Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn datblygu'n dda ar gyfadeilad chwaraeon gwerth £7.5m

Mae gwaith yn datblygu'n dda ar fuddsoddiad o dros £7.5m mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden, ynghyd â chanolfan cynnwys teuluoedd gymunedol, a fydd o fudd i filoedd o bobl ar draws Abertawe pan fydd yn agor yn hwyrach eleni.

Cefn Hengoed Sports Complex Under Construction

Cefn Hengoed Sports Complex Under Construction

Gwahoddodd y contractwyr lleol, Morganstone, bartneriaid i weld y gwaith trawsnewid sy'n mynd rhagddo yn Ysgol Gymunedol a Chanolfan Hamdden Cefn Hengoed ar ochr ddwyreiniol y ddinas.

Mae'r ganolfan hamdden yn cael ei thrawsnewid yn llwyr gydag ystafell ffitrwydd newydd, caffi, stiwdio hyblyg, ystafelloedd newid, mynedfa newydd a lle parcio ceir.

Ac mae gwaith nawr yn dechrau ar sylfeini canolbwynt y cynllun - ysgubor chwaraeon dan do 60x40m newydd sbon gyda chae 3G - y cyntaf o'i bath yn Abertawe. 

Ymunodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, â chydweithwyr y Cabinet a swyddogion am daith o'r safle i weld y cynnydd a wnaed.

Meddai, "Bydd y cyfleuster hwn yn newid pethau'n sylweddol i chwaraeon, hamdden a chyfleusterau cymunedol ar ochr ddwyreiniol y ddinas a thu hwnt - cyfleuster nad oes unrhyw beth arall yn Abertawe'n debyg iddo, a fydd yn croesawu miloedd o bobl ac yn cynnig buddion i bobl o bob oed."

Close Dewis iaith