Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i drawsnewid Gerddi Sgwâr y Castell yn cymryd cam newydd

​​​​​​​Mae contractwyr sy'n gweithio ar ran Cyngor Abertawe ar fin dechrau profion cyflwr tir wrth i'r prosiect i drawsnewid Sgwâr y Castell symud yn ei flaen.

Castle Square - as it may look in future

Castle Square - as it may look in future

Bydd y gwaith yn helpu i ddeall yn well yr hyn sydd o dan wyneb y safle, gan gynnwys elfennau fel gwasanaethau, cyflwr y pridd ac amodau dŵr.

Bydd y canlyniadau yn helpu'r cyngor i roi cynllun adfywio ar waith sydd wedi'i lywio gan lawer o ymgynghori â'r cyhoedd.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd Gerddi Sgwâr y Castell llawer gwell yn elfen hanfodol yn ein rhaglen adfywio gwerth £1bn ar gyfer Abertawe.

"Bydd gwaith ar y safle dros nifer bach o ddiwrnodau o 20 Tachwedd yn helpu timau dylunio ac adeiladu i ddeall yr heriau a wynebir o'r ardaloedd cudd o dan yr wyneb.

"Yn ystod y gwaith prawf hwn, bwriadwn sicrhau y terfir cyn lleied â phosib ar y cyhoedd.

Bydd contractwyr y cyngor yn gweithio mewn nifer bach o ardaloedd wedi'u hamgáu â ffens. Bydd Sgwâr y Castell yn aros ar agor ac ni therfir ar y gweithgarwch Nadolig sydd ar ddod.

Bydd y prif waith yn dilyn hyn yn golygu y bydd Sgwâr y Castell sy'n edrych yn ddifywyd ar hyn o bryd, yn dod yn wyrddach ac yn fwy croesawgar i bawb.

Bydd yn cynnwys:

  • Ychwanegu dau adeilad pafiliwn ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu - gyda tho gwyrdd hygyrch ar un ohonynt
  • Mwy o wyrddni arall, gan gynnwys lawntiau newydd a planhigion addurnol a bioamrywiol i ddarparu ardal lle bydd 40% o le gwyrdd.
  • Nodwedd ddŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol
  • Sgrîn deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf
  • Ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored
  • Cadw lle at ddefnydd y cyhoedd

Gallwch weld y cynlluniau yma - www.bit.ly/3BOriTC

Llun: Sut bydd gerddi newydd Sgwâr y Castell yn edrych.

 

 

 

Close Dewis iaith