Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymwelwyr â'r castell yn mwynhau tymor newydd yn Ystumllwynarth

Mae Castell Ystumllwynarth hanesyddol Abertawe ar agor ar gyfer tymor y gwanwyn a'r haf.

Oystermouth Castle

Y Cyngor a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy'n cynnal yr atyniad, sy'n edrych dros y Mwmbwls a Bae Abertawe. 

Y tymor hwn mae ar agor i'r cyhoedd o 11am - 5pm bob dydd ac eithrio ar ddydd Mawrth tan 30 Medi, a phob penwythnos ym mis Hydref.

Mae ffïoedd mynediad yn aros yr un peth ag yr oeddent yn 2023, gyda thocyn teulu (dau oedolyn a thri phlentyn) yn costio £18.

Bydd tymor 2024 yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau sy'n addas i deuluoedd drwy gydol y tymor a hyd at y Nadolig. Cânt eu trefnu gan y grŵp cyfeillion.

Meddai cadeirydd y cyfeillion, Paul Lewis, "Gwnaethom groesawu dros 14,000 o ymwelwyr y llynedd ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer mwy eleni."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae'r castell yn caniatáu i ymwelwyr archwilio treftadaeth gyfoethog ein hardal, mwynhau amser rhydd o safon ac ymweld â siopau, busnesau ac atyniadau cyfagos yn y Mwmbwls."