Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgwâr y Castell: Y cyhoedd i gael dweud eu dweud ar gynlluniau terfynol

Mae preswylwyr a busnesau Abertawe'n cael eu hannog i ddweud eu dweud am gynlluniau terfynol ar gyfer Sgwâr y Castell ailddatblygedig gwyrddach.

Castle Square Plans

Castle Square Plans

Ystyriwyd adborth cyhoeddus o rowndiau ymgynghori cynharach pan greodd dylunwyr yr edrychiad newydd ar gyfer y lleoliad sy'n ganolbwynt yng nghanol y ddinas.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer y coed
  • Cynyddu faint o wyrddni arall sydd yno, gan gynnwys lawntiau newydd, planhigion addurnol a bioamrywiol - o 1,460 tr sg i 2,530 tr sg.
  • Ychwanegu dau adeilad pafiliwn ar gyfer busnesau bwyd, diod neu fanwerthu - gyda tho gwyrdd hygyrch ar un ohonynt
  • Nodwedd dŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol
  • Sgrîn deledu enfawr newydd uwchben cyfleuster tebyg i safle seindorf
  • Ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored

Mae'r cynlluniau'n cynnwys dysglau plannu, grisiau, seddi, goleuadau a phalmentydd newydd. Byddai'r nodwedd cwch deilen bresennol yn cael ei symud i leoliad arall yn Abertawe mewn ymgynghoriad â'r artist gwreiddiol.

Mae'r cais cynllunio'n dweud y byddai'r elfennau masnachol - gan gynnwys unedau bwyty gyda seddi allanol - yn ceisio cynyddu bywiogrwydd y lleoliad ac annog pobl i aros yn hwy.

Byddai digwyddiadau cyhoeddus a chreadigol yn parhau i gael eu cynnal yn Sgwâr y Castell drwy gydol y flwyddyn. Mae'r cais cynllunio'n dangos na fyddai colled net o ran lle agored cyhoeddus defnyddiadwy.

Dywed y ddogfen ddylunio hefyd; "Mae'n rhaid i unrhyw adeilad newydd a gwelliannau fod o ddyluniad ansawdd uchel, hygyrch a chynaliadwy sy'n ategu ardal ganolog Abertawe a'i threftadaeth."

Roedd busnesau a fu'n ymwneud â'r dyluniadau'n cynnwys y penseiri ACME, y rheolwr datblygu Spider Projects a'r arbenigwyr saernïol Civic Engineers.

Mae'r ymgynghorwyr cynllunio Savills wedi bod yn gweithio ar Sgwâr y Castell ar ran y cyngor sy'n arwain y gwaith gwerth £1 biliwn i adfywio Abertawe.

Fel rhan o'r broses gynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad hwn, gall y cyhoedd ddweud eu dweud am yr ymgynghoriad cais cynllunio o 5 Medi. Hoffem gael cymaint o adborth â phosib oddi wrth y cyhoedd.

Meddai cyfarwyddwr sefydlu ACME, Friedrich Ludewig, "Rydym yn ailfywiogi lle dinesig pwysig gydag ardaloedd eistedd mewn rhes, llwybrau mynediad newydd, nodwedd dŵr chwareus a phlanhigion bioamrywiol."

Gellir gweld y cynigion ar gyfer Sgwâr y Castell ar-lein.

Lluniau: Yr olwg newydd arfaethedig ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Awst 2022