Dros 120 o arddangoswyr wedi'u cadarnhau ar gyfer Cynhadledd Abertawe 2023
Mae dros 120 o arddangoswyr wedi'u cadarnhau ar gyfer digwyddiad mawr sydd ar ddod sy'n bwriadu dathlu popeth sy'n wych am Abertawe.
Cynhelir Cynhadledd Abertawe 2023, a drefnir gan 4 The Region mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe yn Arena Abertawe ddydd Mercher 29 Mawrth.
Yn ogystal â'r arddangosfa, bydd cyfle hefyd i ddysgu rhagor am adfywio yn Abertawe.
Thema cynhadledd eleni yw cefnogi busnesau lleol - prynu gan fusnesau lleol, cefnogi'ch gilydd a'r hyn y gellir ei wneud i gynnal gwariant o fewn yr economi leol.
Fel rhan o'r gynhadledd, cynhelir trafodaethau panel a chynulleidfa ar thema cefnogi bwyd a diod lleol, cefnogi celfyddydau a diwylliant lleol a chefnogi masnach annibynnol leol.
Rhennir ardal yr arddangosfa'n bum rhan - creadigol a digidol, datblygu a buddsoddi, ynni a'r amgylchedd, rhanbarthol a chyrchfan Abertawe.
Prifysgol Abertawe yw prif noddwr y digwyddiad hwn.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd Cynhadledd Abertawe 2023 yn rhoi'r cyfle i bawb sy'n bresennol i gael diweddariadau ar gynlluniau ailddatblygu mawr, ond bydd hefyd yn galluogi busnesau i rwydweithio, dangos eu gwasanaethau a chydweithio o bosib yn y dyfodol.
"Mae cefnogi busnesau lleol lle bynnag y bo'n bosib yn hynod bwysig oherwydd ei fod yn sicrhau bod digon o wariant o fewn yr economi leol ac yn helpu i greu swyddi lleol i bobl leol."
Gall aelodau'r cyhoedd hefyd ddod i Gynhadledd Abertawe 2023 am ddim.
Meddai Dawn Lyle o 4theRegion, "P'un a hoffech wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn Abertawe, codi proffil eich busnes neu brosiect neu fod yn rhan o sgyrsiau i helpu i lywio'r dyfodol, mae cynifer o resymau gwych i chi fod yn rhan o'r digwyddiad hwn."
Ewch i 4TheRegion.org am ragor o wybodaeth ac i weld amserlen ar gyfer y diwrnod.