Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc yn Abertawe i'w enwi i anrhydeddu Amy Dillwyn

Bydd parc arfordirol yn Abertawe yn cael ei enwi'n Barc Amy Dillwyn er cof am un o fenywod busnes ac un o nofelwyr mwyaf dawnus y ddinas.

Swansea Coastal Park

Swansea Coastal Park

Datblygwyd y parc sydd wrth ymyl Arena Abertawe gan Gyngor Abertawe, ac fe'i hagorwyd yn gyntaf i'r cyhoedd 12 mis yn ôl.

Cyhoeddwyd yr enwi hwn gan Gyngor Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, diwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched.

Ganed Amy Elizabeth Dillwyn (1845 i 1935) yn Sgeti i deulu enwog, ac ysgrifennodd chwe nofel ar themâu a oedd yn cynnwys ffeministiaeth a diwygio cymdeithasol .

Ar ôl marwolaeth ei thad ym 1892, etifeddodd ei waith sinc yn Llansamlet gan reoli'r gwaith yn bersonol.

Ymunodd Amy Dillwyn hefyd ag Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau'r Bleidlais i Ferched ac ymgyrchodd dros y bleidlais i ferched.

Meddai'r Cyng. Louise Gibbard, Aelod Cabinet yng Nghyngor Abertawe a'r Cynghorydd Hyrwyddwr dros Fenywod, "Mae'n addas iawn bod y cyhoeddiad am enwi'r parc wedi digwydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched gan fod Amy Dillwyn ymhlith y merched mwyaf arloesol ac ysbrydoledig yn hanes Abertawe.

"Roedd ei gwaith ymgyrchu gyda llawer o ferched dewr eraill wedi arwain at fenywod yn cael yr hawl i bleidleisio, rhywbeth na ddylid byth ei anghofio.

"Bydd enwi'r parc arfordirol er anrhydedd iddi yn sicrhau etifeddiaeth hirdymor ar gyfer bywyd Amy Dillwyn a'i chyflawniadau sylweddol.

Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, "Yn ogystal â'i gwaith ymgyrchu dros y bleidlais i ferched, roedd Amy Dillwyn hefyd yn nofelydd dawnus ac yn ferch fusnes graff a llwyddiannus ar adeg pan roedd Abertawe'n ganolog i ddiwydiant mwyndoddi copr y byd.

"Bydd enwi'r parc er cof am Amy Dillwyn, un o'r diwydianwyr benywaidd cyntaf ym Mhrydain y mae prif nodweddion ei bywyd hefyd yn cynnwys ei chysylltiadau LHDTC, yn adeiladu ar yr holl waith y mae'r cyngor yn ei wneud i ddathlu hanes a diwylliant Abertawe."

Yn 2018, dewiswyd Amy Dillwyn fel un o'r 100 o Fenywod Cymreig blaenllaw gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn eu prosiect i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918.

Roedd hi'n ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn ac Elizabeth (née De la Beche).

Amy Dillwyn

Close Dewis iaith