Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth recriwtio a hyfforddi i fusnesau

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth recriwtio a rhaglenni hyfforddi wedi'u hariannu a ddarperir gennym ni a'n partneriaid.

Recriwtio

Gweithffyrdd+ (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Gweithffyrdd+ yn rhaglen gyflogadwyedd a ddarperir gennym ni. Gall tîm o Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr baru pobl leol â busnesau lleol a'u helpu i ennill y sgiliau a'r profiad angenrheidiol y mae eu hangen arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth tymor hir a helpu busnesau i fodloni eu cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol.

Gall Gweithffyrdd+ helpu eich busnes drwy:

  • ddarparu Gwasanaeth Recriwtio AM DDIM i gyflogwyr a chyflogwyr posib
  • helpu i wneud recrwitio'n haws ac yn gyflymach 
  • darparu ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi
  • cynorthwyo gyda phrofion gwaith a diwrnodau rhagflas
  • paratoi hyfforddiant addas i ymgeiswyr posib

Mae gwasanaethau am ddim i'w defnyddio - i gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich busnes elwa o gymorth Gweithffyrdd+, cysylltwch â thîm Gweithffyrdd+:

Ffôn: 01792 637112
E-bost: gweithffyrdd+@abertawe.gov.uk

Prentisiaethau

Gall prentisiaid fod yn ffordd arloesol o lenwi'r bylchau sgiliau yn eich busnes. Mae prentisiaid yn aml yn cael eu hystyried fel ffordd o recriwtio gweithwyr newydd i'ch busnes; er y gallai hyn fod yn wir, gall prentisiaeth hefyd fod yn ffordd o wella sgiliau eich gweithlu presennol. 

Mae cyrsiau prentisiaid bellach ar gael yr holl ffordd hyd at lefel gradd ac maent ar gael ar draws 23 o sectorau unigol. 

Mae cymhellion ariannol ar gael i bob busnes sy'n recriwtio prentis 

Gall Busnes Cymru ddarparu cymorth i recriwtio prentisiaid i'ch busnes. Am fanylion pellach gan gynnwys canllaw i gyflogwyr ewch i: Busnes Cymru - prentisiaethau (Yn agor ffenestr newydd) 

 

Hyfforddiant a datblygiad

Sgiliau ar gyfer y Diwydiant (Coleg Gŵyr Abertawe) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r prosiect Sgiliau ar gyfer y Diwydiant yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau fuddsoddi mewn hyfforddiant er mwyn gwella sgiliau eu gweithlu a chynyddu cynhyrchiant.

Mae'r cymwysterau'n amrywio o Lefel 1 i Lefel 7.

Busnesau bach (hyd at 50 o weithwyr) - 70% i ffwrdd
Busnesau canolig (51-249 o weithwyr) - 60% i ffwrdd
Busnesau mawr (250+ o weithwyr) - 50% i ffwrdd

Cyfrif Dysgu Personol (CDP) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r CDP yn darparu cyrsiau dysgu rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn mewn meysydd penodol. Bydd hyn yn galluogi unigolion i ennill sgiliau a chymwysterau naill ai i ddatblygu eu gyrfa bresennol neu i gychwyn ar lwybr newydd. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 19 oed, yn byw yng Nghymru ac yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn.

Sgiliau Bwyd Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn darparu cefnogaeth hyfforddi i ddiwydiant cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod Cymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau cywir. Mae cyllid ar gael ar gyfer cwblhau hyfforddiant technegol a hyfforddiant datblygu staff - wedi'i achredu a heb ei achredu.

Mae swm y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar faint y busnes:

  • Micro  (1-10 p weithwyr) = hyd at 80%
  • BBaCh (11-249 o weithwyr) = hyd at 70%
  • Mawr (250+ o weithwyr) = hyd at 50%

Rhaglen METaL (Yn agor ffenestr newydd)

Mae METaL yn darparu deunyddiau uwch a hyfforddiant gweithgynhyrchu ar ffurf cyrsiau byr, 10 credyd ar lefel 4 ac uwch. Nod allweddol y rhaglen yw mynd i'r afael â'r prinder sgiliau yn y gweithlu deunyddiau a gweithgynhyrchu a fydd yn y pen draw yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd i ddiwydiant Cymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Tachwedd 2023