Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn Sgwâr y Castell yn cymryd cam arall

Cynhelir gwaith hanfodol ar linellau pŵer tanddaearol wrth i'r cyngor baratoi i drawsnewid Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas yn fan gwyrddach a mwy croesawgar.

The future Castle Square Gardens

The future Castle Square Gardens

Bydd contractwyr yn gweithio ar ran y Grid Cenedlaethol ar safle'r sgwâr am oddeutu wythnos o ddydd Llun nesaf. Bydd pob busnes yn yr ardal yn masnachu fel arfer.

Bydd ceblau foltedd uchel yn cael eu symud a'u hailosod i ddiwallu anghenion dyluniad newydd y sgwâr, a grëwyd gan y cyngor ar ôl ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd.

Er mwyn galluogi'r Grid Cenedlaethol i gael mynediad i'r sgwâr, caiff cerddwyr eu dargyfeirio dros dro; bydd y sgwâr a'r siopau'n aros ar agor.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld bod gwaith yn symud ymlaen yn y lleoliad allweddol; bydd Gerddi Sgwâr y Castell ar eu newydd wedd yn fan gwych i gwrdd, treulio amser o safon a mwynhau digwyddiadau a chynulliadau.  

"Rydym yn diolch i aelodau'r cyhoedd am eu dealltwriaeth wrth i gontractwyr weithio ar y ceblau hollbwysig." 

Bydd y prif waith ar Sgwâr y Castell yn dechrau eleni a dylid ei gwblhau oddeutu blwyddyn yn ddiweddarach.

Bydd y gwaith trawsnewid yn cynnwys dau bafiliwn ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu, cynnydd o ran gwyrddni arall, gan gynnwys lawntiau newydd a phlannu deunydd, atyniad dŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol, sgrîn deledu anferth newydd a chyfleuster tebyg i safle seindorf, ardaloedd eistedd yn yr awyr agored, yn ogystal â chadw mannau a ddefnyddir gan y cyhoedd.

Y bwriad yw symud cerflun y ddeilen i leoliad addas yn Abertawe.

Llun: Sut olwg fydd ar Erddi Sgwâr y Castell.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Gorffenaf 2024