Toglo gwelededd dewislen symudol

Apêl yn cael ei lansio i gefnogi aelwydydd yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys

Mae apêl frys wedi cael ei lansio ar gyfer aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad trychinebus yn Nhreforys ddydd Llun.

Scene of gas explosion in Morriston

Scene of gas explosion in Morriston

Nid yw llawer o ddeiliaid tai yn yr eiddo cyfagos yn gallu dychwelyd i'w cartrefi, ac mae difrod sylweddol i'w cartrefi a'u heiddo.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a'i bartneriaid lleol yn annog rhoddion, gyda'r arian a godir yn cael ei ddefnyddio i ddechrau i ddarparu cymorth ariannol brys i bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y ffrwydrad sydd efallai'n gorfod prynu eitemau brys yn lle'r rhai a gafodd eu difrodi neu eu dinistrio, ac i gefnogi costau ychwanegol yn y tymor hwy.

Gallwch gyfrannu at yr apêl yma: https://localgiving.org/morriston-appeal

Meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr CGGA, "Mae ein meddyliau gyda'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy yn Nhreforys yr wythnos hon, rydym mor falch o'r sefydliadau, yr ymatebwyr brys a'r unigolion hynny yn y gymuned sydd wedi camu ymlaen i ddarparu cymorth di-oed yn eu cymuned.

"Rydym yn lansio'r apêl hon i ategu'r ymdrechion gwych sydd eisoes ar waith yn lleol, a byddwn yn cysylltu â sefydliadau ar lawr gwlad i esbonio sut gallant atgyfeirio pobl am gymorth ariannol dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf."

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae ymateb y gymuned wedi bod yn anhygoel ac mae pobl yn ymdrechu i wneud unrhyw beth y gallant i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trychinebus hwn.

"Mae'r cyngor, ynghyd â'n partneriaid, yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi preswylwyr a phawb yr effeithiwyd arnynt drwy ddarparu llety am ddim i'r rheini y mae ei angen arnynt. Rydym yn sefyll gyda phobl Treforys a byddwn yn parhau i'w cefnogi dros y misoedd nesaf gyda chefnogaeth a chyngor ychwanegol y gall fod eu hangen arnynt.

"Mae pobl wedi bod yn gofyn beth allan nhw ei wneud i helpu a dyna pam byddwn yn annog unrhyw un a all wneud hynny i gyfrannu at yr apêl hon i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y drasiedi hon."

 

Close Dewis iaith