Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwraeth Castell Ystumllwynarth

Mae Castell Ystumllwynarth yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, ac mae wedi cael gwaith cadwraeth helaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Oystermouth Castle Conservation

2010

Yn hydref 2010 dechreuwyd ar y gwaith hanfodol i ddiogelu adeiledd y castell. Ariannwyd y prosiect partneriaeth gwerth £3.1 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cadw, Croeso Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Dinas a Sir Abertawe gyda chefnogaeth aruthrol gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth, grwp lleol o wirfoddolwyr. 

Prif gontractwr y prosiect yw WRW Construction Ltd, Llanelli a'r penseiri yw Davies Sutton Architects, Caerdydd.

Heneb adfeiliedig fu Castell Ystumllwynarth ers tro byd yr oedd ei waliau carreg trwchus yn gartref i frenhinoedd, arglwyddi ac arglwyddesau rhwng y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif. Adeiladwyd y castell yn wreiddiol i fod yn gadarnle ac i gadw pobl allan. Roedd 2010 yn ddechrau cyfnod newydd yn ei hanes.

Dechreuodd gwaith i adeiladu mannau mynediad a llwybrau cerdded newydd i alluogi amrywiaeth eang o bobl i gael mynediad i'r castell ac i ailgysylltu'r adeiledd â phentref glan môr Fictoraidd y Mwmbwls.

Darparwyd cyfleusterau ymwelwyr yng Nghapel Alina na fu erioed ar agor i'r cyhoedd o'r blaen a gosodwyd pont wydr ar lefel y capel er mwyn cynrychioli haen 2011 o hanes yn cael ei hychwanegu at yr adeiledd canoloesol.

2011 - 2012

Rhwng mis Gorffennaf 2011 a mis Medi 2011, denwyd 13,000 o ymwelwyr i'r castell er bod y gwaith yn parhau. Rhwng mis Hydref 2011 a mis Mai 2012 gwnaed gwaith ychwanegol i adfer yr adeileddau adfeiliedig sy'n sefyll ar ben y creigwely calchfaen o fewn waliau'r castell. 

Yn ystod y gwaith, mae darganfod murluniau, arysgrifau, darnau arian a grisiau o fewn grisiau o'r Oesoedd Canol wedi creu posau i gadwraethwyr a phenseiri eu datrys. 

Ym mis Mehefin 2012, datgelwyd labyrinth canoloesol cyfan o gromgelloedd, siambrau ac ystafelloedd ym muriau'r castell i bobl eu darganfod.

2021

19 Mai 2021

Efallai bod y castell wedi bod ar gau i'r cyhoedd am y flwyddyn ddiwethaf, ond nid yw hynny wedi atal gwaith rhag digwydd y tu ôl i'r llenni. Dros y misoedd nesaf, caiff gwaith cadwraeth hanfodol ei wneud ar Gapel Alina.

w/c 19 Gorffennaf 2021

Byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi sylwi ar y sgaffaldwaith sydd wedi'i osod o gwmpas Capel Alina, ac sydd wedi bod yno ers peth amser. Cymerodd beth amser i gwblhau'r gwaith hwn gan y cafwyd peth oedi a rhwystrau amrywiol, ond mae pethau'n symud yn eu blaenau erbyn hyn! Mae angen i ni gyrraedd copa'r waliau i dynnu'r hyn a elwir yn 'capio meddal'. Haen o laswellt ydyw a osodir ar ben y waliau i arafu'r dŵr sy'n treiddio'r gwaith carreg ac sy'n gallu achosi i'r morter dorri a'r cerrig i chwalu. Mae hefyd yn gweithredu fel blanced thermol sy'n amddiffyn waliau'r castell rhag difrod o ganlyniad i rew yng nghanol y gaeaf.

Gosodwyd yr haenau glaswellt diwethaf yn 2011 ac mae'r tywydd wedi effeithio ar y rhan fwyaf ohonynt, felly bydd angen eu tynnu a'u hailosod. Mae'r gwaith hwn yn bwysig iawn, yn enwedig y tu mewn i'r capel, gan fod olion gwaith paent o'r 14eg ganrif. Er na allwn ei gadw am byth, gallwn helpu i arafu'r difrod trwy ailosod haenen o laswellt newydd. Mae haenau o laswellt tebyg mewn ardaloedd eraill yn y castell. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar yr effaith a gafwyd gan y tywydd, mae rhai haenau wedi llwyddo ac eraill wedi methu.

Oystermouth Castle conservation collage A

w/c 2 Awst 2021

Yr wythnos hon, cyrhaeddodd y contractwyr o ddifri i gychwyn y gwaith gofalus i dynnu'r haen o dyweirch ar ben y waliau. Her arall hefyd oedd sicrhau bod y tyweirch yn cael digon o ddŵr drwy gydol y cyfnod cynnes a gawsom yn ddiweddar. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r chwyn triaglog a oedd wedi mynd ar led drwy'r hen haen o dyweirch wedi'u lladd, sy'n newyddion da. Fodd bynnag, nid mater o godi'r hen dyweirch hindreuliedig yn unig ydyw. Mae angen eu tynnu'n araf rhag ofn y bydd gwreiddiau wedi treiddio trwy'r gwaith cerrig islaw. Hefyd, nid ydym yn gwybod beth yw cyflwr y cerrig o dan y tyweirch felly mae'n bosib y bydd angen eu hailbwyntio gyda'r cymysgedd cywir o forter calch cyn gosod y tyweirch newydd arnynt.

Gwelwyd sampl o'r gwaith gan arolygydd Cadw yn gynharach yr wythnos hon, sydd wedi cymeradwyo'r dull y mae'r contractwyr yn ei gynnig. Diben hyn yw lleihau'r llethr blaenorol i bennau'r waliau drwy adeiladu i fyny gyda cherrig newydd i annog y dŵr i redeg oddi yno, i ffwrdd o'r waliau cymaint â phosib. Defnyddir mân ddarnau o lechi o fewn y morter i wahaniaethu rhwng yr hen garreg a'r atgyweiriadau newydd i'r wal.

Oystermouth Castle conservation collage B

w/c 20 Medi 2021

Dros y mis diwethaf, mae gwaith cadwraeth wedi dod i ben ac wedi ailddechrau gan nad oedd rhannau o'r glaswellt yn addas, ac roedd angen archebu rhagor i gwblhau'r gwaith. Caiff y darnau mawr o laswellt eu codi i frig y sgaffaldau a chânt eu torri'n ôl y gofyn. Bu'n rhaid i ni wneud rhai addasiadau i'r fanyleb a roddwyd i ni gan Cadw er mwyn parhau â'r gwaith. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o bennau waliau'r Capel wedi'u cwblhau ac maent wedi'u hatgyfnerthu â morter calch newydd. Mae'r glaw mân mawr ei angen wedi bod yn fendith gudd, am fod angen i'r glaswellt gael ei ddyfrio â llaw'n rheolaidd nes ei fod wedi'i osod yn llawn.

Oystermouth Castle conservation new turf

w/c 22 Tachwedd 2021 

Newyddion da - mae'r gwaith hanfodol i ailbwyntio a gosod haenen o laswellt y tu mewn i Gapel Alina bellach wedi'i gwblhau. Mae'r glaswellt newydd a osodwyd wedi ymdopi'n dda dros yr ychydig wythnosau diwethaf - mewn da bryd i amddiffyn y waliau rhag y tywydd oer. Fodd bynnag, er bod y gwaith i godi'r sgaffaldwaith yn ôl ym mis Mawrth yn waith mawr, roedd tynnu'r sgaffaldwaith i lawr yr un mor anodd!

Mae llwch yn gorchuddio popeth ar hyn o bryd felly mae gwaith glanhau mawr bellach yn mynd rhagddo cyn i ni ailagor y flwyddyn nesaf, gobeithio.

Mae'r cyngor bellach yn gweithio'n agos gyda'r contractwyr (Taliesin Conservation) i fynd i'r afael ag ardaloedd eraill ar y murflychau a'r porthdy i gael gwared ar haenau o laswellt eraill sydd wedi methu. Byddant hefyd yn gyfrifol am roi 3 chyfres o fariau newydd ar rai o'r ffenestri, a fydd yn gwella diogelwch.

Oystermouth Castle conservation update Nov 21

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2023