Canolfan Blant Abertawe
Mae'r ganolfan, sydd ym Mhen-lan ac sy'n cynnig lle i deuluoedd dderbyn cymorth, hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i bobl o bob oedran.
Mae Canolfan Blant Abertawe'n ganolfan gymunedol groesawgar ym Mhen-lan ar safle Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd, sy'n cynnig cymorth hanfodol a gweithgareddau cynhwysol i blant a theuluoedd ledled Abertawe. Mae'r ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae'n darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys sesiynau cymorth i deuluoedd, hyfforddiant, cefnogaeth i rieni, cynlluniau chwarae tymhorol, darpariaeth Dechrau'n Deg, cymorth bwyd, banciau babanod a llawer mwy.
Mae staff yn gweithio'n agos gydag ysgolion, ymwelwyr iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth ymarferol fel dillad, bwyd a gwelliannau o ran diogelwch yn y cartref. Mae'r ganolfan yn yr un lleoliad ag ysgol ac mae'n ategu gwaith Canolfan Blant Golwg y Mynydd yn Mayhill, gan greu rhwydwaith cryf o ofal ac ymgysylliad i deuluoedd mewn angen.
- Enw
- Canolfan Blant Abertawe
- Cyfeiriad
-
- Heol Eppynt
- Pen-lan
- Abertawe
- SA5 7AZ
- Rhif ffôn
- 01792 572060
