Toglo gwelededd dewislen symudol

Teuluoedd yn cael ymweld â Chastell Ystumllwynarth - am ddim

​​​​​​​Bydd un o dirnodau mwyaf hanesyddol Abertawe'n cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr ddydd Sadwrn, 10 Medi.

Oystermouth Castle

Oystermouth Castle

Mae Castell Ystumllwynarth, a adeiladwyd ganrifoedd yn ôl yn cymryd rhan mewn menter a gynhelir ar draws Cymru sy'n annog pobl i fwynhau adeiladau treftadaeth y wlad.

Mae'r digwyddiad yn y Mwmbwls yn cael ei drefnu gan y grŵp gwirfoddol Cyfeillion Castell Ystumllwynarth sydd, ynghyd â Chyngor Abertawe, yn rhedeg y lleoliad eiconig.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies,"Mae digwyddiad dydd Sadwrn yn gyfle mawr i bobl o bob rhan o Abertawe fwynhau popeth sydd gan yr atyniad gwych hwn i'w gynnig - am ddim."

Mae digwyddiad Drysau Agored Castell Ystumllwynarth ddydd Sadwrn yn rhan o weithgarwch ehangach gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Bydd mynediad am ddim i'r castell o 11am tan 5pm.Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu am hanes, saernïaeth ac archaeoleg anhygoel yr adeilad.

Rhagor: abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth

 

 

 

Close Dewis iaith