Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth yn dilyn ffrwydrad nwy Treforys

Mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â'i bartneriaid i gefnogi preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yn Nhreforys ddydd Llun, 13 Mawrth.

Rydym yn deall pa mor anodd yw'r sefyllfa i breswylwyr sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Dyma rywfaint o wybodaeth i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt, ac i bobl sydd eisiau rhoi

Bydd y manylion hyn yn cael eu diweddaru unwaith y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

Cau ffyrdd

Mae Clydach Road bellach ar agor i draffig gyda rheolaeth traffig tair ffordd ar waith.

Mae'n annhebygol y bydd modd i gerbydau gael mynediad i Field Close am nifer o wythnosau oherwydd y risg o falurion yn cwympo. Mae atebion eraill i alluogi ceir i gael mynediad i'r ffordd hon yn cael eu hystyried.

Wales & West Utilities

Mae peirianwyr o Wales & West Utilities (WWU), y bibell nwy a'r gwasanaeth brys wedi bod ar y safle yn cefnogi preswylwyr ac maen nhw dal yno i barhau i fonitro'r sefyllfa'n agos.

Mae timau WWU hefyd wedi bod yn cynnal profion cynhwysfawr a helaeth i ddiystyru unrhyw ddifrod i'r rhwydwaith nwy o ganlyniad i'r ffrwydrad. Er mwyn rhoi sicrwydd pellach, mae preswylwyr wedi cael gwybod yn dilyn ymweliadau cartref gan WWU a llythyrau a anfonwyd y bydd gwaith i osod pibellau plastig newydd yn lle'r pibellau nwy metel presennol yn dechrau ddydd Mercher, 22 Mawrth.

Mae'r gwaith ailosod pibellau nwy hwn yn rhan o raglen 30 mlynedd ehangach a ddarperir gan WWU i gadw nwy i lifo'n ddiogel ac yn ddibynadwy ledled Cymru.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y gymuned leol, mae gwaith amnewid pibellau nwy wedi'i flaenoriaethu cyn gwaith atgyweirio angenrheidiol i arwyneb y ffordd a fydd yn cael ei wneud gan Gyngor Abertawe ar gyffordd Clydach Road a Field Close.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith nwy, cysylltwch â Wales & West Utilities yma: 0800 912 2999 neu drwy e-bostio enquiries@wwutilities.co.uk  

Dychwelyd adref

Mae rhai eiddo yn parhau i fod yn anniogel i ymweld â nhw - oni bai eich bod wedi cael gwybod na allwch gael mynediad i'ch cartref a'ch bod yn dymuno dychwelyd, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun ond dylai hyn fod yn amodol ar wiriadau diogelwch ar y cyd â'ch Darparwyr Yswiriant eich hun a fydd yn gorfod pennu diogelwch yn seiliedig ar eiddo unigol ac eiddo cyfagos.

Fe'ch cynghorir yn gryf i gael gwiriadau nwy a thrydan cyn gynted â phosib (sicrhewch eich bod yn ffonio peiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig a thrydanwr cwbl gymwys):

Mae'r eiddo sydd wedi'u difrodi bellach wedi'u ffensio ac mae parth gollwng ar waith i ddal unrhyw falurion a all ddisgyn o'r rhain.

Casglu gwastraff

Cynhelir casgliadau gwastraff yn yr ardal fel arfer ar ddydd Llun. Sicrhewch fod gwastraff ac ailgylchu'n cael eu rhoi allan i'w casglu erbyn 6.00am. Gall preswylwyr yn Field Close roi eu heitemau i'w casglu y tu allan i'w cartrefi.

Gofynnir i breswylwyr yn yr ardal dim mynediad roi eu bagiau mewn pentwr ar gornel Clydach Road a Chwm Arian lle cânt eu casglu. Sylwer na all y criwiau gwastraff gymryd unrhyw rwbel na deunyddiau adeiladu. 

Post i breswylwyr yr effeithir arnynt

Bydd unrhyw eiddo y gall y tîm post gael mynediad iddynt yn derbyn post ac felly mae'n debygol y bydd y preswylwyr yn dal i weld eu postmon ar y llwybr.

O ran post y preswylwyr yr effeithir arnynt, bydd eu post yn cael ei gadw ym Man Gwasanaeth Cwsmeriaid Swyddfa Ddosbarthu'r Post Brenhinol yn Abertawe.

Bydd yn rhaid i'r preswylwyr fynd â dull adnabod er mwyn casglu'r post. Ar gyfer unrhyw breswylwyr a all gael eu dadleoli yn y tymor hwy, bydd y Post Brenhinol yn eu cefnogi gydag ailgyfeiriadau, a fydd yn cael eu cynnig am ddim am dri mis. Gofynnir i breswylwyr nad oes ganddynt ddull adnabod neu sy'n dymuno anfon eu post i gyfeiriad arall ffonio 03452 667959 am gymorth.

Mae Swyddfa Ddosbarthu Abertawe ar Siemens Way, Abertawe SA1 1AA.

Mae gwefan y Post Brenhinol yn cynnwys oriau agor a gwybodaeth arall.

Anghenion tai

Bydd y cyngor yn parhau i ddarparu llety dros dro i'r rheini sydd ei angen.

Dylai unrhyw un sydd am drafod anghenion tai hefyd gysylltu â thîm Opsiynau Tai ty cyngor. Gellir eu ffonio ar 01792 533100.

Cefnogaeth gymunedol a chynigion o gymorth

Cysylltwch â 'ch Cydlynydd Ardaloedd Leol

Byron MeasdayCydlynydd Ardaloedd Lleol Treforys
07900 702656
byron.measday@abertawe.gov.uk

Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a'i bartneriaid lleol yn annog rhoddion. Mae'r arian a godir yn cael ei ddefnyddio i ddechrau i ddarparu cymorth ariannol brys i bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y ffrwydrad ac y gall fod angen eitemau brys newydd arnynt am fod eu heitemau hwy wedi'u difrodi neu eu dinistrio, a chymorth gyda chostau ychwanegol yn y tymor hwy.
Mae'r dudalen rhoddion ar gael yma

Mae sefydliad Jac Lewis yn cynnig darparu mynediad cyflym at gwnsela i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad. Llenwch y ffurflen atgyfeirio sydd ar dudalen flaen eu gwefan: https://jaclewisfoundation.co.uk, neu ffoniwch 07368 828515.

Cysylltiadau defnyddiol

Tai

Cyngor Abertawe - Angen llety dros dro

  • 01792 533100 (oriau swyddfa)
  • 01792 636595 (y tu allan i oriau)

Cyngor Abertawe - Tîm Cymorth Tai

Aelodau ward

Y Cyng. Rob Stewart
Ffôn:  01792 549417
Ffôn symudol:  07717 840837
E-bost: cllr.rob.stewart@abertawe.gov.uk
Twitter: twitter.com/Cllr_robstewart

Y Cyng. Andrea Lewis
Ffôn: 07584 670061
E-bost: cllr.andrea.lewis@abertawe.gov.uk

Y Cyng. Yvonne Jardine
Ffôn: 01792 814894
E-bost: cllr.yvonne.jardine@abertawe.gov.uk

Y Cyng. Robert Francis-Davies
Ffôn: 01792 427189
Ffôn symudol:  07812 635401
E-bost:  cllr.robert.davies@abertawe.gov.uk

Y Cyng. Ceri Evans
Ffôn symudol: 07971 485688
E-bost: cllr.ceri.evans@abertawe.gov.uk

Cydlynydd Ardaloedd Lleol

Byron Measday
Cydlynydd Ardaloedd Lleol Treforys
07900 702656
byron.measday@abertawe.gov.uk

Uned Cefnogi Cymdogaethau - ar gyfer materion sy'n ymwneud â thai

  • 01792 648507 (24/7)

Addysg 

Ymholiadau cyffredinol:

Materion brys

  • 07525 217943

Gwasanaethau Cymdeithasol - am anghenion cymorth

Y Tîm Dyletswydd Brys

Y Grid Cenedlaethol - Trydan

0800 096 3080 (y tu allan i oriau)

Y rhif argyfwng bob amser yw 105

Llinell Argyfwng Nwy Cenedlaethol

0800 111 999 -  24 / 7

Rhoi gwybod am arogl nwy - bydd arbenigwr yn bresennol o fewn awr i gynnal archwiliadau diogelwch niferus.

Priffyrdd

Cyswllt 24 awr ar gyfer materion sy'n ymwneud â phriffyrdd:

CGGA

Ymholiadau am Gronfa Rhoddion Treforys neu gynigion o gefnogaeth

Dydd Llun - dydd Gwener, 9.00am - 5.00pm

Yr wybodaeth ddiweddaraf ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol

Facebook Cyngor Abertawe - www.facebook.com/cyngorabertawe1               

Twitter Cyngor Abertawe - Cyngor Abertawe (@CyngorAbertawe) / Twitter

Cwestiynau cyffredin

Alla i barhau i ddefnyddio'r llyfrgell fel arfer?

Mae'r llyfrgell ar agor ar gyfer busnes fel arfer a bydd yn parhau i ddiwallu anghenion ehangach y gymuned. Gall unrhyw breswylwyr y mae'r ffrwydrad nwy wedi effeithio arnynt barhau i fynd i'r llyfrgell i gael llonydd, i ddarllen llyfr neu i fwynhau te neu goffi. Mae Llyfrgell Treforys ar restr Lleoedd Llesol Abertawe - gallwch gael rhagor o wybodaeth am leoedd diogel, cynnes a chroesawgar eraill yn ein cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe.

Sut gallaf helpu fy nghymuned? 

Y prif ffordd rydym yn gofyn i bobl yn y gymuned helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yw drwy gyfrannu at gronfa'r apêl sy'n cael ei chydlynu gan CGCA. Gallwch gyfrannu at yr apêl yma: https://localgiving.org/morriston-appeal

Mae rhoddion o eitemau fel bwyd a dillad eisoes wedi cael eu dosbarthu i deuluoedd. Rydym yn deall y gall fod nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol eisiau cyfrannu eu hamser ar gyfer gweithgareddau fel glanhau, ond bydd mwy o wybodaeth am unrhyw gyfleoedd perthnasol ar yr adeg briodol. 

Mae'r hyn sydd wedi digwydd wir wedi cael effaith arna i - sut gallaf gael help?

Rydym yn cydnabod y bydd y digwyddiad hwn wedi cael effaith ar iechyd corfforol ac meddyliol pobl felly rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gefnogi pobl i ddelio â'r effeithiau ar eu lles. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd mewn unrhyw ffordd, siarad â'ch Cydlynydd Ardaloedd Lleol, Byron Measday, drwy ffonio 07900 7-2656 neu e-bostio byron.measday@abertawe.gov.uk.

Sut ydw i'n cael help gydag effaith ariannol yr hyn sydd wedi digwydd? 

Mae preswylwyr y bu'n rhaid iddynt adael eu cartrefi wedi cael arweiniad am agweddau ariannol eu sefyllfa ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill i'w rhoi mewn cysylltiad â gwybodaeth arall ar faterion fel yswiriant, cyfleustodau a threth y cyngor. 

Cymuned yn cael ei chanmol am ei hymateb i'r ffrwydrad yn Nhreforys

Mae cymunedau yn y ddinas wedi cael eu canmol am y ffordd y maent wedi dod ynghyd i helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yn Clydach Road, Treforys, bythefnos yn ôl.

Apêl yn cael ei lansio i gefnogi aelwydydd yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys

Mae apêl frys wedi cael ei lansio ar gyfer aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad trychinebus yn Nhreforys ddydd Llun.

Canmoliaeth wrth i'r gymuned ddod ynghyd ar ôl y ffrwydrad nwy yn Nhreforys

Mae'r gwasanaethau brys, staff Cyngor Abertawe, preswylwyr a'r gymuned ehangach wedi cael eu canmol am y gefnogaeth ddigynsail y maent wedi'i rhoi i'r rheini y mae'r ffrwydrad nwy yn Nhreforys wedi effeithio arnynt.