Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu asbestos o'ch cartref

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu asbestos bondiog i breswylwyr Abertawe.

Mae asbestos bondiog yn cynnwys dalen sment asbestos rychiog, cynhyrchion wedi'u mowldio â sment asbestos, deunydd diddosi wedi'i wneud o fitwmen a theils llawr finyl.

Cost y casgliad 
Dalen sment asbestos rychiog 'Big 6' (6 throedfedd o hyd x 4 troedfedd o led) £40 fesul dalen i'w chasglu
Dalen sment asbestos rychiog safonol (6 throedfedd o hyd x 3 troedfedd o led)£30 fesul dalen i'w chasglu
1 bag o sment / teils llawr asbestos wedi'u torri (25kg)£30 fesul bag
Pibell garthion / wastraff sment asbestos£90 y bibell wastraff (eiddo deulawr)
£120 y bibell wastraff (eiddo trillawr)

Cafnau a phibellau dŵr asbestos 

£30 fesul pibell ddŵr
£60 fesul pibell 6m o hyd

Astell fondo sment asbestos£60 fesul astell 6m o hyd (2 fag)

Rhaid talu ymlaen llaw. Ni ddylid talu'r criwiau casglu.

Cais am gasgliad

I drefnu casgliad, ffoniwch 01792 635600. Dylech roi disgrifiad llawn o'r gwastraff i'w gasglu pan fyddwch yn trefnu'r casgliad.

Symiau mwy o asbestos

Os oes gennych nifer mawr o ddalennau asbestos bondiog, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â chwmni gwaredu gwastraff masnachol. Rhaid iddynt gael trwydded i drin a thrafod asbestos.

Bydd gan Gontractwyr Symud Asbestos Cymeradwy (ARCA) restr o gontractwyr yn ardal Abertawe a gymeradwywyd i symud asbestos. Ffoniwch nhw ar 01283 531126 neu e-bostiwch info@arca.org.uk.

Close Dewis iaith