Toglo gwelededd dewislen symudol

Tiwtora arbenigol yn helpu i leihau allyriadau carbon Abertawe

​​​​​​​Mae tiwtora arbenigol yn helpu Cyngor Abertawe i gymryd mwy o gamau gweithredu nag erioed i helpu i reoli newid yn yr hinsawdd.

Andrea Lewis

Andrea Lewis

Darparwyd cyfres o wersi a gweithdai "llythrennedd carbon" i aelodau a swyddogion, ac yn sgîl hyn maent wedi cymryd camau gweithredu allweddol wrth i'r cyngor weithio i wneud Abertawe'n ddi-garbon net erbyn 2050. Mae'r cyngor ei hun yn bwriadu dod yn ddi-garbon net erbyn 2030.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor ac aelod y cabinet dros newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid gwasanaethau, "Mae'r cyngor yn ymroddedig i wneud popeth y gall i fynd i'r afael ag argyfwng newid yn yr hinsawdd a natur y byd - ac rydym am gynnwys gweddill Abertawe yn yr ymdrech.

"Mae cynnig cyrsiau llythrennedd carbon i'n staff a'n haelodau'n gam bach ond pwysig. Rydym yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant newid yn yr hinsawdd ar draws y cyngor."

Ystyr llythrennedd carbon yw ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon ar weithgareddau pob dydd a'r gallu i leihau allyriadau.

Mae addewidion dysgu'n cynnwys:

Y Cyng. Andrea Lewis Byddaf yn canolbwyntio mwy ar siopa'n lleol a phrynu mwy o gynnyrch bwyd tymhorol, prynu cynnyrch bwyd moesegol a lleihau ein gwastraff bwyd fel teulu.

Y Cyng. Louise Gibbard Rwy'n ymrwymo i feicio i'r gwaith - bydd hyn yn cynhyrchu llai o garbon na fy nheithiau presennol.

Alyson Davies Fy addewid i yw dod yn fwy hunangynhaliol drwy dyfu fy ffrwythau a fy llysiau fy hunan. 

Sue Woodward Mae gan fy system gwres canolog olew ôl-troed carbon uchel; yn y dyfodol byddwn yn newid i bwmp gwres ffynhonnell aer sy'n fwy llesol i'r amgylchedd.

Gall pobl sydd â diddordeb mewn cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ymweld â Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe.

Llun:  Andrea Lewis

 

 

 

 

Close Dewis iaith