Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru genedigaeth

Dylech gofrestru genedigaeth o fewn 42 ddiwrnod o ddyddiad yr enedigaeth yn y rhanbarth y digwyddodd.

Sut rydw i'n cofrestru genedigaeth?

Ar gyfer genedigaethau yn Abertawe, rhaid i chi gofrestru'r enedigaeth yn y Swyddfa Gofrestru, y Ganolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.

Bydd angen apwyntiad arnoch i gofrestru genedigaeth.  Ffoniwch 01792 637444 i drefnu un.

Pwy sy'n gallu cofrestru genedigaeth?

  • un o'r rhieni os yw'r rhieni'n briod â'i gilydd.
  • y fam, neu'r fam a'r tad gyda'i gilydd os nad ydynt yn briod â'i gilydd.

Os nad yw'r rhieni'n briod â'i gilydd ar adeg yr enedigaeth, gellir cofnodi manylion y tad pan fydd y fam a'r tad yn dod gyda'i gilydd i gofrestru'r enedigaeth.

Pan nad yw'r tad yn gallu dod, gall wneud Datganiad Statudol sy'n cadarnhau mai ef yw'r tad. Bydd y fam yn rhoi'r datganiad hwn i'r Cofrestrydd (mae'r ffurflen ar gyfer y datganiad ar gael mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru).

Pan na all mam ddod gyda'r tad, gall ofyn i wneud Datganiad Statudol yn cadarnhau enw'r tad. Dylai'r tad roi'r datganiad i'r Cofrestrydd.

Pan fydd gan y naill riant Orchymyn Llys neu Gytundeb Cyfrifoldeb Rhiant o ran y plentyn, rhaid rhoi'r Gorchymyn Llys neu'r Cytundeb i'r Cofrestrydd a fydd yn rhoi cyngor ar bob achos yn unigol.

Os bydd dwy fenyw'n cofrestru'r enedigaeth, ffoniwch 01792 637444 am fwy o gyngor.

Pa wybodaeth y bydd ei hangen ar y cofrestrydd a pha ddogfennau y dylwn ddod â hwy i'r apwyntiad?

Bydd Cofrestrydd yn siarad â chi'n breifat yn y Swyddfa Gofrestru a bydd yn gofyn i chi am y canlynol:

  • y dyddiad a lleoliad yr enedigaeth.
  • enw llawn a chyfenw'r plentyn.
  • enw/enwau llawn y rhiant/rhieni.
  • swydd y rhiant/rhieni a lle cawsoch eich geni.
  • cyfeiriad/cyfeiriadau arferol y rhiant/rhieni.
  • dyddiad geni'r rhiant/rhieni.

Mae'n ddefnyddiol i'r cofrestrydd os yw rhiant/rhieni'n dod â dogfen adnabod e.e. pasbort, trwydded yrru neu dystysgrif geni sy'n nodi ei enw llawn.

Unwaith y byddwn wedi cwblhau'r cofrestru, bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi wirio bod yr holl fanylion yn gywir cyn llofnodi'r gofrestr. Dylech wirio'r wybodaeth yn ofalus cyn ei llofnodi oherwydd bydd rhaid cywiro unrhyw gamgymeriadau y deuir o hyd iddynt ar ôl y broses gofrestru yn ôl weithdrefn gywiro ffurfiol.

Pa ddogfennau y bydd y cofrestrydd yn eu rhoi i mi?

Gallwch brynu tystysgrifau geni am ffi o £12.50 y dystysgrif.

Bydd tystysgrif geni safonol yn cynnwys enw, dyddiad a man geni'r plentyn yn ogystal â manylion y rhiant/rhieni.

Bydd tystysgrif geni fer yn cynnwys manylion y plentyn yn unig.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2024