Disgyblion yn croesawu cyfleusterau chwaraeon a chymunedol arloesol
Mae disgyblion mewn ysgol sydd bellach yn elwa o gyfleusterau chwaraeon a chymunedol arloesol wedi croesawu partneriaid a oedd yn gyfrifol am ariannu'r cynllun gwerth £7.5m.


Yr wythnos hon, agorodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, y sgubor chwaraeon dan do newydd, y ganolfan hamdden sydd wedi'i hehangu a'r ystafelloedd cymunedol yn Ysgol Gymunedol a Chanolfan Hamdden Cefn Hengoed.
Ymunodd y disgyblion i'w croesawu ac roeddent yn falch o ddangos y trawsnewidiad i'r gwesteion.
Yn ogystal â'r sgubor chwaraeon dan do gyda chae 3G, mae campfa gyfoes newydd sbon, neuadd chwaraeon wedi'i hailwampio, stiwdio ffitrwydd newydd sbon a derbynfa newydd yn y ganolfan hamdden sy'n cynnwys caffi.
Mae'r hwb cymunedol newydd wedi cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr ysgol, y preswylwyr a'r teuluoedd.
Ariannwyd y gwaith gan Gyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru, yFootball Foundation, Freedom Leisure a Chwaraeon Cymru ac fe'i cefnogir gan bartneriaid gan gynnwys Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru ac Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed.