Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwelliannau i adeilad eglwys yn rhoi hwb i sgiliau syrca

Disgwylir i sgiliau syrcas yn Abertawe gael hwb, diolch i waith gwella ar adeilad eglwys hanesyddol.

Circus Eruption

Circus Eruption

Mae Circus Eruption - elusen ieuenctid integredig am ddim - wedi gwneud cais llwyddiannus i Gyngor Abertawe am gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio i helpu i dalu costau'r gwaith atgyweirio yn adeilad Eglwys Sant Luc yng Nghwmbwrla, lle mae Circus Eruption yn gweithio.

Bydd hefyd yn cyfrannu at astudiaeth ddichonoldeb a fydd yn archwilio ffrydiau incwm o wagleoedd yn yr adeilad nad ydynt yn cael eu defnyddio, gan gynnwys y tŵr a'r neuadd genhadaeth.

Mae Circus Eruption, a ffurfiwyd ym 1991 fel y sefydliad cyntaf o'i fath yn y DU, yn darparu lle diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc - y mae llawer ohonynt yn wynebu heriau - i ddysgu sgiliau syrcas fel jyglo a cherdded ar ystudfachau, wrth hefyd hybu eu hyder a'u hunan-barch.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae rhan o'n buddsoddiad yn Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn canolbwyntio ar adfywio adeileddau hanesyddol. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd yn helpu i ddiogelu treftadaeth gyfoethog Abertawe wrth hefyd arwain at ddefnydd gwell o'r adeiladau hyn, neu ddefnydd a gynhelir gan bobl leol, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi cymeradwyo cais Circus Eruption am gyllid oherwydd bydd eu cynlluniau'n helpu i gadw eglwys hanesyddol yn Abertawe wrth hefyd roi hwb i elusen leol wych sy'n gwneud cymaint ar gyfer lles a hyder pobl.

"Mae adeilad Eglwys Sant Luc yn un o nifer o adeiladau hanesyddol yn Abertawe i elwa o gyllid, yn dilyn yr holl waith y mae'r Cyngor yn ei wneud i ddiogelu a dathlu treftadaeth ein dinas."

Meddai Karen Chalk, Cyfarwyddwr Circus Eruption, "Mae'r adeilad hwn wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer ein helusen, ond mae angen trawsnewid yr adeilad ei hun. Mae'r plant a phobl ifanc yn Circus Eruption yn dwlu ar eu gwagle, ac er i ni wneud gwelliannau cyson ers agor yn 2021, mae digonedd i'w wneud o hyd ac mae gwagleoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio. Rydym yn sicrhau dyfodol yr adeilad ar yr un pryd â dathlu ei dreftadaeth, ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth weithredol y Cyngor."

Mae adeileddau hanesyddol eraill a fydd yn elw o'r cyllid yn cynnwys Castell Ystumllwynarth, yr Eglwys Undodaidd ar y Stryd Fawr ac Eglwys y Bedyddwyr York Place yng nghanol y ddinas.