy'n briodol i'r galw presennol.
Lon Las4375309317.5%Adeilad newydd (2.5 AB) yn briodol ar gyfer y galw presennol.
Pontybrenin505501-4-0.8%Darperir ystafelloedd dosbarth ychwanegol wrth adolygu'r galw am leoedd a chyfleoedd ar gyfer adeiladu newydd / safle gwell yng ngoleuni datblygiadau Safle Strategol y CDLl. Adolygu effaith newidiadau dalgylch.
Tan Y Lan16142025961.7%Adolygu effaith adeiladau newydd a newidiadau mewn dalgylchoedd mewn niferoedd derbyn.
Tirdeunaw34252518334.9%Adolygu effaith adeiladau newydd a newidiadau mewn dalgylchoedd mewn niferoedd derbyn.
Y Cwm1371976030.5%Ystyried y posibilrywdd o wneud y defnydd gorau o'r safle yn y dyfodol yng ngoleuni'r galw am leoedd.
Y Login Fach20821462.8%Adolygu'r galw am leoedd yn y dyfodol yng ngoleuni safle strategol y CDLl - potensial ar gyfer safle newydd mwy. Ystyried lle i wella cyfleusterau ymhellach a chynyddu capasiti ar y safle ar gyfer disgyblion.
Strategaeth Cyffredinol    Adolyguad pellach o ddalgylchoedd i adlewyrchu newidiadau mewn capasiti / trefniadaeth ysgolion / effeithiau CDLl. Mynediad i adnoddau angenrheidiol a buddsoddiad cyfalaf i gyflawni strategaeth y tu hwnt i Fand B a darparu 2 / 3 dosbarth mynediad pellach.
Cyfanswm Cynradd2,7193,49477522.2% 

 

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Mae Amcan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i no osod targed sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant derbyn sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hardal yn ystod oes y Cynllun.

Rhaid i ni hefyd nodi sut y byddwn yn cyflawni'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg, sut y bydd ceisiadau a wnawn am arian grant gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'n hysgolion a gynhelir yn ystyried y targed i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a'n trefniadau o ran a ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y darperir gwybodaeth i rieni a gofalwyr.

Mae Cyngor Abertawe wedi cynyddu nifer y lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg o 1,912 o leoedd ym mis Medi 2004 i'r cyfanswm cyfredol o 3,494 o leoedd, cynnydd o 1,582 neu 82.7%. Mae hyn yn adlewyrchu'r buddsoddiad cyfalaf sylweddol parhaus mewn llety a chyfleusterau cyfrwng Cymraeg ac yn dod i gyfanswm o £36.9m hyd yma ym Mand B y Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif yn unig.

Mae ein targedau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fel y nodir yn y tabl isod:

Niferoedd a % y plant 5 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
2022-20232023-20242024-20252025-20262026-2027
36916.9375-38017.7-17.9385-39217.7-18.0395-40818.3-18.9407-42518.9-19.7
2027-20282028-20292029-20302030-20312031-2032
421-44519.5-20.6437-46920.1-21.6457-49720.9-22.8481-52521.9-23.9507-59523%-27%

Mae'r targedau hyn yn adlewyrchu amcanestyniadau presennol disgyblion yn Abertawe ac fe'u hadolygir yn flynyddol.

Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a chynyddu canran y plant oed Derbyn sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o gymryd lleoedd addysg feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg o 15.4% i rhwng 23-27% o'r garfan gymwys erbyn diwedd y 10 mlynedd cynllun, yn y 5 mlynedd gynraf byddwn yn:

  1. Ceisio cynnal capasiti ledled y ddinas yn y sector cyfrwng Cymraeg cynradd ar 10% yn ychwanegol at y cymeriant a ragwelir i gefnogi twf a chaniatáu ar gyfer derbyniadau yn flwyddyn a hyblygrwydd ar gyfer trosglwyddio.
  2. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun bydd adolygiadau ardal manwl ar draws y ddinas a'r sir i flaenoriaethu rhaglenni cyfalaf yn y dyfodol (ar ôl Band B y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu). Bydd yr adolygiadau hyn yn llywio lleoliad capasiti cyfrwng Cymraeg ar lefel gynradd (gyda meithrinfeydd) a byddant yn rhan o'n strategaeth gyfalaf a'n Cynllun Datblygu Lleol yn ogystal â chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y lleoedd gwag sydd ar gael mewn rhai ardaloedd.
  3. Bydd unrhyw ddarpariaeth newydd yn amodol ar gymeradwyaeth wleidyddol ar gyfer y broses ymgynghori statudol a Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfalaf yn y dyfodol.
  4. Annog 100% o blant sy'n mynychu Cylch Meithrin i drosglwyddo i feithrinfa cyfrwng Cymraeg trwy greu partneriaethau ffurfiol sy'n cynnwys ysgolion unigol, Mudiad Meithrin a Chyngor Abertawe.
  5. Ym Mlwyddyn 1 byddwn yn cwblhau'r adolygiad o'n darpariaeth drochi sylfaenol gyfredol ac yn gosod cynllun gweithredu clir i wella'r cynnig i gefnogi caffael iaith dwys a dal i fyny. Rydym wedi llwyddo i gael grant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith cychwynnol hwn.
  6. Hyrwyddo'r ddarpariaeth drochi cyfrwng Cymraeg gynradd i bob ymholiad trosglwyddo newydd yn ystod y flwyddyn i'w derbyn i ysgolion Abertawe.
  7. Archwilio a datblygu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth hwyrddyfodiaid uwchradd i gefnogi dysgwyr sydd am drosglwyddo yn nes ymlaen yn eu taith addysg a hefyd i gefnogi disgyblion cyfredol yn ein hysgolion sydd mewn perygl o adael addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym wedi llwyddo i gael grant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith hwn.
  8. Hyrwyddo buddion dwyieithrwydd yn weithredol i deuluoedd sy'n ceisio lle addysg yn Abertawe gan ein gwasanaeth derbyniadau ac yn ein llenyddiaeth canllawiau derbyn.
  9. Comisiynu ymchwil mewn meysydd lle mae'r rhai sy'n cymryd addysg cyfrwng Cymraeg yn isel a / neu o fewn grwpiau / cymunedau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol (gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) i ddeall y rhesymau dros hyn a datblygu cynllun gweithredu clir i wella'r gwybodaeth sydd ar gael a hyrwyddo'r hyn sydd ar gael i'r grwpiau a'r ardaloedd hyn.
  10. Gwella ystod a hyrwyddiad gweithgareddau allgyrsiol a chyfleoedd cymdeithasol eraill o fewn a thu allan i'r ysgol ar y cyd â'n partneriaid gan gynnwys Menter Iaith Abertawe, yr Urdd, ein hysgolion, busnesau lleol a gwirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg.
  11. Fel rhan o'n strategaeth farchnata glir ar fuddion bod yn ddwyieithog / amlieithog, cynyddu'r llenyddiaeth a'r arweiniad sydd ar gael i gefnogu teuluoedd sy'n gwneud perderfyniadau ynghylch addysg eu plentyn gydag ystod o astudiaethau achos gwell i ddangos amrywiaeth ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a buddion i ddysgu Cymraeg waeth beth yw iaith eich cartref.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Darparu'r capasiti pellach sydd ei angen i gyflawni cyfanswm o 3 math o fynediad i ysgolion cynradd o leiaf (yn amodol ar gyllid cyfalaf a phrosesau ymgynghori statudol) ar draws oes y cynllun.
  2. Creu'r cyfleoedd i bartneriaethau traws-ysgol wella ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ac annog plant i fod â mwy o awydd i ddysgu ac o bosibl ystyried trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg.
  3. Cefnogi bob ysgol i ddatblygu a gweithredu Cwricwlwm i Gymru 2022 i sicrhau twf yn y cyfleoedd i bob plentyn yn y ddinas a'r sir ddysgu Cymraeg a theimlo'n hyderus wrth ddatblygu eu sgiliau a siarad yr iaith. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu a gweithredu un continwwm o ddysgu Cymraeg gan Lywodraeth Cymru.
  4. Uwch-sgilio'r cymhwysedd ieithyddol y gweithlu addysg a dysgu cyfrwng Saesneg cyfredol i sicrhau eu bod yn teimlo'n hyderus i gefnogi gwell dysgu'r Gymraeg gyda'r holl ddisgyblion fel rhan o'r cynnig Cwricwlwm i Gymru newydd.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Mudiad Meithrin a'r Cylchoedd Meithrin
  • Ysgolion Abertawe
  • Menter Iaith Abertawe
  • bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Tîm Rhaglenni Blynyddoedd Cynnar
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Darparwyr gofal plant preifat
  • Pob Lleoliad Dechrau'n Deg

CSCA - Amcan 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall.

Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall. Yn Abertawe mae gennym hanes da iawn o gadw disgyblion wrth iddynt drosglwyddo o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3.

Dros y tair blynedd diwethaf mae hyn wedi gweld 99.7%, 98.7% a 97.5% yn y drefn honno yn trosgwlyddo o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Rhifau Trosglwyddo Cyfrwng Cymraeg

  Ymadawyr Blwyddyn 6 yn...Derbyniad Blwyddyn 7 yn...
SefydliadYsgol201820192020201820192020
2189YGG Bryniago193424   
2098YGG Bryn Y Mor313344   
2133YGG Felindre060   
2232YGG Gellionnen292843   
2235YGG Llwynderw404243   
2036YGG Lonlas776851   
2212YGG Pontybrenin497053   
2242YGG Tan-y-lan71419   
2231YGG Tirdeunaw536156   
2229YGG Y Login Fach303030   
2245YG Y Cwm023   
4078Ysgol Gyfun Bryn Tawe   164169164
4074Ysgol Gyfun Gŵyr   170214193
 Cyfansymiau335388366334383357
 Canran Cadw   99.7%98.7%97.5%

Ar y dudalen nesaf rydym yn edrych ar y sefyllfa bresennol ar draws ein holl ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd pellach sy'n gysylltiedig â'n hysgolion presennol.

Ar hyn o bryd mae gennym 2 ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyda phrosiectau cyfalaf wedi'u cynllunio neu'n digwydd ar hyn o bryd yn y ddau safle. Byddai hyn yn cynyddu'r capasiti i sicrhau bod y ddwy ysgol yn cael eu diogelu yn y dyfodol yn y tymor byr i ganolig. Wrth i ni ddechrau cyrraedd ein targedau ar gyfar cynyddu nifer y disgyblion sy'n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg, bydd angen i ni ystyried y posibilrywdd o gynyddu ein capasiti ymhellach i wasanaethu'r dysgwyr ychwanegol.

 

 Capasiti Cyfredol 
YsgolIonawr 2021 Nifer Plant Llawn AmserCapasiti CyfredolGwahaniaeth Cyfredol% Gwarged CyfredolCamau pellach arfaethedig (Yn amodol ar gymeradwyo'r buddsoddiad angenrheidiol)
Bryn Tawe8821,24336129.0%Adolygu'r galw am leoedd a chyfleoedd yng ngoleuni datblygiadau / cyfraniadau Safle Strategol y CDLl. Sicrhau bod y llety presennol yn briodol ar gyfer y niferoedd a gynllunnir a bod unrhyw gyfle yn cael ei nodi i wella capasiti ymhellach yn y dyfodol (cyflwynwyd achos busnes Band B). Adolygu ymhellach y cysylltiadau partner cynradd presennol i gyfateb yn well y galw am leoedd a chapasiti ysgol yn oystal ag optimeiddio costau cludiant o'r cartref i'r ysgol.
Gŵyr1,1021,069-33-3.1%Ystyried ynrhyw sgôp pellach ar gyfer gwella cyfleusterau ar y safle i ddisgyblion (cynllun Band B bron wedi ei gwblhau). Ystyried adolygiad pellach o'r ysgolion cynradd partner sy'n bwydo ar hyn o bryd er mwyn ail-gydbwyso'r galw a'r capasiti ymhellahch.
Strategaeth Cyffredinol    Adolygiad pellach o ddalgylchoedd i adlewyrchu newdiadau mewn capasiti / trefniadaeth ysgolion / effeithiau CDLl. Mynediad i adnoddau angenrheidiol a buddsoddiad cyfalaf i gyflawni strategaeth y tu hwnt i Fand B a modelau ar gyfer trefniadaeth ysgolion uwchradd yn y dyfodol.
Cyfanswm Uwchradd1,9842,31232814.2% 
Cyfanswm Ysgolion Cymraeg4,7035,8061,10319.0% 

Bydd y gwaith cyfredol sy'n digwydd ar safle Ysgol Gyfun Gŵyr yn gweld y capasiti yn cynyddu i 1273.

Dilyniant ieithyddol rhwng grwpiau blwyddyn

Mae'r data isod yn dangos y ganran a aseswyd yn y Gymraeg (Iaith Gyntaf) bob blwyddyn, ac eithrio 2020 a 2021 lle rydym wedi defnyddio data PLASC gan na chasglwyd asesiadau diwedd cyfnod allweddol.

BlwyddynCSCA2CA3CA4
202115.0%14.7%12.4%12.1%
202014.4%13.6%13.1%10.8%
201915.6%13.8%12.1%11.8%
201814.7%12.7%11.0%10.7%
201715.7%13.5%11.5%9.7%
201615.3%12.4%10.7%10.4%
201514.6%11.2%9.7%9.3%

Mae'r ganran cyfrwng Cymraeg yn dangos tuedd ar i fyny ym mhob cyfnod allweddol dros y 7 mlynedd diwethaf.

Wrth olrhain carfannau, mae'r canrannau'n tueddu i fod yn debyg, gyda gostyngiad bach o'r cyfrwng Cymraeg (fel y gwelir yn y data cenedlaethol). Er enghraifft, roedd CS yn 2015 yn 14.6% ac yna roedd y grŵp eleni yn 13.8% yn 2019 pan ar ddiwedd CA2. Yna mae yna gwymp back arall o CA2 i CA3, ond o CA3 i CA4 nid oes fawr ddim wedi gadael ar gyfer pob grŵp blwyddyn.

Gan ein bod wedi ychwanegu mwy o gapasiti mewn ysgolion cynradd, mae'n cymryd amser i'r niferoedd cynyddol weithio drwodd i gyfnodau allweddol diweddarach, a gellir gweld hyn yn y data.

Mae angen gweld ffigurau mwy diweddar ar gyfer mynediad i ysgolion cynradd yng nghyd-destun y cyfraddau genedigaeth isel iawn ar hyn o bryd.

Mae peth tystiolaeth y gallai'r pandemig fod wedi arwain at gynnydd bach yn y cyfraddau gadael o addysg cyfrwng Cymraeg. Mae angen ymchwil pellach i hyn pan fydd mwy o ddata ar gael yn genedlaethol.

Mae'r sefyllfa sy'n ymwneud â phlant sy'n trosglwyddo o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf fel a ganlyn:

Cyrchfannau disgyblion sy'n gadael ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ystod y flwyddyn
 2018-20192019-20202020-2021
Wedi symud allan o Abertawe3320.9%2320.4%3318.1%
Wedi trosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg arall yn Abertawe1710.8%87.1%105.5%
Wedi trosglwyddo i ysgol cyfrwng Saesneg yn Abertawe4528.5%3228.3%7440.7%
Arall6339.9%5044.2%6535.7%
Cyfansymiau158100.0%113100.0%182100.0%

Byddwn yn parhau i fonitor'r data uchod yn y blynyddoedd i ddod i asesu a yw'r cynnydd yn y rhai sy'n symud o'r ysgolion cyfrwng Cymraeg i'r ysgolion cyfrwng Saesneg yn ddigwyddiad ynysig sy'n deilio o heriau'r pandemig neu batrwm cylchol.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Mae Amcan 3 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn sicrhau parhad unigolion a addysgir yn Gymraeg wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i'r llall a chynllunio yn unol â hynny os yw cyfraddau cadw yn destun pryder.

Rhaid i ni hefyd osod targed sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y Cynllun yn y swm o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ein hysgolion a gynhelir sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan egluro sut y byddwn yn cyflawni'r cynnydd disgwyliedig o ran faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ein hysgolion a gynhelir sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg a sut y byddwn yn gweithio ar y cyd ad awdurdodau lleol eraill trwy arfer ein swyddogaethau ar y cyd i sicrhau parhad yn y trefniadau ar gyfer pobl sy'n cyrchu addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i'n hardal.

Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a chynyddu nifer y plant sy'n parhau i wella'u sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall, yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Archwilio, datblygu a darparu darpariaeth / capasiti cyfrwng Cymraeg uwchradd ychwanegol i sicrhau trosglwyddiad di-dor o niferoedd cynyddol yn y sector cynradd yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys trafodaehau gyda'n hawdurdodau lleol cyfagos.
  2. Sicrhau bod 100% o blant (a'u teuluoedd) sy'n mynychu cyfnod pontio ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg i leoliad uwchradd cyfrwng Cymraeg trwy weithio gyda'n holl ysgolion ar bontio fel rhan o'n strategaeth farchnata ehangach.
  3. Gweithio gyda Mudiad Meithrin i sicrhau bod 100% o blant (a'u teuluoedd) sy'n mynychu eu lleoliadau yn trosglwyddo i'n hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac yn ymwybodol o'r llwybr dilyniant cyfrwng Cymraeg llawn.
  4. Ceisio sicrhau cyllid i ehangu'r ddarpariaeth drochi cynradd i gefnogi dal i fyny caffael iaith dwys yn ôl yr angen i wella hyder dysgwyr a rhoi mwy o sicrwydd i rieni sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg y bydd eu plentyn yn cael cyfle i gael cymorth os bydd angen. Bydd hyn yn adeiladu ar waith a wnaed mewn peilot yn 2022 a ariannwyd gan Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun peilot hwn yn parhau i flwyddyn academaidd 2022/23 i ddarparu blwyddyn academaidd lawn o ddata ansoddol. Wrth i'r cynllun peilot fynd rhagddo, byddwn yn ceisio cael gafael ar gyllid pellach i ddatblygu strategaeth farchnata gref a chael mynediad at hyfforddiant pellach i staff ar draws ein hysgolion cyfrwng Cymraeg.
  5. Byddwn hefyd, yn ceisio defnyddio'r cyllid i dreialu darpariaeth drochi uwchradd i ddarparu adnodd i'r rheini sy'n dymuno trosglwyddo o ysgolion cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg wrth drosglwyddo i'r uwchradd.
  6. Gweithio gyda'r holl ysgolion a phartneriaid ehangach i gynorthwyo pob dysgwyr i ddod yn amlieithog, i'w galluogi i ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith ryngwladol, a datblygu natur agored a chwilfrydedd am bob iaith a diwylliant yn y byd.
  7. Datblygu a darparu templed Cynllun Iaith ar gyfer pob ysgol i gefnogi dilyniannau ieithyddol pob plentyn yn y Gymraeg ac ieithoedd eraill ar draws ein holl ysgolion. Defnyddio Cynghorwyr Gwella Ysgolion i gefnogi ysgolion i lunio cynlluniau iaith cadarn ar gyfer gwella'r Gymraeg gyda ffocws clir ar argymhellion Estyn ysgolion unigol a'r siwnai ieithyddol a nodir yn y cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn ystyried sefydlu a gweithredu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg gan Lywodraeth Cymru. 
  8. Gweithio mewn partneriaeth agos ag ysgolion i wella'r wybodaeth sydd ar gael fel safonol ar wefannau ysgolion unigol i esbonio'r gwerth a roddir ar ddatblygu sgiliau ieithyddol Cymraeg, y buddion o fod yn ddwyieithog a gwybodaeth gyfoes ynghylch sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi yn eu dysgu.
  9. Cynyddu cyfeiriadau at gyfleoedd dysgu a chymdeithasu y tu allan i'r ysgol i normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i amgylchedd dysgu ffurfiol yr ysgol.
  10. Nodi a darparu cefnogaeth â ffocws i ysgolion lle gallai cyfraddau trosglwyddo fod yn destun pryder a chyhoeddi adnoddau i gynyddu hyder disgyblion, ynghyd â chefnogi a rhoi sicrwydd i rieni / gofalwyr ynghylch trosglwyddo rhwng cyfnodau i annog cadw. Yn ogystal, byddwn yn monitro ceisiadau am drosglwyddo o ysgolion cyfrwng Cymraeg i'r sector cyfrwng Saesneg yn y ddinas a'r sir ac yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu cefnogaeth a sicrwydd gyda'r bwriad o ailystyriaeth ar gyfer aros.
  11. Gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth i ddarparu cyngor, dysgu proffesiynol ac adnoddau i ysgolion cyfrwng Saesneg i gynyddu canran y cwricwlwm a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu faint o ddarpariaeth ddysgu a gynigir a chyfleoedd gwell ar gyfer defnyddio'r Gymraeg.
  12. Cefnogi cydweithredu rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd i gynhyrchu adnoddau sy'n hyrwyddo dilyniant ieithyddol i rieni / gofalwyr ac sy'n rhoi sicrywdd i gefnogi cadw.
  13. Sicrhau fod y siwrnai addysgol gyfan o'r meithrin i ôl-16 yn glir i deuluoedd er mwyn datblygu hyder pellach wrth ddewis addysg cyfrwng Cymraeg gan gynnwys tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i'w plentyn ddatblygu a magu hyder wrth defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
  14. Dathlu a rhannu arfer da ar draws Abertawe a'r Bartneriaeth ehangach.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Mynd ymlaen â chynlluniau strategol i gynyddu gallu parhaol darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg.
  2. Cynyddu capasiti darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg gan gynnwys ceisio sefydlu capasiti dinas a sir ledled y sector cyfrwng Cymraeg ar 10% yn ychwanegol at y cymeriant a ragwelir.
  3. Gweithio gyda Partneriaeth i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau i ysgolion, gan gynnwys:
    • Darparu cefnogaeth unigol a chlwstwr i wella safonau addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sector cynradd,
    • Darparu dysgu a chefnogaeth broffesiynol i wella safonau addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd. Gweithio gydag arweinwyr ysgolion a'r system ehangach i ddyfnhau dealltwriaeth o addysgeg iaith effeithiol,
    • Rhannu arfer da a datblygu adnoddau newydd i gefnogi dysgu ac addysgu'r Gymraeg.
  4. Yn Abertawe rydym yn dyheu am o leiaf un aelod o staff o bob dosbarth Blynyddoedd Cynnar / Cyfnod Sylfaen ysgolion cynradd cyfrwng Seasneg i fynychu'r cwrs sabothol cenedlaethol. Byddwn yn ceisio cyllid a chyfleoedd ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i genfogi'r dyhead hwn.

Mae'r prof bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Partneriaeth
  • Ysgolion Abertawe
  • Menter Iaith Abertawe
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • RhAG
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol Abertawe
  • Cyngor y Gweithlu Addysg

 

CSCA - Amcan 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi gweld twf cyson yng nghanran y dysgwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau a aseswyd yn Gymraeg fel pwnc, fel y dangosir yn y tabl isod.

Byddwn yn ceisio gweithio gyda'n hysgolion i sicrhau bod y twf hwn yn parhau trwy gydol oes y Cynllun.

Mae ein hysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cynnig cymwysterau wedi'u hasesu ym mhob maes pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n dwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir.

Ymgeisiau TGAU Iaith Gymraeg
BlwyddynCarfan Bl11Iaith gyntafAil iaithCyfanswmCanran
201724042251590181575.50%
201823482481646189480.66%
201924312711717198881.78%
202024702631803206683.64%
202124432921736202883.01%
Cyfanswm Cyffredinol1209612998492979180.94%

 

Cofrestriadau Cymraeg Iaith Gyntaf Safon Uwch (Blwyddyn 13)
 2018/20192019/20202020/2021
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe794
Ysgol Gyfun Gwyr899
Cyfanswm151813

 

Myfyrwyr sy'n Mynychu Darpariaeth 6ed Dosbarth cyfrwng Cymraeg
 2018/20192019/20202020/2021
 Blwyddyn 12Blwyddyn 13Blwyddyn 12Blwyddyn 13Blwyddyn 12Blwyddyn 13
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe644863606656
Ysgol Gyfun Gwyr897295829398
Cyfanswm153120158142159154

 

Pynciau Ôl-16 a Astudir Trwy Gyfrwng y Gymraeg
Data Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2021/22
 GŵyrBryn TaweCyfanswm
Gweithgaredd Dysgu Cyfrwng CymraegBl12Bl13Bl12Bl13 
Diploma Lefel 3 CACHE NCFE ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon)  5 5
NCFE CACHE Diploma Estynedig Lefel 3 ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon)   33
OCR Lefel 3 Tystysgrif Dechnegol Caergrawnt mewn TG  25934
Diploma Rhagarweiniol technegol OCR Lefel 3 Caergrawnt mewn TG   1818
Tystysgrif Lefel 3 BTEC Pearson mewn Gwasanaethau Cyhoeddus  5 5
Tystysgrif Lefel 3 BTEC Pearson mewn Chwaraeon  314
Diploma Is-gwmni Lefel 3 BTEC Pearson mewn Peirianneg97 521
Diploma Is-gwmni BTEC Lefel 3 Pearon mewn Gwasanaethau Cyhoeddus712 625
Diploma Is-gwmni BTEC Pearson Lefel 3 mewn Chwaraeon   66
Tystysgrif Her Sgiliau Uwch CBAC (Bagloriaeth Cymru)93857054302
CBAC Eduqas Lefel 3 Uwch TAG mewn Electroneg93866954302
CBAC Eduqas Lefel 3 Uwch TAG mewn Electroneg 6 17
CBAC Eduqas Lefel 3 Is-gwmni Uwch TAG mewn Electroneg2 1 3
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Celf a Dylunio 153927
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Bioleg   1515
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Busnes 1 56
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cemeg   77
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cyfrifiadureg   11
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Dylunio a Thechnoleg18  9
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Drama and Theatre 3  3
TAG Uwch Lefel 3 CBAC yn Ffrangeg 5 16
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Daearyddiaeth 3 710
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth 1 67
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Dwbl) (Peilot) 18  18
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Hanes 13 922
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Mathemateg 31 1142
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Astudiaethau'r Cyfryngau 2 57
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cerddoriaeth 2 24
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Addysg Gorfforol   11
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Ffiseg   55
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Seicoleg 10 717
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Astudiaethau 8  8
TAG Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith Gyntaf 10 616
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Celf a Dylunio16 12 28
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Bioleg  12 12
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Busnes9   9
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cemeg  13114
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cyfrifiadureg3   3
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Dylunio a Thechnoleg141  15
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Drama a Theatr3 4 7
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC yn Ffrangeg3   3
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Daearyddiaeth9 5115
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth3 7 10
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dyfarniad Dwbl) (Peilot)2115128
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant  516
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Hanes16 18 34
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Mathemateg31115 47
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Astudiaethau'r Cyfryngau317 11
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cerddoriaeth5 4 9
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Addysg Gorfforol943 16
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Ffiseg  628
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Seicoleg12 13 25
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Astudiaethau Crefyddol5 2 7
TAG Is-gwmni Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith Gyntaf7 18 25
Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 CBAC mewn Busnes  22 22
Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 CBAC mewn Twristiaeth  3 3
Tystysgrif Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau  2 2
Cyfanswm3743343572601325

Disgwyliwn i'r nifer sy'n cael ei asesu drwy gyfrwng y Gymraeg barhau i gynyddu gyda rhagamcan y bydd dros 15% (12% ar hyn o bryd) yn gwneud hynny erbyn 2032. Byddwn yn gweithio gyda'n hysgolion uwchradd a'n partneriaid ôl-16 i gynyddu'r niferoedd a ddewisodd lwybr cyfrwng Cymraeg ar ôl eu TGAU.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Mae Amcan 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ni osod targed sy'n amlinellu'r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y Cynllun yn nifer a chanran y personau ym Mlwyddyn 10 a hŷn yn ein hysgolion uwchradd a gynhelir sy'n astudio ar gyfer cymwysterau ac sy'n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaid i ni hefyd nodi sut y byddwn yn fyflawni'r cynnydd disgwyliedig yn ystod ows y cynllun yn nifer a chanran y personau ym Mlwyddyn 10 a hŷn yn ein hysgolion uwchradd a gynhelir sy'n astudio ar gyfer cymwysterau ac sy'n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg, sut byddwn yn cefnogi'r ddarpariaeth barhaus o addysg cyfrwng Cymraeg i bersonau ym Mlwyddyn 10 ac uwch trwy weithio ar y cyd ag ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach (SAB) eraill os oes angen a sut y byddwn yn gweithio gyda'n hysgolion ym Mlwyddyn 10 ac uwch yn ein hysgolion uwchradd a gynhelir.

Er mwyn cyflawni'r deiliant hwn a sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn y 5 mlynedd gytaf byddwn yn:

  1. Gweithio gyda phartneriaid ar draws y Bartneriaeth, ein hysgolion a'n colegau ynghyd â phartneriaid ledled y ddinas a'r sir i dynnu sylw at fanteision y Gymraeg gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, profiad gwaith a / neu gyfleoeodd gwirfoddoli mewn sefydliadau a gweithleoedd cyfrwng Cymraeg sy'n gwneud y mwyaf o botensial siaradwyr dwyieithog.
  2. Comisiynu adolygiad llawn o'r cynnig ôl-16 yn Abertawe i fapio'r ddarpariaeth gyfredol yn ein hysgolion a'n colegau a nodi cyfleoedd ar gyfer twf pellach.
  3. Fel rhan o'r adolygiad, gweithio gyda Gyrfa Cymru i nodi i ble mae myfyrwyr yn mynd ar ôl cwblhau TGAU yn ein lleoliadau cyfrwng Cymraeg er mwyn dysgu gwersi ac i roi gweithredoedd ar waith i annog mwy i ddilyn llwybr ôl-16 cyfrwng Cymraeg.
  4. Creu gweithgor traws-sector i gyflawni cynllun gweithredu clir yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad ôl-16.
  5. Archwilio opsiynau fel E-sgol i gryfhau ein cynnig mewn ysgolion uwchradd.
  6. Fel rhan o'r Llwyfan Digidol, cefnogi a hyrwyddo dwyieithrwydd ac amlieithrwydd fel sgiliau ar gyfer cyfleoedd gyrfa lleol, rhanbarthol a byd-eang ynghyd â chysylltu â'r Fargen Ddinesig gan gynnwys cefnogi dilyniant disgyblion hyd yn oed os nad y Gymraeg yw'r iaith lafar gartref.
  7. Gweithio gyda'n hysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, darparwyr allanol a Llywodraeth Cymru ar unrhyw fentrau cenedlaethol i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch.
  8. Cefnogi ein hysgolion cyfrwng Saesneg i archwilio cyfleoedd i ehangu eu cynnig Cymraeg gan gynnwys ystyried cyhoeddi'r fframwaith dysgu Cymraeg sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg fel rhan o baratoadau Cwricwlwm i Gymru.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Sicrhau bod y gallu cynyddol yn ein hysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn cefnogi'r niferoedd cynyddol sy'n dod trwy ein hysgolion cynradd i astudio ar gyfer cymwysterau a chael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  2. Archwilio cyfleoedd a gynigir gan e-sgol, menter ddysgu gyfunol i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ar-lein gan ddefnyddio dulliau uniongyrchol; amser real a rhyngweithiol, er mwyn gwella ein cynnig cyfrwng Cymraeg ymhellach.
  3. Ymgysylltu â byrddau arholi i gynrychioli'r awydd am ystod ehangach o gyrsiau a chymwysterau (yn enwedig o ran cyfleoedd dysgu galwedigaethol) a ddarperir yn y Gymraeg i sicrhau cydraddoldeb â'r ystod sydd ar gael yn Saesneg.
  4. Anelu at weld dros 15% o'n dysgwyr yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn TGAU.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Partneriaeth
  • Ysgolion Abertwae
  • Partneriaid AB ac AU
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Byrddau arholi
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol

 

CSCA - Amcan 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol

Mae Amcan 5 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn gwella sgiliau iaith Gymraeg pobl sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhaliwn er mwyn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Mae gweithio gyda phartneriaid ar draws asiantaethau yn lleol yn Abertawe a thu hwnt yn allweddol i lwyddiant ein strategaeth. Mae'r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg, sef Mudiad Meithrin, yr Urdd, Menter Iaith Abertawe, Rhagoriaith, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cymraeg i Blant. Byddwn yn gwella'r berthynas waith rhwng ein hysgolion a'n partneriaid i gyflawni'r deilliant hwn a sicrhau bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.

Yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Cynnwys Siarter Iaith, a gweithgareddau Cymraeg eraill ym mhob Cynllun Datblygu Ysgol.
  2. Datblygu a lansio Gwobrau Shwmae blynyddol gyda'r nod o ddathlu cyfraniadau unigolion a grwpiau wrth hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg mewn ysgolion a chymunedau ynghyd â chyflawniadau dysgwyr Cymraeg.
  3. Cefnogi holl ysgolion Abertawe i gynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc gan ddefnyddio'r Siarter Iaith. Byddwn yn cefnogi pob ysgol i gael mynediad at y Siarter Iaith ac i ddangos gwelliant yn ystod oes ein cynllun.
  4. Cefnogi pob ysgol cyfrwng Cymraeg i gyrraedd, fel isafswm, gwobr Arian y Siarter Iaith.
  5. Cefnogi pob ysgol cyfrwng Saesneg i gyrraedd, fel isafswm, gwobr Efydd y Siarter Iaith.
  6. Gweithio gyda'n hysgolion (Cymraeg a Seasneg) i gwmpasu faint o amser sy'n cael ei neilltuo i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol.
  7. Defnyddio'r data o'n harchwiliad sgiliau ieithyddol gweithlu i nodi ysgolion cyfrwng Saesneg sydd â'r potensial a'r awydd i gryfhau'r amser cyswllt y mae eu dysgwyr yn ei dderbyn yn Gymraeg.
  8. Sefydlu banc o adnoddau ar-lein i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm newydd ynghyd ag adnoddau i gyflawni y Fframwaith Siarter Iaith.
  9. Sicrhau bod adnoddau ar gael i hyrwyddo gwerth a buddion dwyieithrwydd ymhellach er mwyn cryfhau cymhelliant disgyblion i ddod yn siaradwyr hyderus o'r ddwy iaith swyddogol yng Nghymru.
  10. Ymgymryd â mapio diweddar o'r ddarpariaeth y tu allan i'r ysgol ar y cyd â darparwyr eraill i nodi bylchau a thanategu trafodaethau sy'n ymwneud â chydweithio/partneriaethau newydd er mwyn cynyddu/ehangu'r ddarpariaeth i ateb y galw. Bydd hyn yn bwydo i mewn i'r Llwyfan Digidol, i roi map clir i'r cyhoedd o'r cynnig cyfredol ledled y ddinas a'r sir.
  11. Fel rhan o'n hymarfer, byddwn yn ystyried sut mae cyfleoedd a ddarperir drwy'r Fenter Iaith, yr Urdd, Partneriaeth ac ati yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd o'r Gymraeg ymhlith dysgwyr (o ran caffael, hyder ac ymwybyddiaeth).
  12. Ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu â ffocws (ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun) gyda phobl ifanc ynghylch pa gyfleoedd dysgu a chymdeithasu Cymraeg yr hoffent eu gweld fwyaf.
  13. Archwilio a chynyddu cwmpas ar gyfer cydweithredu o fewn yr awdurdod lleol rhwng y Gwasanaeth Ieuenctid a sefydliadau partner gan gynnwys Menter Iaith Abertawe a'r Urdd i uwchraddio'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ledled y ddinas a'r sir. Bydd hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd ar gyfer cael gafael ar gyllid priodol i sicrhau partneriaeth gynaliadwy gyda Menter Iaith Abertawe.
  14. Ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun, ymgymryd ag ymchwil gyda phobl ifanc ac oedolion sydd wedi cyflawni rhuglder yn y Gymraeg yn flaenorol ond sydd wedi colli hyder i'w defnyddio er mwyn deall yn well a mynd i'r afael â'r her o gadw iaith y tu hwnt i addysg statudol.
  15. Archwilio cyfleoedd gyda'n partneriaid i ddatblygu darpariaeth gwyliau pellach i gynnal a gwella sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr. Gallai hyn gynnwys cyfleoedd trwy Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Llywodraeth Cymru.
  16. Fel rhan o Gynlluniau Iaith ysgolion, nodi a gweithredu ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
  17. Wrth i Abertawe ddatblygu ei Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2022-2027 nesaf byddwn yn archwilio cyfleoedd y tu hwnt i'n cymunedau ysgol i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd ddysgu a defnyddio'r Gymraeg ar draws cymunedau amrywiol Abertawe.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Darparu cefnogaeth i ysgolion yn y defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion sydd â chyfleoedd dysgu proffesiynol Cymraeg, Llythrennedd a Chyfathrebu o ansawdd uchel gan gynnwys cefnogaeth bwrpasol ar gyfer ysgolion/clystyrau unigol a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu ysgol-i-ysgol a phartneriaethau cymheiriaid fel sy'n briodol.
  2. Gweithio gyda'r Bartneriaeth i ddarparu cefnogaeth ddynodedig i bob ysgol ar gyfer cynnydd gyda'r Siarter Iaith a Cymraeg Campus gan ganolbwyntio ar hyrwyddo, cefnogi, herio ac achredu holl ysgolion Abertawe i wneud cynnydd gyda Gwobrau Siarter Iaith a Cymraeg Campus.
  3. Cefnogi pob ysgol cyfrwng Cymraeg i gyrraedd gwobr Aur y Siarter Iaith.
  4. Cefnogi pob ysgol cyfrwng Saesneg i gyrraedd gwobr Arian y Siarter Iaith.
  5. Gwerthuso effaith y Siarter Iaith a Cymraeg Campus i gefnogi mireinio'r cynlluniau dros amser, yn enwedig ochr yn ochr â gweithredu'r cwricwlwm newydd.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Partneriaeth
  • Ysgolion Abertawe
  • Menter Iaith Abertawe
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol Abertawe

 

 

CSCA - Amcan 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Amcan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi sut y byddwn yn defnyddio canfyddiadau ein hadolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i wella darpariaeth iaith Gymraeg ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn y sector anghenion dysgu ychwanegol.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Yn Abertawe, mae lefel gyfredol y galw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (ALP) drwy gyfrwng y Gymraeg yn isel. Fodd bynnag, mae patrwm symud o cyfrwng Cymraeg i cyfrwng Saesneg trwy ddewis rhieni wedi'i nodi yn y sector cynradd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n dod i'r amlwg.

Mae un Cyfleuster Addysgu Arbenigol Cymraeg (STF) yn Ysgol Gyfun Gŵyr ar gyfer Oedi Dysgu Cyffredinol a sylfaen adnoddau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe sy'n darparu cefnogaeth allgymorth ar gyfer ystod o anghenion.

Mae'r sefyllfa bresennol sy'n ymwneud â darparu addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn Abertawe fel a ganlyn:

Mae nifer yr achosion o ADY yn y sector cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn is nag ar gyfer ysgolion Abertawe yn gyffredinol:
Ebrill 2021Pob ysgol% poblogaeth disgyblionYsgolion cyfrwng Cymraeg% poblogaeth disgyblion
Gweithredu gan yr Ysgol a mwy26037.202454.69
 Datganiad16174.47641.22

Trwy gydol oes y Cynllun byddwn yn:

  • Parhau i adolygu lefel y galw a'r ALP sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn flynyddol.
  • Parhau i adeiladu capasiti yn ein hysgolion prif ffrwd, yn unol â gweledigaeth gynhwysol Deddf ALNET.
  • Datblygu gwybodaeth ein hysgolion wrth nodi ADY a darparu ALP ar lefel leol, yn yr iaith o'u dewis.
  • Defnyddio dyletswyddau strategol ehangach gan gynnwys y rhai o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 os nad yw'r argaeledd ar gyfer ALP yn y Gymraeg yn ddigonol.

Er mwyn cyflawni'r canlyniad hwn a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn y 5 mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Creu gweithgor ADY cyfrwng Cymraeg i ganolbwyntio ar yr amcan hwn. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar draws y sector.
  2. Arwain gwaith clwstwr parhaus, cyngor a chefnogaeth gan staff arbenigol sy'n siarad Cymraeg a chysylltiadau ag adnoddau dwyieithog rhanbarthol/cenedlaethol i gefnogi ysgolion i nodi ADY a darparu ALP.
  3. Cyfuno adnoddau a sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol er mwyn sicrhau y gellir cyrchu ALP cyfrwng Cymraeg, yn enwedig lle mae nifer y dysgwyr sydd angen y ddarpariaeth hon yn isel iawn.
  4. Cynnal dadansoddiad manwl o'r achosion sy'n dylanwadu ar symudiadau o'r cyfrwng Cymraeg i'r cyfrwng Saesneg yn y sector cynradd (yn ystod 18 mis cyntaf y Cynllun).
  5. Sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei hadolygu fel rhan o adolygiad ehangach o ddarpariaeth arbenigol yn Abertawe.
  6. Parhau i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, e.e. Ysgolion cyfeillgar ASD.
  7. Nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu staff arbenigol sy'n siarad Cymraeg drwy adolygu sgiliau iaith y gweithlu ADY presennol a chynnig cyfleoedd hyfforddi.
  8. Archwilio cyfleoedd i gefnogi Mudiad Meithrin a darparwyr gofal plant eraill nad ydynt yn cael eu cynnal.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Parhau i gynnig darpariaeth arbenigol i ddysgwyr yn yr iaith o'u dewis, yn unol â Deddf ALNET.
  2. Datblygu model ymyrraeth gynnar iawn, gan gynorthwyo dysgwyr i aros mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle bo hynny'n briodol.

Mae'r prif bartneriaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Partneriaeth
  • Ysgolion Abertawe
  • Gwasanaethau'r GIG
  • Gwasanaethau Ehangach y Cyngor

 

CSCA - Amcan 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Amcan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi ein hymrwymiad i nodi'r gweithlu sydd ei angen arnom i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y Cynllun yn unol â thargedau'r Cynllun, a chyfrifo unrhyw ddiffyg a ragwelir yn ein gweithlu.

Yr hyn sy'n ofynnol i ni ei wneud...

Rhaid i ni hefyd nodi ein hymrwymiad i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill trwy arfer ein swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cefnogaeth i wella sgiliau iaith Gymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu ysgolion mewn ysgolion a gynhelir yn ein hardal ac i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ein hardal.

Rydym wedi defnyddio'r data a gasglwyd am sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu yng Nghyfrifiad y Gweithlu Ysgolion i nodi bylchau sgiliau cyfredol a lle mae'r bylchau yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol. Bydd newidiadau yn faint o Gymraeg a addysgir yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg yn effeithio ar anghenion sgiliau staff a'r gefnogaeth ieithyddol sy'n ofynnol. Mae'r siart isod yn rhoi syniad o lefelau gallu.

Er bod hyfedredd sylfweddol yn y Gymraeg ymhlith gweithlu'r ysgol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd staff i gyd yn hyderus wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n ymddangos bod nifer y staff sy'n ofynnol yn y dyfodol i gyflawni'r dyhead cenedlaethol ar gyfer twf parhaus mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn dipyn o her.

Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion 2020: Gallu yn y Gymraeg
Pob ysgolCyfrif pennauCanran cyfrif pennau
LefelAthrawonCynorthwywyr AddysguCyfanswmAthrawonCynorthwywyr AddysguCyfanswm
Lefel Hyfedredd36421357718.2%8.9%13.2%
Lefel Uwch77371143.9%1.5%2.6%
Lefel Canolradd176582349.1%2.1%5.4%
Lefel Sylfaen41619260821.1%7.7%13.9%
Lefel Mynediad509750125926.0%31.3%28.9%
Dim sgiliau iaith4241139156321.5%48.3%35.9%
Nichafwyd y wybodaeth eto2570.1%0.2%0.2%
Cyfanswm terfynol196823944362100.0%100.0%100.0%
Cyfrwng Saesneg yn unigCyfrif pennauCanran cyfrif pennau
LefelAthrawonStaff CymorthCyfanswmAthrawonStaff CymorthCyfanswm
Lefel Hyfedredd109381476.4%1.7%3.8%
Lefel Uwch7020904.1%0.9%2.3%
Lefel Canolradd1765222810.3%2.4%5.8%
Lefel Sylfaen41619260824.4%8.8%15.6%
Lefel Mynediad509750125929.8%34.2%32.3%
Dim sgiliau iaith4241135155924.9%51.8%40.0%
Ni chafwyd y wybodaeth eto2570.1%0.2%0.2%
Cyfanswm terfynol170621923898100.0%100.0%100.0%
Cyfrwng Cymraeg yn unigCyfrif pennauCanran cyfrif pennau
LefelAthrawonStaff CymorthCyfanswmAthrawonStaff CymorthCyfanswm
Lefel Hyfedredd25517543097.3%86.6%92.7%
Lefel Uwch717242.7%8.4%5.2%
Lefel Canolradd 660.0%3.0%1.3%
Lefel Sylfaen   0.0%0.0%0.0%
Lefel Mynediad   0.0%0.0%0.0%
Dim sgiliau iaith 440.0%2.0%0.9%
Ni chafwyd y wybodaeth eto   0.0%0.0%0.0%
Cyfanswm terfynol262202464100.0%100.0%100.0%

 

Staff mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg cynradd (SWAC 2021)
 AthrawonCymorth
YsgolNiferFTENiferFTE
YGG Bryniago108.92139.33
YGG Bryn-y-Mor1513.2086.41
YGG Gellionnen1110.80119.58
YGG Llwynderw1713.091411.93
YGG Lonlas2219.612520.09
YGG Pontybrenin3025.372421.30
YGG Tan-y-Lan108.161310.31
YGG Tirdeunaw1817.20159.15
YGG Y Cwm74.9885.98
YGG Y Login Fach1310.2597.25

Mae twf sylweddol yn y gweithlu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn i Abertawe lwyddo i sicrhau twf siaradwyr Cymraeg trwy addysg yn ein hysgolion a chyfleoedd dysgu ehangach.

Er mwyn nodi targed cychwynnol ar gyfer yr hyn y bydd ei angen arnom yn ystod oes y cynllun, rydym yn mesur y nifer tebygol o staff sydd eu hangen ar gyfer 3 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall. At y diben hwn credwn y byddai angen 40 aelod o staff addysgu a 40 aelod o staff cymorth ychwanegol arnom. Pe bai'r ddarpariaeth yn cael ei darparu ar draws 3 ysgol newydd gallai hyn olygu'r angen am 3 phennaeth newydd. Caiff hyn ei fodelu yn erbyn un o'n hysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg presennol.

Yn ystod dwy flynedd gyntaf y cynllun byddwn yn gwneud rhywfaint o fodelu pellach gyda'n hysgolion uwchradd, ein cydweithwyr rhanbarthol a chenedlaethol i fodelu'r gofyniad staffio wrth i'r carfannau cynyddol hyn symud trwy'r system.

Er mwyn cyflawni'r deilliant hwn a chynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu dysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pum mlynedd gyntaf byddwn yn:

  1. Cynnal archwiliad gweithlu canolog (yn 2 flynedd gyntaf y Cynllun) i adolygu staffio presennol ynghyd ag ystyried swyddi gwag staff addysgu a chymorth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i gefnogi recriwtio a chadw staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg gan gynnwys staff addysgu a dysgu cwbl rugl.
  2. Dadansoddi canlyniad data cyfrifiad gweithlu ysgolion a ffynonellau tystiolaeth ansoddol (ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun) i gefnogi cynllunio'r gweithlu i lywio dyluniad rhaglenni dysgu proffesiynol sy'n adlewyrchu anghenion ein gweithlu lleol sy'n benodol i wella'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob ysgol.
  3. Rhoi cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion ar sut i adlewyrchu sgiliau iaith Gymraeg staff yn gywir.
  4. Bydd ein Swyddogion Datblygu Cymraeg mewn Addysg yn darparu cefnogaeth ôl-gwrs i ymarferwyr sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Sabothol. Byddwn hefyd yn gweithredu rhaglen fentora Hyrwyddwyr Iaith lle, ar ôl cwblhau'r Cynllun Sabothol, bydd yr ymarferwyr hyn yn dod yn Hyrwyddwyr Iaith ac yn mentora ymarferwyr eraill i gynyddu eu hyder i siarad Cymraeg, addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu ddysgu'r Gymraeg fel pwnc mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a rhannu arfer da.
  5. Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn targedu datblygu sgiliau iaith Gymraeg mewn Cynlluniau Datblygu Ysgol yng nghyd-destun gwella safonau er mwyn sicrhau bod ffocws cryf ar flaenoriaethu datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cynnwys gwella sgiliau iaith.
  6. Gwella hyder y gweithlu sy'n gallu addysgu yn Gymraeg ond heb wneud hynny ar hyn o bryd drwy gynnig cyrsiau Cymraeg pellach mewn partneriaeth â sefydliadau AB/AU.
  7. Mae Cynghorwyr Gwella Ysgolion (SIAs) yn monitro Cynlluniau Datblygu Ysgol a Chynlluniau Iaith Newydd i sicrhau bod arweinwyr yn cynllunio i wella sgiliau ieithyddol y gweithlu. Bydd canlyniadau'r gweithlu hefyd yn cael eu rhannu ag SIAs i gynorthwyo gyda monitro.
  8. Sicrhau bod pob tîm arweinyddiaeth ysgol a llywodraethwr yn cael gwybod am y CSCA a'r angen am sgiliau dwyieithog a bod monitro uwchsgilio eu staff yn allweddol fel rhan o'u hyfforddiant llywodraethwr a DPP.
  9. Annog llywodraethwyr pob ysgol i gynnwys adroddiad ar y Gymraeg yn eu hadroddiad blynyddol i rieni a chynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.
  10. Cefnogi a darparu cyngor i lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion ar benodi a datblygu staff.
  11. Sicrhau bod staff o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ceisio am raglenni datblygu arweinyddiaeth cenedlaethol perthnasol a chyfleoedd dysgu proffesiynol gan gynnwys y Rhaglen Darpar Bennaeth sy'n arwain at gymhwyster NPQH.
  12. Archwilio cwmpas i ddatblygu ymgyrch hyrwyddo a recriwtio leol i dargedu'r angen am amrywiaeth bellach ar draws y gweithlu addysgu a dysgu, yn enwedig yn y gweithlu sy'n siarad Cymraeg i gefnogi arallgyfeirio'r defnydd tymor hir o'r Gymraeg a sicrhau bod pob teulu a disgybl yn teimlo bod eu hysgol yn adlewyrchu eu cymuned leol.
  13. Annog a monitro'r defnydd o gwrs newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan staff addysgu fel llwybr arall ar gyfer datblygu hyder iaith o fewn y gweithlu addysgu a dysgu.
  14. Gweithio gyda Mudiad Meithrin trwy'r Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol (prentisiaeth) a Chynllun Ysgolion Cam wrth Gam sy'n cynnig ystod lawn o gymwysterau Gofal Plant, Dysgu Chwarae a Datblygiad Plant cyfrwng Cymraeg mewn addysg ôl-14/ôl-16.
  15. Modelu (yn ystod 3 blynedd gyntaf y Cynllun) y gofynion staffio yn y sector uwchradd wrth i'r carfannau cynyddol hyn symud drwy'r system.
  16. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill i gynnal dadansoddiad rheolaidd o'r holl ffynonellau data er mwyn deall tueddiadau yn y galw am athrawon cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn gofyn am ragamcanu cyfraddau pontio blynyddol dysgwyr o addysg gynradd i addysg uwchradd ac edrych ar dueddiadau o ran nifer yr athrawon sy'n symud i rolau arwain, symud ysgolion neu adael / ymddeol o'r proffesiwn, er enghraifft.
  17. Yn seiliedig ar y dadansoddiad data o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu byddwn yn gosod targedau ar gyfer cynyddu cyfran ein gweithlu sydd â sgiliau iaith ar lefel sylfaen, ac ar lefel ganolradd neu uwch ac yn adrodd ar y rhain fel rhan o'n gwaith monitro blynyddol o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Erbyn diwedd y cynllun 10 mlynedd byddwn yn:

  1. Ei gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr pob ysgol gynnwys adroddiad ar y Gymraeg i ddathlu a myfyrio ar ddefnydd a datblygiad gwell sgiliau Cymraeg disgyblion a chyfleoedd caffael iaith â ffocws eu staff addysgu a dysgu yn eu hadroddiad blynyddol i rieni.
  2. Sicrhau bod ysgolion yn gosod ac yn adrodd ar dargedau datblygu sgiliau Cymraeg o fewn cynlluniau datblygu ysgol yng nghyd-destun gwella safonau i sicrhau bod ffocws cryf ar flaenoriaethu datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cynnwys gwella sgiliau ieithyddol.
  3. Targedu athrawon a staff cymorth ym mhob un o brif leoliadau cyfrwng Saesneg y sir i fynychu cyrsiau dwyieithog/iaith achlysurol. Yn ogystal,
    byddwn yn anelu at gael un aelod o staff o bob ysgol yn mynychu'r cwrs sabothol yn ystod oes y Cynllun.

Mae'r prif barterniaid sy'n gyfrifol am weithredu'r camau uchod yn cynnwys:

  • Cyngor Abertawe
  • Ysgolion Abertawe
  • Darparwyr AGA gan gynnwys - Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Y Brifysgol Agored, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Llywodraeth Cymru
  • Mudiad Meithrin

 

CSCA - Crynodeb

Crynodeb

Mae'r weledigaeth ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe yn glir, yn gadarn ac yn uchelgeisiol. Mae'r gwaith sydd i'w wneud yn amlochrog ac yn aml-haenog, a'r cam nesaf ar ôl cymeradwyo'r strategaeth fydd datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. Bydd defnydd clir o ddata yn ein galluogi i osod targedau penodol, a fydd yn caniatáu inni fesur effaith a llwyddiant ein gwaith.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu