Toglo gwelededd dewislen symudol

Galw am wirfoddolwyr yng Nghastell Ystumllwynarth

​​​​​​​Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i wneud lleoliad hanesyddol Castell Ystumllwynarth yn atyniad lleol gwych i ymwelwyr eto eleni.

Oystermouth Castle

Oystermouth Castle

Mae Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth yn galw ar bobl a hoffai ymgysylltu â'u cymuned leol ac sydd â diddordeb mewn hanes, archaeoleg, addysg ac ymchwil, i ystyried rôl o'r fath.

Gall y rheini a chanddynt ddiddordeb fynd i ddiwrnod agored yng Nghanolfan Ostreme gerllaw, o 11am - 1pm ddydd Sadwrn, 3 Chwefror.

Bydd gwirfoddolwyr Castell Ystumllwynarth profiadol yno i esbonio sut maent yn cefnogi'r castell drwy gydol y flwyddyn, cyn iddo agor yn y gwanwyn.  

Mae buddion gwirfoddoli yn cynnwys mynediad am ddim i'r castell, cyfleoedd rheolaidd i fynychu digwyddiadau cymdeithasol a'r cyfle i gael mynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth a hyfforddiant parhaus.

Elusen gofrestredig a sefydlwyd 35 o flynyddoedd yn ôl yw Cyfeillion Castell Ystumllwynarth. Mae aelodau'n gyfrifol am redeg y tirnod o ddydd i ddydd.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Gall unrhyw un ymuno fel Cyfaill neu wirfoddolwr.

"Mae dod yn wirfoddolwr yn llawer o hwyl. Rydych yn cael y cyfle i gwrdd ag ymwelwyr o bob cwr o'r byd a'r cyfle i ddysgu am hanes hynod ddiddorol y castell, a'i esbonio."

Meddai Marie Hughes, ysgrifennydd y Cyfeillion, "Rwy'n falch fy mod i wedi ymuno â'r Cyfeillion; pan ymunais i 10 mlynedd yn ôl, roedd yn gyfle i mi gwrdd â phobl newydd ar ôl blynyddoedd lawer o fyw y tu allan i'r ardal."

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Erika Kluge, cydlynydd datblygiad y castell, neu ffoniwch hi ar 07557 481467. Fel arall, ffoniwch Marie Hughes ar 07778 120294.