Miloedd i gael cymorth drwy grant o £500,000 y gaeaf hwn
Bydd miloedd o breswylwyr yn Abertawe yn cael cymorth y gaeaf hwn diolch i £500,000 o gyllid gan Gyngor Abertawe.


Roedd grwpiau a sefydliadau sy'n darparu bwyd am ddim i blant oed ysgol yn ystod y gwyliau, gweithgareddau â chymhorthdal neu am ddim neu sy'n agor eu drysau i gynnig croeso cynnes i breswylwyr, wedi cael eu gwahodd i wneud cais am y grantiau a ariennir gan y cyngor.
Mae'r grant Galluogi Cymunedau newydd yn ceisio adeiladu ar y rhaglenni llwyddiannus sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn y blynyddoedd diweddar.
Diolch i'r cyllid, mae 51 o gynlluniau sy'n darparu bwyd i blant oed ysgol yn ystod y gwyliau ysgol yn cael eu cefnogi.
Bydd y cyngor unwaith eto'n cefnogi 81 o Leoedd Llesol Abertawe yn ariannol - mae'r rhain yn fannau cynnes a chroesawgar lle gall pobl fynd i gymdeithasu.
Mae 107 o glybiau a sefydliadau pellach wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid a fydd yn eu galluogi i gynnig gweithgareddau am ddim neu â chymhorthdal i bobl ifanc, eu teuluoedd a phreswylwyr 50 oed a throsodd.