Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dros 70 o arddangoswyr eisoes wedi'u cadarnhau ar gyfer Cynhadledd Canol y Ddinas

O fusnesau annibynnol bach i entrepreneuriaid, cwmnïau mawr a datblygwyr, mae dros 70 o arddangoswyr eisoes wedi'u cadarnhau ar gyfer digwyddiad pwysig a gynhelir yn y gwanwyn.

Swansea Arena (Gold Panels)

Swansea Arena (Gold Panels)

Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2022 a gynhelir yn Arena Abertawe ddydd Iau 17 Mawrth o 10am i 8pm, yn rhoi cyfle i fanwerthwyr, busnesau rhanbarthol, mentrau cymdeithasol, prosiectau cymunedol a sefydliadau nid er elw canol y ddinas, gynyddu eu proffil a gwneud cysylltiadau.

Bydd y digwyddiad a drefnwyd gan 4TheRegion, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, hefyd yn rhoi cyfle i ddathlu'r ddinas a'r rhanbarth a darganfod yr hyn sy'n digwydd nawr ac yn y dyfodol.

Bydd arddangoswyr a'r holl rai a fydd yn bresennol yn clywed gan benderfynwyr ac arweinwyr y ddinas, gan helpu i lunio'r weledigaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Bydd trafodaethau, sesiynau grwpiau llai, gweithdai a hwb busnes hefyd ar gyfer rhwydweithio a dosbarthiadau meistr.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y digwyddiad hwn - y gynhadledd gyntaf o'i bath i'w chynnal yn Arena Abertawe - yn dathlu popeth sy'n wych am Abertawe a'r rhanbarth, o'n busnesau lleol rhagorol i'r prosiectau mawr sy'n trawsnewid y ddinas a De-orllewin Cymru gyfan.

"Mae'r cyfuniad o'n busnesau a'n hentrepreneuriaid a'r adfywio sydd naill ai wedi'i gwblhau'n barod, ar y gweill neu yn yr arfaeth yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref i adfer o effaith economaidd y pandemig.

"Bydd Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2022 yn galluogi pawb a fydd yn bresennol i rwydweithio, cynyddu eu proffil a darganfod rhagor am gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol a fydd yn cyflwyno dinas a rhanbarth sy'n cyfuno cyfleusterau o'r radd flaenaf â swyddi a chyfleoedd o safon i fodloni dyheadau pawb."

Yn ogystal â Chyngor Abertawe, mae Pobl Group a Coastal Housing yn brif noddwyr ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn cynnwys pum parth: 

  • Datblygiad a Buddsoddiad, a noddir gan Ranbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe
  • Cyrchfan, Teithio a Thwristiaeth, a noddir gan Morgans Abertawe
  • Yr Economi Gylchol, Ynni a'r Amgylchedd, a noddir gan Pobl Group a Coastal Housing
  • Yr Economi Greadigol, Diwylliant a Digidol, a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Cysylltu'r Rhanbarth, a noddir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe

Meddai Dawn Lyle, sylfaenydd a chadeirydd 4TheRegion, "Ddwy flynedd yn ôl, bu'n rhaid i ni ganslo'r digwyddiad hwn pan osodwyd cyfyngiadau symud ar draws y byd. Ar ôl yr amser anodd y mae pob un ohonom wedi'i gael ers hynny, mae'n amser dod yn ôl at ein gilydd ac edrych i'r dyfodol - ein dinas wych ger y môr a'r holl bethau cyffrous sy'n digwydd yma.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at arddangos yr holl fusnesau, pobl, sefydliadau a phrosiectau a fydd yn gwneud y ddinas yn wych, a gobeithiwn y bydd pawb yn achub ar y cyfle i gael cipolwg ar yr arena newydd ragorol hefyd."

E-bostiwch zoe@4theregion.org.uk am wybodaeth am arddangos.

Gallwch hefyd fynd i https://www.swansea-arena.co.uk/events/city-centre-conference-4theregion i gofrestru i fynd i gynhadledd Canol y ddinas am ddim.

Close Dewis iaith