Toglo gwelededd dewislen symudol

Canmol canol y ddinas fel gweithle

Mae canol dinas Abertawe wedi'i ganmol fel lle i weithio gan nifer o fusnesau yng nghanol y ddinas.

Ortharize

Ortharize

Yn ogystal ag agosrwydd Marchnad Abertawe a bwytai, caffis a siopau canol y ddinas, mae busnesau canol y ddinas yn dweud bod argaeledd gweithgareddau yno yn wych ar gyfer ymarferion fel adeiladu tîm.

Mae nifer o ddatblygiadau swyddfa newydd neu sydd ar ddod hefyd wedi cael eu canmol. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun 71/72 Ffordd y Brenin sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe ar hen safle clwb nos Oceana.

Mae'r ganmoliaeth yn dilyn lansiad ymgyrch Joio Canol Eich Dinas Cyngor Abertawe, sydd â'r nod o godi proffil popeth sydd i'w weld a'i wneud yng nghanol y ddinas - o siopau, bwytai, caffis a busnesau gweithgareddau diwylliannol, i leoliadau a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.

Mae negeseuon sy'n defnyddio #JoioCanolEichDinas yn cael eu cynnwys bob wythnos ar dudalennau Facebook ac Instagram y cyngor i helpu i godi proffil cymuned fusnes amrywiol canol y ddinas.

Chris Flynn yw cyfarwyddwr gweithrediadau Ortharize, cwmni archebu a rheoli teithiau busnes ar-lein yn Princess Way.

Meddai, "Mae Abertawe'n lle gwahanol iawn o'i gymharu â sut yr oedd tua 12 mlynedd yn ôl - mae wedi gwella cymaint.

"Mae canol y ddinas yn lle gwych i gael sylfaen fusnes oherwydd mae cyffro go iawn yma ar hyn o bryd a chymaint o ddewis, gan amrywio o siopau o ansawdd da i farchnad dan do orau Cymru sydd mor groesawgar.

"Hefyd, mae mwy o swyddi a busnesau addawol yma nawr, sy'n annog pobl leol i aros yn Abertawe a dod o hyd i waith yma."

Meddai Jed Dixon, Swyddog Gweithredol Marchnata Ortharize, "Mae canol dinas Abertawe bellach yn llawer mwy amrywiol o ran ei ddewisiadau bwyd, sy'n beth gwych i weithwyr canol y ddinas sy'n mynd mas am ginio neu am bryd o fwyd ar ôl gwaith.

"Mae hefyd yn lle gwych i gymryd rhan mewn cyfleoedd adeiladu tîm oherwydd y nifer o fusnesau gweithgareddau sydd yno, sy'n amrywio o sesiynau gwneud coctels a golffio dan do i drampolinio ac ystafell ddianc."

Darparwr TG a seiberddiogelwch yw Ever Nimble a agorodd swyddfa ar Stryd Fawr Abertawe'r llynedd.

Ever Nimble

Meddai Chris Morrissey, Prif Swyddog Gweithredol Ever Nimble, "Rwyf mor falch gyda'n penderfyniad i agor swyddfa yng nghanol dinas Abertawe.

"Mae ein tîm yn dwlu ar y ba mor gyfleus yw'r holl leoedd gwych i brynu cinio, y meysydd parcio fforddiadwy a'r cysylltiadau trên rhagorol.

"Ffordd wych o gefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn dod i'r ddinas yw drwy gynnig mwy o ddewis o ran swyddfeydd o ansawdd uchel, felly mae'n wych gweld rhai o'r swyddfeydd newydd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "O Arena Abertawe a'r gwelliannau i Ffordd y Brenin a Wind Street, mae rhaglen adfywio gwerth £1bn yn trawsnewid canol ein dinas yn lle llawer mwy bywiog i bobl ymweld ag ef, ei fwynhau ac astudio a byw ynddo - ac mae llawer mwy i ddod.

"Mae'r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn yn annog y sector preifat i fuddsoddi, ac mae mwy o swyddfeydd o'r safon uchaf ar y ffordd fel rhan o ddatblygiadau sy'n cynnwys 71/72 Ffordd y Brenin, ardal y Dywysoges a'r cynllun adeiladau byw yn datblygu yn Iard Picton.

"Bydd hyn wedyn yn annog mwy o ymwelwyr ar gyfer busnesau eraill yng nghanol y ddinas ac yn cyfuno â chynlluniau eraill i greu'r math o ganol dinas modern sy'n bodloni dyheadau pobl leol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Tachwedd 2023