Toglo gwelededd dewislen symudol

Seremoni'n dathlu chwarae ac arwyr gofal plant

Mae'r gwaith anhygoel a wneir gan weithlu gofal plant a chwarae hynod fedrus Abertawe wedi cael ei gydnabod mewn noson o glits a glamor yn Neuadd Brangwyn.

Childcare and Play Awards 2023

Childcare and Play Awards 2023

Derbyniwyd bron 550 enwebiad ar gyfer Digwyddiad Dathlu'r Blynyddoedd Cynnar a Chwarae cyntaf Cyngor Abertawe a oedd yn gyfle i arddangos a dathlu'r gofal plant a'r cyfleoedd chwarae anhygoel sy'n sicrhau bod plant yn y ddinas yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Ar y noson a ariannwyd ac a noddwyd yn allanol gan Goleg Gŵyr Abertawe a Holistic Steps cafwyd 65 o enillwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat ar draws ystod o gategorïau.

Roedd y rhain yn cynnwys cyfleoedd chwarae fel gofal y tu allan i'r ysgol gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau, cynlluniau chwarae mynediad agored a chaeëdig a grwpiau rhieni a phlant bach.

Cydnabuwyd Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar hefyd gan gynnwys gofal dydd llawn a gofal dydd sesiynol fel grwpiau cylch, grwpiau chwarae, gofal ar ddechrau ac ar ddiwedd dydd a Dechrau'n Deg yn ogystal â gwarchodwyr plant.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, a oedd yn rhan o'r panel beirniadu, "Roedd yn noson hudol lle rhoesom sylw i ddiwydiant y blynyddoedd cynnar a chwarae, gan ganolbwyntio ar unigolion a lleoliadau sy'n rhagori yn eu maes wrth sicrhau bod y diwydiant cyfan yn teimlo bod gwerth iddo, a'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod."

Close Dewis iaith