Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachwyr yn cefnogi ymgyrch canol y ddinas y Nadolig hwn

Mae mwy fyth o fasnachwyr yn dangos eu cefnogaeth dros ymgyrch i gefnogi canol dinas Abertawe'r Nadolig hwn ac ymhell y tu hwnt i hynny.

Karma Bespoke

Nod ymgyrch #JoioCanolEichDinas a arweinir gan Gyngor Abertawe ac sydd wedi bod ar waith ers mis Medi, yw ceisio helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o'r holl siopau, bwytai, tafarndai, darparwyr gweithgareddau, lleoliadau diwylliannol a busnesau eraill sydd yng nghanol y ddinas.

Mae nifer o byst yn cael eu cynnwys ar dudalennau Facebook ac Instagram y cyngor bob wythnos, gyda masnachwyr, cynnyrch a gwasanaethau canol y ddinas yn ganolog iddynt.

Mae'r busnesau sydd wedi cefnogi'r ymgyrch yn ddiweddar yn cynnwys The Cwtch Café ar Caer Street, Occult Botanica yn Arcêd y Stryd Fawr, La Toscana ar Y Stryd Fawr, a Karma Bespoke ar Mansel Street.

Mae masnachwyr Marchnad Abertawe, gan gynnwys Bowla, Console Action a Carol Watts Gower Cockles, Shellfish and Fresh Laverbread hefyd wedi cymeradwyo'r ymgyrch.

Gwyliwyd fideos sy'n rhan o'r ymgyrch mwy na 50,000 o weithiau eisoes ar gyfryngau cymdeithasol, a bydd mwy o fideos yr ymgyrch yn cael eu cynnwys yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.

City centre traders (Collage)

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae canol dinas Abertawe mor bwysig oherwydd y cyfraniad y mae'n ei wneud i'r economi leol a'r cannoedd o fusnesau gwych yno sy'n cyflogi pobl leol.

"Mae llawer iawn i'w ddarganfod a'i fwynhau yng nghanol y ddinas y Nadolig hwn ac ymhell y tu hwnt i hynny - o'n marchnad dan do brysur a dwsinau o siopau, caffis a bwytai annibynnol i'n tafarndai, darparwyr gweithgareddau a lleoliadau diwylliannol ac adloniant.

"Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn ôl yn awr ym Mharc yr Amgueddfa tan ddechrau mis Ionawr a bydd y Farchnad Nadolig awyr agored ar Stryd Rhydychen tan 20 Rhagfyr.

"Mae hyn yn ychwanegu at ein rhaglen fuddsoddi gwerth dros £1bn sy'n parhau i drawsnewid canol ein dinas yn un o gyrchfannau gorau'r DU i weithio, byw, astudio, mwynhau ac ymweld ag ef."

Cwtch Cafe

Mae ap gwobrwyon newydd canol y ddinas a gynhelir ac a grëwyd gan Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe hefyd ar gael yn awr i'w osod ar ddyfeisiau symudol pobl.

Mae'r ap gwe blaengar yn rhoi gwybodaeth am fusnesau a digwyddiadau canol y ddinas wrth roi cyfle i breswylwyr Abertawe gael mynediad at gynigion a gostyngiadau ym musnesau canol y ddinas.

Ewch i app.bigheartofswansea.co.uk i osod yr ap.

Caiff lleoliadau a gwybodaeth am yr holl feysydd parcio yng nghanol y ddinas a reolir gan y cyngor, lle mae modurwyr yn talu £1 yr awr i barcio gydag uchafswm o £5 i barcio am y diwrnod cyfan, bellach eu cynnwys ar yr ap.

Close Dewis iaith