Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Fideo newydd trawiadol yn dangos sut mae canol y ddinas wedi'i drawsnewid i fod yn fwy addas i bobl

​​​​​​​Mae fideo newydd yn dangos sut gallai cynlluniau cyngor Abertawe wneud ardal allweddol o'r ddinas yn fwy addas i bobl.

Castle Square Plan

Castle Square Plan

Mae'n dangos Gerddi Sgwâr y Castell gwyrddach a mwy croesawgar rhwng hwb cymunedol newydd gyda llyfrgell, ynghyd â Wind Street ar ei newydd wedd.

Mae'r ffilm fer yn dangos cyrchfan sy'n ddeniadol i gerddwyr, beicwyr a busnesau. Y nod maes o law fydd ei gysylltu'n ddi-fwlch ag Arena Abertawe ac ardal newydd ac ehangach Bae Copr.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae ein gwaith adnewyddu gwerth £1 biliwn ar gyfer Abertawe wedi gwneud cynnydd da dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn bwriadu parhau â'r newidiadau cadarnhaol hyn.

"Mae ein fideo newydd yn galluogi preswylwyr, ymwelwyr a busnesau i weld sut yr hoffem i erddi llawer gwyrddach Sgwâr y Castell edrych yn y dyfodol, a'r math o awyrgylch a fydd yno.

"Bydd wedi'i leoli'n gyfleus gerllaw datblygiadau fel yr hwb cymunedol newydd - lleoliad y brif lyfrgell - a Wind Street."

Mae'r fideo - sydd ar-lein yma - yn symud o Wind Street a Princess Way ac yna'n tremio dros Caer Street a Castle Bailey Street. Mae'n closio at y gwyrddni, y nodweddion dŵr a'r caffi/bwyty newydd arfaethedig, ac yna'n symud o'r castell tuag at Fae Copr.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn bwriadu ailddylunio a gwella Gerddi Sgwâr y Castell gerllaw'r hwb cymunedol newydd yn gyfan gwbl.

"Bydd y ddau'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â busnesau lleol ac yn creu cyfleoedd newydd i bobl gyfarfod ac ymlacio."

Mae'r cynllun ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell yn dangos ffynhonnau sy'n ddiogel i blant chwarae ynddynt, unedau newydd ar gyfer caffis a bwytai a chynnydd sylweddol mewn gwyrddni.

Disgwylir i gais cynllunio gael ei gyflwyno eleni - a bydd hyn yn sbarduno rownd arall o ymgynghoriadau cyhoeddus. Os rhoddir caniatâd, efallai y gellir defnyddio'r cyrchfan ar ei newydd wedd yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.

Rhoddwyd caniatâd newid defnydd yn ddiweddar ar gyfer hen adeilad BHS/What! sydd drws nesaf. Hwn fydd cartref prif lyfrgell newydd Abertawe a, gobeithio, wasanaethau eraill hefyd yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.

Lluniau: Golwg newydd arfaethedig ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell.

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2022