Toglo gwelededd dewislen symudol

Miliynau'n cael eu buddsoddi mewn eiddo fforddiadwy yng nghanol y ddinas

Mae cymdeithas tai fwyaf Cymru'n buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn eiddo fforddiadwy yng nghanol y ddinas fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Abertawe.

Orchard House

Orchard House

Yn ogystal ag ymrwymo i reoli 33 o fflatiau fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiad newydd gwerth £135 miliwn Bae Copr, mae Grŵp Pobl yn rhan o sawl cynllun pwysig yng nghanol y ddinas.

Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys trawsnewid Orchard House yn adeilad defnydd cymysg a fydd yn cynnwys fflatiau, swyddfa ac uned fasnachol, gan adeiladu ar waith gwerth £12 miliwn gan Gyngor Abertawe i wella Ffordd y Brenin fel ei fod yn amgylchedd llawer gwyrddach sy'n fwy addas i gerddwyr.

Grŵp Pobl fydd y partner preswyl hefyd ar gyfer y cynllun 'adeilad byw' ar Ffordd y Brenin a gyflwynir gan Hacer Developments. Mae cynlluniau eraill a arweinir gan Pobl yn cynnwys trawsnewid hen safle Russell House yng nghanol dinas Abertawe yn floc fflatiau pum llawr.

Meddai Claire Tristham, Cyfarwyddwr Datblygu Grŵp Pobl (Gorllewin),   "Yn Pobl, mae creu lleoedd yn un o'n huchelgeisiau allweddol, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r newidiadau cadarnhaol sy'n mynd rhagddynt yng nghanol dinas Abertawe.

"Mae datblygiadau fel Bae Copr yn pwysleisio ymrwymiad y cyngor i fynd i'r afael â'r angen am dai yn yr ardal, a bydd yn darparu tai fforddiadwy mawr eu hangen. Mae'r cartrefi newydd mewn lleoliad gwych, yn agos i'r parc arfordirol newydd, a byddant yn darparu llety o safon i'r gymuned leol.

"Gerllaw, mae ein gwaith i adnewyddu Orchard House wedi gwella golwg adeilad pwysig yng nghanol dinas Abertawe yn sylweddol, ac rydym wrth ein bodd i weld sut mae'r trawsnewidiad hwn wedi rhoi bywyd newydd i dirnod amlwg yng nghanol y ddinas.

"Edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru a gweithio tuag at ein perwyl o adeiladu cartrefi gwirioneddol gynaliadwy a mannau gwych lle mae pobl eisiau byw."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn croesawu'n fawr y gwaith y mae Pobl a phartneriaid eraill yn ei wneud i wella canol ein dinas drwy ddarparu rhagor o gartrefi, swyddfeydd a mangreoedd masnachol i bobl Abertawe.

"Mae'r gwaith hwn, sy'n cefnogi'r holl waith y mae'r cyngor yn ei wneud, yn rhan o strategaeth ehangach i annog rhagor o bobl i fyw, gweithio, astudio a mwynhau yn ein canol y ddinas newydd, i ddenu rhagor o ymwelwyr a gwariant, sy'n helpu i ddenu siopau a busnesau newydd yn ogystal â chefnogi busnesau sydd yma'n barod. 

"Mae'r sector preifat eisoes wedi darparu llety myfyrwyr ychwanegol yng nghanol y ddinas, gan helpu i amddiffyn cartrefi teuluoedd mewn ardaloedd eraill rhag cael eu newid yn dai amlfeddiannaeth, ond mae'r strategaeth cartrefi newydd yn ehangach o lawer. Bydd y datblygiadau hyn yn ein cefnogi i greu cartrefi mwy fforddiadwy, cartrefi preifat a chartrefi rhent i breswylwyr a gweithwyr proffesiynol yn ein canol y ddinas newydd."

Yn ogystal â'r fflatiau fforddiadwy a'r parc arfordirol 1.1 erw, mae cam un Bae Copr yn cynnwys Arena Abertawe sydd â lle i 3,500 o bobl, y bont nodedig dros Oystermouth Road, lleoedd ar gyfer hamdden a busnesau lletygarwch a channoedd o leoedd parcio newydd.

Mae ardal cam un Bae Copr yn cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwr datblygu, RivingtonHark.

Close Dewis iaith