Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd: Y cyhoedd yn cefnogi ymdrechion y cyngor
Mae arolwg ar ymgais y cyngor i wneud yr ardal yn garbon sero-net wedi datgelu galw cyhoeddus lleol aruthrol am weithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Gwahoddwyd preswylwyr lleol i ddweud eu dweud ar sut gall y cyngor ymladd yr argyfwng hinsawdd orau - ac ymatebodd tua 1,000.
Datgelodd ymatebion fod:
- newid yn yr hinsawdd yn bryder i'r rhan fwyaf o bobl leol
- bron tri chwarter o'r rheini a ymatebodd i'r arolwg wedi gwneud newidiadau ymwybodol i leihau eu hôl troed carbon
- y rhan fwyaf o bobl yn barod i wneud newidiadau tuag at Abertawe Sero-net
- y cyhoedd yn cefnogi camau gweithredu'r cyngor a fydd yn helpu'r sefydliad i ddod yn sero-net erbyn 2030.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor ac aelod y cabinet dros newid yn yr hinsawdd a thrawsnewid gwasanaethau, "Mae'r cyngor yn bwriadu dod yn garbon sero-net erbyn 2030 a'i fwriad yw gwneud y ddinas yn sero-net erbyn 2050.
"Roedd yr arolwg wedi dangos bod pobl Abertawe yn gyffredinol yn awyddus i weld newid ac yn gefnogol o weithredu ar newid yn yr hinsawdd.
"Bydd y canlyniadau'n ein helpu i flaenoriaethu'n camau gweithredu wrth i ni helpu'r ddinas gyfan i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn sy'n diffinio'n hoes.
"Rwy'n diolch i bawb a gymerodd ran; bydd yr arolwg yn ein helpu i gyflawni cymaint wrth i ni geisio dod yn sero-net."
Roedd arolwg y cyngor ar gyfer preswylwyr o bob oed a sefydliadau o bob math yn cynrychioli dechrau sgwrs wrth i'r cyngor geisio creu ymagwedd strategol ar draws y ddinas at gyflawni Abertawe carbon sero-net.
Fel rhywbeth gweledol i atgoffa pobl ei fod yn bwriadu dod yn sero-net, mae gan y cyngor eisoes siarter ar weithredu ar yr hinsawdd a gwedudalen lle gall y cyhoedd wneud eu haddewidion eu hunain am newid yn yr hinsawdd.