Toglo gwelededd dewislen symudol

Plannu planhigion fydd y cam nesaf yn y gwaith o ddatblygu'r parc arfordirol ymhellach

Bydd digonedd o blanhigion yn cael eu plannu ym mharc arfordirol newydd Abertawe cyn bo hir wrth i'r gwaith i adeiladu'r atyniad ddod yn agosach at gael ei gwblhau.

Coastal Park Jan 2022 combined

Coastal Park Jan 2022 combined

Bydd y gwaith plannu a wneir dros y pythefnos nesaf yn dilyn cynnydd sylweddol diweddar ar y parc arfordirol 1.1 erw, sy'n rhan o ardal cam un Bae Copr gwerth £135m sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe.

Mae'r gwaith parhaus cyfredol yn cynnwys cyflwyno nodweddion dŵr ac ardaloedd chwarae meddal i blant.

Bydd y parc arfordirol hefyd yn cynnwys detholiad o goed newydd, gan gynnwys coed ceirios a phinwydd. Maent ymysg dros 70 o goed newydd sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o ardal cam un Bae Copr yn ei chyfanrwydd.

Bydd y parc, sydd ar bwys Arena Abertawe, yn barod erbyn i'r arena agor ei drysau ym mis Mawrth.

Bydd gwestai pryfed a WiFi am ddim hefyd ar gael yn y parc, ynghyd â meinciau a bwerir gan baneli solar a fydd yn galluogi pobl i wefru eu ffonau clyfar, eu tabledi a'u gliniaduron.

Mae nodweddion eraill y parc yn cynnwys bwyty newydd a fydd yn cael ei redeg gan The Secret Hospitality Group o Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Byddwn yn plannu llawer o flodau yn y gwelyau blodau dros y pythefnos nesaf i ychwanegu llawer o wyrddni at y parc arfordirol cyn iddo gael ei gwblhau. Mae hyn yn dilyn y cynnydd sylweddol a wnaed dros y misoedd diwethaf, ac mae'r parc bellach yn datblygu'n dda iawn.

"Bydd y parc hwn, sef y parc newydd cyntaf yng nghanol y ddinas ers Oes Fictoria, yn ardal o safon i breswylwyr, teuluoedd, gweithwyr canol y ddinas ac ymwelwyr ag Abertawe ymlacio ynddi, cwrdd â ffrindiau a mwynhau'r golygfeydd neu fynd am bryd o fwyd neu ddiod cyn digwyddiad yn Arena Abertawe.

"Fel rhan allweddol o ardal Bae Copr Abertawe, mae hefyd yn cyfrannu at ein cynllun parhaus i gyflwyno cymaint o wyrddni â phosib yng nghanol dinas Abertawe. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys ein gwaith gwerth £12m i drawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd llawer gwyrddach a mwy pleserus, ynghyd â'n cynlluniau i gyflwyno llawer mwy o wyrddni fel rhan o brosiect mawr i wella gerddi Sgwâr y Castell."

Dyluniwyd y parc arfordirol, sydd uwchben maes parcio newydd, ar ffurf twyn i ddathlu ei agosrwydd at draeth Abertawe. Bydd wal fyw yn un o'r nodweddion a geir ar ochr Oystermouth Road o'r maes parcio newydd i ategu'r gwyrddni sydd eisoes yn cael ei gyflwyno yno.

Mae cam un Bae Copr yn cael ei gynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark, a Buckingham Group Contracting yw'r prif gontractwr.

Bydd Bae Copr, sydd hefyd yn cynnwys Arena Abertawe, y bont newydd dros Oystermouth Road, fflatiau newydd, mwy o fannau parcio a lleoedd newydd eraill ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch, yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.

* PENNAWD Y LLUN: Dyma sut mae'r parc arfordirol yn edrych ar hyn o bryd, a bwriedir plannu digonedd o blanhigion newydd dros yr wythnosau nesaf *

Close Dewis iaith