Toglo gwelededd dewislen symudol

Cloc hanesyddol y ddinas yn gweithio cyn bo hir

Mae peirianwyr arbenigol yn bwriadu gweithio ar gloc hanesyddol Neuadd y Ddinas o'r wythnos nesaf.

Guildhall

Guildhall

Maent yn bwriadu gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau bod yr amserydd - ar dŵr amlwg yr adeilad hanesyddol - yn gweithio unwaith eto yn y misoedd i ddod.

 

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn aros ers nifer o fisoedd am beirianwyr i fod ar gael.

 

Meddai Aelod y Cabinet a Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe, David Hopkins, "Rydym yn diolch i bobl am fod yn amyneddgar oherwydd ein blaenoriaeth fu gweithredu yn sgîl y pandemig.

 

"Rydym hefyd wedi bod yn aros am arbenigwyr i sicrhau amser rhydd i wneud y gwaith pwysig hwn. Mae'n bwysig bod gennym y tîm iawn i wneud y gwaith. Ychydig iawn o'r arbenigwyr hyn sydd ar gael, ac, fel pob busnes, mae'r pandemig wedi effeithio arnynt.

 

"Mae'r cloc yn golygu llawer i bobl Abertawe, a byddant yn falch i'w weld unwaith eto'n darparu gwasanaeth gwerthfawr."

 

Bwriedir i'r Cumbria Clock Company ddechrau ar y gwaith yr wythnos nesaf. Byddant yn tynnu'r bysedd o wyneb y cloc yn gyntaf; yna bydd ei fecanwaith mewnol yn cael ei anfon i ffatri ar gyfer gwaith cynnal chadw.

 

Nid effeithir ar fynediad i Neuadd y Ddinas yn ystod y gwaith.

 

Agorodd Neuadd y Ddinas ym 1934. Cafodd ei dyluniad a'i nodweddion unigryw eu hefelychu'n aml mewn adeiladau dinesig eraill dros y ddau ddegawd yn dilyn ei chwblhau, ac mae'r adeilad wedi bod yn ddefnyddiol yn ogystal ag yn ysblennydd o ran pensaernïaeth.

 

Mae wedi gweithredu fel canolbwynt llywodraeth leol a chyfiawnder, mae'n ganolbwynt ar gyfer seremonïau dinesig ac mae'n un o brif ganolfannau bywyd cymdeithasol a diwylliannol Abertawe.

 

Llun: Tŵr cloc Neuadd y Ddinas

 

 


 

Close Dewis iaith