Dinasyddion yn ysbrydoli eraill i gymryd camau gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd
Mae pobl a sefydliadau yn cyfeirio at wedudalen newydd sy'n helpu Abertawe i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae amrywiaeth o unigolion a grwpiau yn gwneud eu gweithredoedd a'u dymuniadau'n hysbys ar Wal Addewid Hinsawdd ar-lein Cyngor Abertawe.
Mae'n caniatáu i ddinasyddion gymryd cam cyflym a syml i ddweud wrth eraill sut maen nhw'n helpu'r blaned.
Mae pob addewid ar-lein yn esbonio sut mae'r llofnodwr yn chwarae ei ran i helpu Abertawe i ddod yn wyrddach ac yn garbon sero-net.
Mae llawer yn addo rhoi'r gorau i'w ceir o blaid cludiant cyhoeddus, gyda llawer yn beicio neu'n cerdded am deithiau byrrach.
Mae rhai eisiau lleihau nifer eu teithiau ar awyren, neu roi'r gorau i hedfan yn gyfan gwbl. Hefyd yn uchel ar y rhestr mae mwy o gefnogaeth i fusnesau lleol, gan arbed ynni a datblygu ardaloedd mewn gerddi neu fannau gwyrdd lleol ar gyfer bywyd gwyllt.
Nod y cyngor yw dod yn sero-net erbyn 2030 a gwneud y ddinas yn sero-net erbyn 2050.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud addewidion ar ein wal ar-lein.
"Mae rhai negeseuon ysbrydoledig yno - mae nifer mawr o gamau y gallwn eu cymryd fel cymuned i helpu i wneud y byd yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae'r cyngor eisoes yn mynd yn wyrddach ac wedi arwyddo siarter ar weithredu newid yn yr hinsawdd sy'n ymrwymo i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a natur.
Os hoffech ddatgan yn gyhoeddus eich dymuniad i helpu i wneud Abertawe yn garbon sero-net, llofnodwch addewid hinsawdd y ddinas nawr - https://www.abertawe.gov.uk/addewidhinsawdd