Toglo gwelededd dewislen symudol

Cae dan do wedi'i osod mewn cyfadeilad hamdden o'r radd flaenaf

Mae cae 3G dan do newydd wedi cael ei osod mewn cyfadeilad chwaraeon newydd o'r radd flaenaf yn Ysgol Gyfun Gymunedol a Chanolfan Hamdden Cefn Hengoed.

Cefn Hengoed Sports Barn Cabinet Visit

Cefn Hengoed Sports Barn Cabinet Visit

Disgwylir i'r sgubor chwaraeon dan do ynghyd â chanolfan hamdden sydd wedi'i hehangu a'i hadnewyddu fel rhan o fuddsoddiad gwerth £7.5m yn y safle, agor yn y misoedd sy'n dod.

Mae gwelliannau'n cynnwys campfa newydd sbon gyda chyfarpar cwbl newydd, stiwdio ffitrwydd newydd gyda sgrin fawr, system sain a goleuadau enfys, ystafelloedd newid newydd a derbynfa newydd gyda chaffi, ac mae'r neuadd chwaraeon fawr wedi'i hailwampio hefyd gyda llawr newydd sbon.

Mae'r cyfleusterau hyn yn ategu'r sgubor chwaraeon dan do newydd ac mae'r cae 3G yn addas ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon.

Aeth aelodau Cabinet Cyngor Abertawe ei ymweld â'r datblygiad yr wythnos hon.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn chwaraeon cymunedol a chyfleusterau hamdden yn ochr ddwyreiniol Abertawe ac maent heb eu hail. Mae'r hyn sydd wedi'i greu yng Nghefn Hengoed wedi creu argraff fawr arnaf."

Close Dewis iaith